![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042733w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 19 Hydref 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2004 |
Dirymiadau
4.
Dirymir rheoliadau 5, 6 a 7 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[2].
Gweithgareddau rhagnodedig
5.
- (1) Mae'r holl fathau o weithgareddau a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 141 o Ddeddf 2002 -
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae "cyflwyno" yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
Safonau iechyd
6.
- (1) Ni chaiff person wneud gweithgaredd perthnasol oni bai bod ganddo'r gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud y gweithgaredd hwnnw, o ystyried unrhyw ddyletswydd sydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995[3].
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid ystyrir fod gan berson sy'n derbyn pensiwn ymddeol, yn rhinwedd rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997[4] (ymddeol oherwydd afiechyd), y gynneddf gorfforol na'r iechyd i addysgu.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson a benodwyd i addysgu yn rhan-amser os oedd hawl y person i gael pensiwn o'r fath, fel y'i disgrifir yn y paragraff hwnnw, yn effeithiol cyn 1 Ebrill 1997.
(4) Os cyfyd unrhyw gwestiwn o ran cynneddf gorfforol neu iechyd person i wneud gweithgaredd perthnasol y mae wedi'i gymryd ymlaen i'w wneud, penderfynir ar y cwestiwn hwnnw yn unol â rheoliad 7.
Penderfyniadau o ran cynneddf gorfforol neu iechyd
7.
- (1) Rhaid unrhyw gwestiwn fel y cyfeirir ato yn rheoliad 6(4) gael ei benderfynu gan y cyflogwr ac, er mwyn iddo wneud hynny -
(2) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch), caiff y cyflogwr neu'r person gyflwyno i'r ymarferydd meddygol penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad.
(3) Gall ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol sydd wedi'i benodi gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad meddygol fel y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
Dylid trin person sy'n derbyn pensiwn ymddeol ar sail afiechyd fel pe na bai ganddo'r gynneddf gorfforol na'r iechyd i wneud y pedwar gweithgaredd cyntaf a restrir uchod, sy'n weithgareddau addysgu. Er hynny, os oes gan y person y gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud, gall wneud pedwar gweithgaredd olaf y rhestr. Nid yw'r cyfyngiad ar y sawl sy'n derbyn pensiwn ymddeol oherwydd afiechyd yn gymwys i berson a oedd â hawl i'r fath bensiwn cyn 1 Ebrill 1997 ac sy'n gweithio'n rhan-amser.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi sut y dylid penderfynu ar gwestiynau o ran pa un a oes gan berson y gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud gweithgaredd y mae wedi'i gymryd ymlaen i'w wneud. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyfle i'r person roi tystiolaeth feddygol gerbron a gwneud sylwadau, a threfnu archwiliadau meddygol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli darpariaethau'r Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 sy'n ymwneud â chynneddf feddyliol a chorfforol ac iechyd.
[2] O.S. 1999/2817 (Cy.18), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy.240), ac fel y dirymwyd rhan fawr ohono gan O.S. 2004/1729 (Cy.173) a 2004/1744 (Cy.183).back
[4] O.S. 1997/3001 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2255, 1999/607, 2000/665, 2000/2431, 2000/3028, 2001/871 a 2002/3058.back