BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042414w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2414 (Cy.222)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 15 Medi 2004 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(b)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1), (2)(a), (b), (7)(c) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 79C(2), (3)(b), (f) a (104)(a) o Ddeddf Plant 1989[2], a chan ei fod o'r farn nad yw drwy hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed eisoes gan reoliadau o dan adran 22 o Ddeddf 2000[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn
     1. O ran y Rheoliadau hyn - 

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[5] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
     4.  - (1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[6] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
     5.  - (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[7] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 

    (3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny - 

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
     6.  - (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[8] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 

    (3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny - 

Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
     7.  - (1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[9] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Medi 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwneir y Rheoliadau hyn o ganlyniad i gychwyn, ar 26 Gorffennaf 2004, ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n sefydlu rhestr o bersonau yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio ("y rhestr").

Mae rheoliadau 2 i 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 ("y Rheoliadau presennol"). Mae'r Rheoliadau presennol (ac eithrio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004) yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif cofnod troseddol lai na theirblwydd oed fod ar gael o ran darparwyr, rheolwyr a staff penodol yr ymgymeriadau y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. (Nid yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn cynnwys terfyn oedran o'r fath.) Os person y gellir cadarnhau pa un a yw wedi'i gynnwys ar y rhestr ai peidio yw testun y dystysgrif, mae'r Rheoliadau presennol yn darparu bod yn rhaid i'r dystysgrif nodi a yw'r person wedi'i gynnwys felly.

Mae'r diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i'r Rheoliadau presennol yn darparu, os oedd tystysgrif cofnod troseddol ar gael ar 26 Gorffennaf 2004, nad cymwys unrhyw ofyniad am i'r dystysgrif nodi a yw testun y dystysgrif wedi'i gynnwys ar y rhestr.


Notes:

[1] 2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr "appropriate Minister" mewn perthynas â Chymru yw'r Cynulliad (adran 121(1) o Ddeddf 2000); ystyr "Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000). Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 am y diffiniad o "regulations".back

[2] 1989 p. 41. Rhoddwyd y pwerau i'r Cynulliad. Ystyr "the Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 79B(2) o Ddeddf 1989). Mewnosodwyd adran 79C yn Neddf 1989 gan adran 79(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[3] Mae adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn darparu bod yn rhaid i'r "appropriate Minister", cyn iddo wneud rheoliadau o dan yr adran honno, ymgynghori ag unrhyw berson y mae o'r farn ei fod yn berson priodol, onid yw'r rheoliadau'n diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad ydynt, ym marn y Gweinidog, yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny.back

[4] O.S. 2002/324 (Cy. 37); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back

[5] S.I. 2002/327 (Cy. 40); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back

[6] O.S. 2002/325 (Cy. 38); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).back

[7] O.S. 2003/2527 (Cy. 242).back

[8] O.S. 2004/219 (Cy. 23).back

[9] O.S. 2002/812 (Cy.92); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back

[10] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090997 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 29 September 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042414w.html