BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041732w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1732 (Cy.175)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 23 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23A(3) a 10(4) o Ddeddf Plant 1989[1], drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) (Diwygio) 2004.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2004.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001[
2].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad paragraff 4 o'r Prif Reoliadau
     2.  - (1) Ym mharagraff 4(2) o'r Prif Reoliadau, ar ddechrau'r frawddeg, ac o flaen y geiriau "unrhyw blentyn", mewnosoder y geiriau "Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),".

    (2) Yn Rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau yn rhagnodi categorïau ychwanegol penodol o blant a phobl ifanc y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer a chategorïau penodol o blant sy'n cael eu heithrio o'r cymhwyster ar gyfer y gwasanaethau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân addasiad i eithrio plant a phobl ifanc penodol o un o'r categorïau ychwanegol. Mae'r plant hyn yn blant a fyddai'n gymwys fel "plant perthnasol" (yn ôl y diffiniad o "relevant children" yn adran 23A o Ddeddf Plant 1989) am eu bod yn yr ysbyty neu'n cael eu dal wrth gyrraedd 16 oed ac ar ôl cael cyfnod cymwys yn cael eu lletya gan awdurdod lleol, ond bod y cyfnod cymwys yn cael ei gyflawni'n gyfan gwbl o leoliadau byr pan oedd y plentyn yn dychwelyd adref ar ôl iddynt ddigwydd.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mewnosodwyd Adran 23A gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 8(7) o Ddeddf 2000.back

[2] O.S. 2001/2189 (Cy. 151).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090974 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 15 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041732w.html