BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041449w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1449 (Cy.149)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 26 Mai 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 26(1) i (2B), 59(4)(a) a (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl rheoliad 2 rhodder - 

    (3) Yn lle rheoliad 3 rhodder - 

    (4) Ar ôl rheoliad 8 rhodder - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mai 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaethau newydd ar awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol i benodi swyddogion adolygu annibynnol ("IROs") mewn cysylltiad ag adolygu achosion plant sy'n derbyn gofal neu y mae llety'n cael ei ddarparu ar eu cyfer o dan Ran VII o Ddeddf Plant 1989.

Mewnosodwyd y pwcircer i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi IROs yn adran 26 o Ddeddf Plant 1989 (adolygu achosion) gan adran 118 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Gellir cymhwyso'r gofynion i gyrff gwirfoddol yn rhinwedd adran 59(4) a (5) o Ddeddf Plant 1989.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991, a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 1989. Mae'r rheoliad 2A newydd yn darparu ar gyfer swyddogaethau IROs, y disgrifiad o bersonau y gellir eu penodi yn IROs ac ym mha ffordd y dylai'r IROs gyflawni eu swyddogaethau. Mae hefyd yn amnewid rheoliad 3 newydd, sy'n darparu ar gyfer amseru adolygiadau (gan gynnwys darpariaeth i gynnal adolygiadau pan fydd yr IRO yn cyfarwyddo hynny). Mae'r rheoliad 8A newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol hysbysu'r IRO am unrhyw newid sylweddol o ran amgylchiadau yn dilyn adolygiad neu fethiant sylweddol i weithredu penderfyniadau adolygiad.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf 1989 yn Atodlen 1 iddo ac adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Diwygiwyd adran 26 gan adran 118 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38).back

[2] O.S.1991/895 a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, O.S. 1995/2015, O.S. 1997/649, O.S. 2002/2935 ac O.S. 2002/3013.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090951 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 4 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041449w.html