BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041805w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1805 (Cy.193)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004

  Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4), a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1],ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Darparu gwybodaeth
     3. Yn rheoliad 5(1)(a) o Reoliadau 2003 mewnosoder y geiriau "dyddiad geni," o flaen y gair "rhyw".

    
4. Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder y geiriau "dyddiad geni," o flaen y gair "rhyw".

Swyddogaethau'r corff llywodraethu mewn perthynas â disgyblion sydd wedi'u gwahardd
    
5.  - (1) Yn lle rheoliad 6(3) o Reoliadau 2003 rhodder  - 

    (2) Yn rheoliad 6(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".

    (3) Yn rheoliad 6(6)  - 

Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig
    
6.  - (1) Yn lle rheoliad 7(3) o Reoliadau UCD 2003 rhodder - 

    (2) Yn rheoliad 7(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".

    (3) Yn rheoliad 7(6), ar ôl y geiriau "na ddylid derbyn disgybl yn ôl" mewnosoder y geiriau ", neu, ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r athro neu athrawes â gofal yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl".

Gwaharddiadau  -  safon y prawf
    
7. Ar ôl rheoliad 8 o Reoliadau 2003 mewnosoder  - 

     8. Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn ychwanegu dyddiad geni'r disgybl sydd wedi'i wahardd at ystod yr wybodaeth ar bob gwaharddiad y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ac athro â gofal uned cyfeirio disgyblion ei darparu i'r awdurdod addysg lleol bob tymor.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn cywiro camgymeriad yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hynny ac er mwyn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn disgybl yn ôl rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy'n mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl. Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn darparu bod yn rhaid i'r pennaeth, y corff llywodraethu neu'r panel apêl sefydlu'r ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.


Notes:

[1] 2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr "regulations" a "prescribed".back

[2] 1992 p.53, diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back

[3] O.S. 2003/3227 (Cy.308).back

[4] O.S. 2003/3246 (Cy.321).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090985 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 20 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041805w.html