![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042731w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 19 Hydref 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2004 |
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993
3.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993[7] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mhob un o baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) amnewidir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau a geir ym mhob un o'r paragraffau hynny: "CEE - EØF - EWG - EOK - EEC - EEG - ETY - EHS - EMÜ - EEK - EEB - EGK - KEE - EGS".
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
4.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[8]) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y diffiniad o "Directive 2000/13" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosoder yr ymadrodd "the Act of the European Community concerning the conditions of accession of the Czech Republic, the Republic of Estonia, the Republic of Cyprus, the Republic of Latvia, the Republic of Lithuania, the Republic of Hungary, the Republic of Malta, the Republic of Poland, the Republic of Slovenia and the Slovak Republic and the adjustments to the Treaties on which the European Union is founded" yn union o flaen y geiriau "and as read with".
Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998
5.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998[9] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn indent cyntaf paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad), rhoddir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w chael yn yr indent hwnnw: "B / CZ / DK / D / EE / EL / E / F / IRL / I / CY / LV / LT / L / HU / MT / NL / AT / PL / P / SI / SK / FI / SE / UK".
(3) Yn nhrydydd indent paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3, rhodder y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w cael yn yr indent hwnnw: "CE - EC - EG - EK - EF - EY - ES - EÜ - KB - KE - WE".
Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
6.
- (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000[10] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd y diffiniad o "y Gyfarwyddeb" a geir yn rheoliad 2 (dehongli), mewnosoder y testun a ganlyn -
Diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003
7.
- (1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003[11] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd rheoliad 8(b), mewnosoder y testun a ganlyn -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
(b) yn diwygio is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) i Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o'r is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion wyau sy'n gadael sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw (rheoliad 3);
(c) ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd eisoes) -
(ch) yn diwygio is-baragraff (1) o baragraff 2 o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad (a seiliwyd ar ddarpariaethau cyfatebol yr Atodiad i Gyfarwyddeb Cynhyrchion Pysgodfeydd)) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan indent cyntaf a thrydydd indent yr is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion pysgodfeydd a anfonir o sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw neu yn y dogfennau sydd gyda'r llwyth (rheoliad 5);
(d) yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)) yn diweddaru'r diffiniadau o "y Gyfarwyddeb" drwy gynnwys cyfeiriad at y Ddeddf yn y rhestr ddeddfwriaeth sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29) (rheoliad 6); ac
(dd) ym mharagraff (b) o reoliad 8 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforion) o Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053 (Cy.291)) -
3.
Nid oes arfarniad rheoliadal wedi'i baratoi mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na fydd ganddo effaith ar gostau busnes.
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] O.S.1990/2615, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[5] OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34.back
[6] OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.back
[7] O.S. 1993/1520, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[8] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/249 (Cy.26); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond heb fod yr un ohonynt yn berthnasol.back
[9] O.S. 1998/994, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10] O.S. 2000/1866 (Cy.125).back
[11] O.S. 2003/3053 (Cy.291).back