BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041510w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1510 (Cy.159)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004

  Wedi'i wneud 15 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), 50(4), 81(2), 81(3) a 105(2), (3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Diwygio Gorchymyn 2001
     3. Ar ôl Erthygl 3 o Orchymyn 2001 mewnosoder  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw'r awdurdodau perthnasol, ond nid felly awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i God Ymddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf.

Rhagnodwyd Cod Ymddygiad Enghreifftiol i aelodau awdurdodau perthnasol gan Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ("Gorchymyn 2001") a wnaed o dan adran 50(2).

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2001, drwy fewnosod Erthygl 4 newydd sy'n datgymhwyso darpariaethau statudol presennol sy'n ymwneud â Chod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol yng Nghymru.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2276) (Cy.166)).back

[3] O.S. 2001/2289 (Cy.177) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/163 (Cy.18)).back

[4] 1972 p.70.back

[5] 1974 p.7.back

[6] 1989 p.42.back

[7] 1978 p.30.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090955 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 22 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041510w.html