BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041733w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1733 (Cy.176)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 2 Awst 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 2 Awst 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Cymhwyso Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Cymru
     3.  - (1) Mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf (a fewnosodwyd gan Reoliadau 2004) yn peidio, fel bod y diwygiadau i Ran 1 o'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau 2004 ac sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i Gymru.

    (2) Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[
5] i'r Ddeddf i'w drin fel petai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2004 a'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 3(1)


DIWYGIADAU I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981


     1. Yn adran 1 (diogelu adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau) - 

     2. Yn y diffiniad o "wild bird" yn is-adran (1) o adran 27 (dehongli Rhan 1) - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("y Ddeddf"), sy'n trosi'n rhannol Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt (O.J. Rhif L103, 25.04.1979, t.1).

Mewnosododd Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwallt 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004 ("Rheoliadau 2004") adran 27ZA newydd yn y Ddeddf a'i heffaith oedd bod y diwygiadau eraill a wnaed gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i Loegr yn unig. Yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf yn peidio, a thrwy hynny yn cymhwyso i Gymru y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2004.

Mae'r diwygiadau hynny, sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn cynnwys cyfyngiad ar gwmpas yr amddiffyniadau o dan adran 1(3) o'r Ddeddf, ac estyniad i'r diffiniad o "wild bird" yn adran 27 o'r Ddeddf.


Notes:

[1] O.S. 2002/248, erthygl 3 ac Atodlen 2.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1981 p.69.back

[4] O.S. 2004/1487.back

[5] O.S. 1999/672.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090967 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 13 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041733w.html