BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042916w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2916 (Cy.255) (C.120)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 9 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 105(3) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003[1] ("y Ddeddf"), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y Diwrnod Penodedig
    
2. 11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Deddf Dŵr 2003 i rym yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2004, sef adrannau 77, 78, 80, 81 ac 86(2)(f) (ac adran 86(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw).

Mae adrannau 77, 78 ac 80 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975[
5] ("Deddf 1975").

Mae adran 77 yn mewnosod adran 12A newydd yn Neddf 1975, sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol (i'w ddehongli fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru) i'w gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr baratoi cynlluniau yn nodi'r camau y byddant yn eu cymryd pe bai cyforgronfeydd dŵr mawr yn gorlifo.

Mae adran 78 yn mewnosod adrannau 2(2A) a 12B newydd yn Neddf 1975, sy'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar sail diogelwch y wlad, gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â chynnwys gwybodaeth benodol mewn cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf 1975; i beidio ag ymgynghori â phersonau wrth baratoi'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn adran 12A o Ddeddf 1975; ac i beidio â chyhoeddi'r fath gynlluniau.

Mae adran 80 yn mewnosod adran 27A newydd yn Neddf 1975, sy'n cymhwyso darpariaethau Deddf 1975 i'r Goron.

Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau i annog arbed dŵr, ac yn ei alluogi i wneud Gorchymyn a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo baratoi adroddiadau ar y fath gamau.

Mae adran 86 yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[6] fel y mae'n ymwneud â thir halogedig a llygru dyfroedd a reolir. Mae adran 86(2)(f) yn egluro'r diffiniad o ddyfroedd a reolir yn adran 78A(9)(a) o'r Ddeddf honno.

Mae adran 101(1) a (2) yn cychwyn yn rhannol Atodlen 7 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 9 (diddymiadau a dirymiadau).



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym yng Nghymru ac yn Lloegr drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn  - 


TABL 1
Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 6(1) (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 9 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 10(11) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 15 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 16 (ar wahân i is-a drannau (4) a (5)) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 18 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 19(4) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 20 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 25(1) (yn rhannol), (2) a (4) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 26 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 27 1 Ebrill 2004 2004/641
Adrannau 28 a 29 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 31 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 37 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 38 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 48(1) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 49 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 50 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 53 1 Ebrill 2004 2004/641
Adrannau 54 a 55 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 56 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 57 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 59 1 Hydref 2004 2004/2528
Adrannau 60 a 61 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 62 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 63 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 64 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 65 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 66 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 68 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 71 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 72 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 74 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 76 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 79 1 Hydref 2004 2004/2528
Adrannau 81 i 83 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 84 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 85 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 87 1 Hydref 2004 2004/2528
Adrannau 90 i 92 28 Mai 2004 2004/641
Adrannau 93 i 97 a 99 28 Mai 2004 2004/641
Adran 100(1) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 100(2) (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 2004/641
Adran 100(2) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 100(3) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 100(4) (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 100(4) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 100(5) 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) 17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 2004/641
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 101(1) (yn rhannol) 17 Mawrth 2004 a 1 Ebrill 2004 2004/641
Adran 101(1) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Adran 101(2) (yn rhannol) 17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 2004/641
Adran 101(2) (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Atodlen 7 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/641
Atodlen 7 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Atodlen 8 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/641
Atodlen 8 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528
Atodlen 9 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 2004/641
Atodlen 9 (yn rhannol) 1 Hydref 2004 2004/2528

Daw darpariathau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym yng Nghymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.


TABL 2
Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 24 1 Ebrill 2005 2004/641
Adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 27(2) o Atodlen 7 29 Rhagfyr 2004 2004/2528

Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 3 isod i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.


TABL 3
Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 67 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)
Adran 69 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)
Adran 75 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)
Adran 101(1) (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)
Atodlen 7 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)
Atodlen 9 (yn rhannol) 1 Ebrill 2004 2004/910 (Cy.93)


Notes:

[1] 2003 p.37. Gweler y tabl yn adran 105(6) i gael ystyr "the appropriate authority" mewn perthynas â chychwyniad adrannau 77, 78, 80, 81, 86 a 101 o'r Ddeddf, ac Atodlen 9 iddi.back

[2] 1991 p.57.back

[3] 1995 p.25.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1975 p.23.back

[6] 1990 p.43.back



English version



ISBN 0 11091022 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042916w.html