BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041758w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1758 (Cy.189)

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[1] ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Symiau diwygiedig o'r taliad colli cartref
    
2. Pan fo'r dyddiad dadleoli ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym  - 

Dirymu ac arbedion
    
3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003[3] wedi'u dirymu.

    (2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn cynyddu swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson sydd wedi'i ddadleoli drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 1991.

Mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref, mewn achosion lle bo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £31,000 i £34,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £3,100 i £3,400. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £3,100 i £3,400.

Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sydd wedi'u newid ac nid oes unrhyw newid i'r ganran sy'n daladwy o werth marchnad buddiant y person sydd wedi'i ddadleoli yn yr annedd.

Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2004 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent wedi'u dirymu.


Notes:

[1] 1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34 o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3).back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ((Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[3] O.S. 2003/1856 (Cy.206).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090980 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041758w.html