BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041741w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1741 (Cy.180)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym
  ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud 
  rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) 1 Medi 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(4), 4(1), (2), (3) a (5), 14(3) a 42(6) a (7) o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004.

    (2) Ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.

    (3) Daw rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) i rym ar 1 Medi 2004.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
    
2. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000[3] fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ("Rheoliadau 2000") er mwyn darparu bod athrawon sydd wedi methu eu cyfnod ymsefydlu yn gymwys i gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") yn ystod y terfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl ac, os ydynt yn cyflwyno apêl, tra'n disgwyl canlyniad yr apêl.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Reoliadau 2000. Maent yn galluogi'r Cyngor i wneud ei ddarpariaeth ei hun ynghylch ffurf a dull gwneud ceisiadau am gofrestru. Maent yn ychwanegu awdurdod esgobaethol mewn perthynas ag ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol yr Eglwys Gatholig Rufeinig, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn fel cyrff y mae'n ofynnol i'r Cyngor roi gwybodaeth benodol iddynt. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddarparu gwybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2000 i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon ac i ddarparu gwybodaeth am ymsefydlu athrawon ysgol i gyrff priodol (h.y. y cyrff hynny sy'n gyfrifol am oruchwylio cyfnodau ymsefydlu athrawon ysgol). Maent yn cyfyngu manylion cymwysterau academaidd a phroffesiynol a gofnodir ar y gofrestr i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athrawon. Maent hefyd yn gwneud diwygiadau sy'n ganlyniadol i Ddeddf Addysg 2002, gan ddiweddaru cyfeiriadau yn Rheoliadau 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i fod yn gyfeiriadau ati.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae adrannau 2 at 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir Adrannau 3(4) a 4 yn rhagolygol gan baragraffau 3(6) a 4(2) o Atodlen 12 a pharagraff 77 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1979 (Cy.140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200).back

[4] 2002 p.32. Gweler Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[5] O.S. 2003/543 (Cy. 77) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back

[6] Y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn oedd, mewn perthynas â Chymru, Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S. 2003/543 (Cy.77), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87), ac mewn perthynas â Lloegr, Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgrynhoi) 2001, O.S. 2001/2897, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3938, O.S. 2002/2063 ac O.S. 2003/106.back

[7] 1998 p. 31.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090971 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 14 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041741w.html