BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041606w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1606 (Cy.165)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 23 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], yn gwneud y Cynllun canlynol  - 

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, bydd yn gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Cynllun hwn  - 

Talu'r grantiau a swm y grantiau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 29 Mehefin 2004 ond cyn 31 Hydref 2005 ac  - 

    (2) Os yw'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod gwariant y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) i'w dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.

Terfynau ariannol
    
4.  - (1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ystyried cyfanswm nifer y ceisiadau am grantiau a gymeradwywyd neu a dderbyniwyd eisoes, ar unrhyw adeg o'r farn nad yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael i dalu grantiau o dan y Cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod yn ddigonol i fodloni unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n ganlyniad cymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, mewn perthynas ag unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond na chafodd ei dderbyn hyn yn hyn, neu unrhyw gais a all ddod i law yn ystod y cyfnod perthnasol  - 

    (2) Rhaid cyhoeddi hysbysiad  - 

    (3) Yn is-baragraffau (1) a (2), ystyr "y cyfnod perthnasol" yw'r cyfnod sy'n dechrau drannoeth ar ôl y dyddiad penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), neu unrhyw ddyddiad wedyn a bennir ganddo mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(a), ac sy'n diweddu ar y dyddiad y caiff bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b).

Cyfyngiadau ar dalu grantiau
    
5. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â thalu grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3  - 

Cais am grant
     6.  - (1) Rhaid i unrhyw gais am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu, a rhaid i'r ceisydd o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch y cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, y dogfennau a'r cofnodion perthnasol.

    (2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybod yn ysgrifenedig i geisydd a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.

Dirymu a darpariaethau trosiannol
    
7.  - (1) Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001[5] (a ddisodlir gan yr offeryn hwn).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)


Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan baragraff 4 o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu Dwcirc r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliad hwn yn debyg i'r rhai a gynhwyswyd yn y Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Lloegr a Chymru) 1996, ac eithrio bod y meini prawf ar gyfer cymhwyster busnesau amaethyddol wedi newid fel mai'r unig fusnesau amaethyddol sydd bellach yn gymwys ar gyfer grant yw'r rhai a leolir yn y Parthau Perygl Nitradau a ddynodir gan Reoliadau Diogelu Dwcircr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002.

Mae'r grant ar gael yn ôl cyfradd o 40% tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daw'r Cynllun i rym ar 30 Mehefin 2004 a 31 Hydref 2005 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu dwcirc r glân a dwcirc r brwnt (paragraff 3).

Gwneir darpariaeth gan baragraff 4 o'r Cynllun ar gyfer ystyried ceisiadau yn ystod cyfnod sydd i'w hatal neu eu gwrthod os nad oes adnoddau ariannol digonol ar gyfer talu grantiau o dan y Cynllun.

Gosodir nifer o gyfyngiadau ar dalu grantiau o dan y Cynllun (paragraff 5).

Penderfynir ar y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (paragraff 6).

Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Datblygu Bwyd a Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1970 p.40. Gweler adran 28 ar gyfer y diffiniad o "the appropriate authority". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymru) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2(a) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o'r Ddeddf Amaethyddol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] O.S. 1991/324, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/324.back

[3] O.S. 1996/888.back

[4] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.back

[5] O.S. 2001/3709.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090960 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041606w.html