BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042557w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2557 (Cy.228) (C.107)

TAI, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 28 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
     2. Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar y dyddiad cychwyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Medi 2004



YR ATODLEN

Arbed


     1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Bennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 (b) gan adran 13 yn effeithiol mewn perthynas ag  - 

     2. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Tai 1985[5] a Deddf Tai 1988[6] gan adran 16 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw achos meddiannu ty annedd a ddechreuwyd cyn y dyddiad cychwyn.

     3. Ni fydd adran 91 yn effeithiol mewn perthynas ag - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mewn perthynas â Chymru, daw'r Gorchymyn hwn â rhai o ddarpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym, yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae adran 13 yn disodli adrannau 152 a 153 o Ddeddf Tai 1996 gan ddarpariaethau newydd sy'n caniatáu i awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac ymddiriedolaethau gweithredu tai i wneud cais am waharddebion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â'u rheolaeth o'u stoc neu sy'n effeithio ar y rheolaeth honno.

Mae adrannau 14 a 15 yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel neu denantiaeth sicr tenant i ben a rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Caiff adran 14 ac Atodlen 1 eu cychwyn yn awr i'r graddau ei bod yn rhoi pwer i wneud rheoliadau.

Mae adran 16 yn diwygio disgresiwn y llys pan fydd yn ystyried hawliadau am feddiannu ty annedd (a osodir ar denantiaeth sicr neu denantiaeth ddiogel) a wneir ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pwysau digonol yn cael eu rhoi i effaith unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae adran 17 yn sicrhau bod holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n codi o'r diwygiadau i'r Deddfau Tai a grybwyllwyd, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'w cyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, mewn perthynas â Chymru, adran 91 sy'n caniatáu i awdurdod lleol wneud cais am bwer arestio fod ynghlwm wrth unrhyw waharddeb a geir o dan adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r gwaharddeb hwnnw yn un sydd i wahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys arbedion sy'n ymwneud â'r diwygiadau i Ddeddfau Tai 1985, 1988 a 1996 ac a gychwynnwyd gan y Gorchymyn hwn.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
1 i 11 20 Ionawr 2004 2003/3300
18 27 Chwefror 2004 2003/3300
23 27 Chwefror 2004 2003/3300
25 i 29 27 Chwefror 2004 2003/3300
30 i 38 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(1) a (2) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (y gweddill) 30 Ebrill 2004 2003/3300
39(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
46 31 Mawrth 2004 2004/690
53 20 Ionawr 2004 2003/3300
54 31 Mawrth 2004 2004/690
57 i 59 20 Ionawr 2004 2003/3300
60 i 64 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(1), (2) a (3) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85 (4) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(4) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(5) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(6) (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(6) (y gweddill) 30 Medi 2004 2004/2168
85(7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(8) 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(9), (10) ac (11) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(1) a (2) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
86(3) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
87 20 Ionawr 2004 2003/3300
88 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
89(1), (2), (3) a (4) 20 Ionawr 2004 2003/3300
89(5) 31 Mawrth 2004 2004/690
89(6) a (7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
90 31 Gorffennaf 2004 2004/1502
92 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
92 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
92 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 2 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 3 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 3 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
40 i 45 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105)
47 i 52 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105)
55 i 56 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105)


Notes:

[1] 2003 p. 38.back

[2] 2003 p. 38.back

[3] 1972 p.70.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1985 p.68.back

[6] 1988 p.50.back

[7] 1972 p.70 .back



English version



ISBN 0 11 091000 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 4 October 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042557w.html