[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042915w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 9 Tachwedd 2004 | ||
Yn dod i rym | 10 Tachwedd 2004 |
(2) Mae cyfeiriadau at -
(3) Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn Rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r Rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r Rhif cyfan nesaf.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.
Asesu gan athrawon
4.
- (1) Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf (ac eithrio'r pythefnos olaf ohono) yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a threfnu i'r athro gofnodi'r canlyniadau.
(2) Diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5.
(3) Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.
(4) Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5 fydd y cofnod o'r canlyniadau.
(5) Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).
Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl pwnc: asesu gan athrawon
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoleiddio agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 er mwyn cyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.
(2) Yn achos Saesneg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC.
(3) Yn achos Cymraeg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, wedi'i phwysoli â'r ffactorau a ganlyn -
(4) Yn achos mathemateg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC2 (Rhif ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
(5) Yn achos gwyddoniaeth, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC1 (ymholiad gwyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol
6.
- (1) Mae erthygl 5 i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.
(2) Os, yn achos unrhyw bwnc perthansol, nad yw un TC yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5 i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc a'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli yn gysylltiedig ag ef, yn cael ei ddiystyru.
(3) Os, yn achos unrhyw bwnc perthnasol, nad yw rhagor nag un TC yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5 i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw ac nid oes lefel cyrhaeddiad i'w benderfynu ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.
Gwerthuso'r Trefniadau Asesu
7.
Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).
Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol
8.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
[2] Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen a gyhoeddwyd o dan y teitl "Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru", ISBN 0750424036.back
[5] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a chafodd ei enw presennol gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back
[6] Y Gorchmynion perthnasol ar gyfer yr ail gyfnod allweddol yw O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1154 (Cy. 85) (Saesneg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (Mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (Gwyddoniaeth).back