BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent (Trosglwyddo Eiddo Ymddiriedolaeth) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041607w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1607 (Cy.166)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent (Trosglwyddo Eiddo Ymddiriedolaeth) 2004

  Wedi'i wneud 23 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 92(1), (4) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ar ôl rhoi sylw i newidiadau yn y trefniadau ar gyfer gweinyddu'r gwasanaeth iechyd yn ardaloedd Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli.
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent (Trosglwyddo Eiddo Ymddiriedolaeth) 2004 a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys
    
2.  - (1) Ar 1 Gorffennaf 2004 trosglwyddir eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono[2] i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre[3].

    (2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Dyfed Powys yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.

Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Gwent
     3.  - (1) Ar 1 Gorffennaf 2004 dosrannir eiddo ymddiriedolaeth Gwent ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono a'u trosglwyddo i'r Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 2[4].

    (2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Gwent, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Gwent i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y mae eiddo ymddiriedolaeth Gwent wedi cael ei drosglwyddo iddo a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Gwent yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mehefin 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 1


Eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys


£29,957



ATODLEN 2
Rheoliadau 1 a 3


Eiddo ymddiriedolaeth Gwent


Colofn 1 Colofn 2
£124,011    
  Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili £33,132
  Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd £27,061
  Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen £17,998
  Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent £16,893
  Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy £16,678
  Bwrdd Iechyd Lleol Powys £9,272
  Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre £2,977



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo (ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig) eiddo ymddiriedolaeth yr hen Awdurdod Iechyd Dyfed Powys i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, ac mae'n trosglwyddo (ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig) eiddo ymddiriedolaeth yr hen Awdurdod Iechyd Gwent i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac i Fyrddau Iechyd Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen a Phowys.


Notes:

[1] 1977 p.49. Diwygiwyd adran 92 gan adran 11(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) ("Deddf 1990"), a pharagraff 44 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a chan baragraff 28 o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8) ("Deddf 1999"); diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 92 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977") i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[2] Gweler adran 96 o Ddeddf 1977 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 29 o Atodlen 4 i Ddeddf 1999 sy'n gwneud darpariaethau atodol ynghylch trosglwyddo eiddo o dan adran 92 o Ddeddf 1977.back

[3] Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre o dan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826 ac O.S. 2002/442 (Cy.57).back

[4] Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 O.S. 2003/148 (Cy.18).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090961 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041607w.html