BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041754w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1754 (Cy.187) (C.70)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 7 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004 ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Diwrnodau penodedig
    
2.  - (1) I'r graddau y mae'n rhoi pwerau i wneud rheoliadau, y diwrnod wedi'r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn yw'r diwrnod a benodir ar gyfer adran 58 i ddod i rym.

    (2) 1 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf ddod i rym - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6])


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Y seithfed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") mewn perthynas â Chymru yn unig yw'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn penodi 1 Tachwedd 2004 yn ddiwrnod pan fydd adran 48 ac adrannau 57 a 58 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) o Ddeddf 2001 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae adran 48 yn mewnosod darpariaethau yn Neddf Iechyd 1999 ac sy'n darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud gorchmynion trosglwyddo staff mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff y GIG ac a wnaed o dan Ddeddf 1999.

Mae adran 57 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal cymunedol neu wasanaethau ar gyfer gofalwyr yn uniongyrchol, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.

Mae adran 58 yn mewnosod adran 17A newydd yn Neddf Plant 1989 ac sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau yn uniongyrchol o dan adran 17 o Ddeddf 1989, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2001 sy'n gwneud diwygiadau, a diddymiadau, i ddarpariaethau eraill mewn deddfwriaeth sylfaenol ac yn eu diddymu o ganlyniad i adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2001.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)




Darpariaeth Deddf 2001 Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adran 3 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475 (Cy.147) (C.41)
Adran 5 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 6(3) 24 Ionawr 2004 2004/103 (Cy.10) (C.6)
Adran 11 1 Rhagfyr 2002 2002/1475
Adran 12 31 Ionawr 2004 2004/103
Adran 13 17 Mawrth 2003 2003/713 (Cy.87) (C.36)
Adran 16 26 Awst 2002 2002/1919 (C.60)
Adrannau 19 i 26 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 27 26 Awst 2002 2002/1919
Adrannau 28 i 39 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adrannau 41 i 43 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 49 Adran 50(1) 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) a 1 Ebrill 2004 (gweddill) 8 Ebrill 2002 2001/3807 (Cy.315) (C.124) a 2004/103 2001/3752 (C.122)
Adran 50(2) i (10) 19 Rhagfyr 2001 2001/3807
Adrannau 51 a 52 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adrannau 53 i 55 1 Ebrill 2003 2003/939 (Cy.123) (C.50)
Adran 67(1) ac Atodlen 5 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol) 2002/1095 (C.26), 2002/1475 a 2002/1919
Adran 67(2) ac Atodlen 6 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol) 2002/1095, 2002/1312 (C.36), 2002/1475 a 2002/1919
Atodlenni 2 a 3 1 Gorffennaf 2002 2002/1475

Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi cychwyn darpariaethau Deddf 2001 mewn perthynas â Lloegr yn unig: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).


Notes:

[1] 2001 p.15. Rhoddwyd y pwerau i'r "relevant authority" y mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn ei ddiffinio fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.back

[2] Gweler adran 70(2)(c) o Ddeddf 2001.back

[3] 1970 p.42.back

[4] 1996 p.30; diwygiwyd adran 1 gan adran 5 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16).back

[5] 2000 p.16.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090979 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041754w.html