BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi), a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041749w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1749 (Cy.186)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi), a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 9 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 74A, 77(4) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], ar ôl yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[2], ac yn cael ei ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd a fwydir iddynt, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2004.

Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001[5] yn unol â pharagraffau (2) i (5).

    (2) Yn Rhan V (elfennau hybrin) o Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau sy'n ymwneud â'u defnydd), dileuir y cofnodion sy'n ymwneud ag "Iron-Fe", "Cobalt-Co", "Copper-Cu", "Manganese-Mn" a "Zinc-Zn".

    (3) Yn Rhan IX (Rheoliadau y Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3  - 

    (4) Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud â "dioxin (sum of polychlorinated dibenzo-para-dioxins (PCDDs) and polychlorinated dibenzofurans (PCDFs) expressed in World Health Organisation (WHO) toxic equivalents using the WHO-TEFs (toxic equivalency factors, 1997) PCDD/F" a nodir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Ran I (porthiant) o Atodlen 7 (terfynau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) rhoddir y cofnodion a nodir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    (5) Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag "analogues of methionine" a nodir yng ngholofnau 1 i 7 yn y drefn honno o Atodlen 8 (rheoli ffynhonellau protein penodol) rhoddir y cofnodion a nodir yng ngholofnau 1 i 7 yn y drefn honno o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) rhoddir y paragraff canlynol  - 

    (3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 24 (addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) rhoddir y paragraff canlynol - 

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
    
4. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[6] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 5 a 6.

     5. Ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi), ar ôl y geiriau "Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001" rhoddir am weddill y paragraff y geiriau "as amended by Regulations up to and including the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2004".

    
6. Yn lle paragraff (11)(a) o Ran II (nodiadau ar gyfer llenwi tystysgrif) o Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif ddadansoddi), rhoddir y paragraff canlynol  - 

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
    
7. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999[7] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 8 i 11.

     8. Yn rheoliad 7 (addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol)  - 

     9. Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B, yn lle'r ymadrodd "the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003, the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2003", rhoddir yr ymadrodd ", Regulations up to and including the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2004".

    
10. Yn y fersiwn addasedig o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 sydd wedi'i nodi yn rheoliad 9, yn lle'r ymadrodd "the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003, the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2003", rhoddir yr ymadrodd ", Regulations up to and including the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2004".

    
11. Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970), yn lle'r fersiwn addasedig o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 sydd wedi'i nodi yn y rheoliad hwnnw rhoddir yr is-adran ganlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 2(4)


COFNODION I'W RHOI YN LLE'R COFNODION YN RHAN 1 O ATODLEN 7 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001


Column 1 Column 2 Column 3
Dioxin (sum of polychlorinated dibenzo-para-dioxins (PCDDs) and polychlorinated dibenzo-furans (PCDFs) expressed in World Health Organisation (WHO) toxic equivalents, using the WHO-TEFs (toxic equivalency factors, 1997)) All feed materials of plant origin including vegetable oils and by-products 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Minerals as listed in Section 11 of Part II of Schedule 2 1.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Kaolinitic clay, calcium sulphate dihydrate, vermiculite, natrolite-phonolite, synthetic calcium aluminates and clinoptilolite of sedimentary origin belonging to the group "binders, anti-caking agents and coagulants" authorised under Council Directive 70/524/EEC concerning additives in feedingstuffs (OJ No. L270, 14.12.70, p.1) 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Animal fat, including milk fat and egg fat 2.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Other land animal products including milk and milk products and eggs and egg products 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Fish oil 6 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Fish, other aquatic animals, their products and by-products with the exception of fish oil and fish protein hydrolysates containing more than 20% fat 1.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Compound feedingstuffs, with the exception of feedingstuffs for fur animals, pet foods and feedingstuffs for fish 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Feedingstuffs for fish Pet foods 2.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     Fish protein hydrolysates containing more than 20% fat 2.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg
     " Note in respect of the entry in Column 2 relating to fish, other aquatic animals, their products and by-products with the exception of fish oil and fish protein hydrolysates containing more than 20% fat

Fresh fish directly delivered and used without intermediate processing for the production of feedingstuffs for fur animals is exempted from the maximum limit and a maximum level of 4.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg product is applicable to fresh fish used for the direct feeding of pet animals, zoo and circus animals. The products, processed animal proteins produced from these animals (fur animals, pet animals, zoo and circus animals) cannot enter the food chain and the feeding thereof is prohibited to farmed animals which are kept, fattened or bred for the production of food

Note in respect of all the entries in Column 3

Upper-bound concentrations; upper-bound concentrations are calculated assuming that all values of the different congeners less than the limit of quantification are equal to the limit of quantification..

".




ATODLEN 2
Rheoliad 2(5)


COFNODION I'W RHOI YN LLE'R COFNODION YN ATODLEN 8





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'u diwygiwyd eisoes). Mae Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1334/2003 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion mewn porthiant ac sy'n perthyn i'r grwp elfennau hybrin (OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.11), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1801/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ficro-organedd penodol mewn porthiant (OJ Rhif L264, 15.10.2003, t.16), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1847/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn ac awdurdodi parhaol o ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L269, 21.10.2003, t.3) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2112/2003 sy'n cywiro Rheoliadau (EC) Rhif 1334/2003 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion mewn porthiant sy'n perthyn i'r grwp elfennau hybrin (OJ Rhif L417, 2.12.2003, t.22) (rheoliad 2(2) a (3)).

     3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn porthiant (OJ Rhif L151, 19.6.2003, t.38) drwy ddiwygio Atodlen 7 i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 er mwyn pennu lefelau newydd uchaf ar gyfer deucosin mewn porthiant (rheoliad 2(4) ac Atodlen 1).

     4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC sy'n awdurdodi ester isopropyl o'r cydwedd hydrocsyleiddiedig o fethionin (OJ Rhif L295, 13.11.2003, t.83) drwy ddiwygio Atodlen 8 i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 er mwyn diwygio'r amodau gwerthu neu feddu er mwyn gwerthu cydweddau o fethionin at ddefnydd fel porthiant neu ffynhonnell protein mewn porthiant (rheoliad 2(5) ac Atodlen 2).

     5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (rheoliad 3) a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 4 i 11).

     6. Lluniwyd Arfarniad Rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i rhoddwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW


Notes:

[1] 1970 p. 40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations"; diwygiwyd y diffiniad o "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6back

[2] OJ No. L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o'r Rheoliad EC mae "cyfraith bwyd" yn ymestyn at fwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd a fwydir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.back

[3] O.S. 2003/2901.back

[4] O.S. 1972 p. 68.back

[5] O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/989 (Cy. 138), O.S. 2003/1677 (Cy. 180) ac O.S. 2003/1850 (Cy. 200).back

[6] O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200) ac O.S. 2003/3119 (Cy.297).back

[7] O.S. 1999/2325, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/989 (Cy.138), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200) ac O.S. 2003/3119 (Cy.297).back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090972 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 14 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041749w.html