BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042920w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2920 (Cy.259)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cartrefi gofal preswyl
    
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992[2], yn lle Dosbarth A rhodder - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992 ("Rheoliadau 1992").

Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi'r dosbarthau ar o anheddau y mae'r perchennog ac nid y meddiannydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas â hwy. Darparodd Dosbarth A yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hynny mai'r perchennog fyddai'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar gyfer cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio meddyliol neu hostel o fewn ystyron "residential care home, nursing home, mental nursing home" a "hostel", yn eu trefn, a roddwyd gan baragraph 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.

Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000"), drwy roi cyfeiriadau at "care home" ac "independent hospital" yn lle'r termau blaenorol "residential care home", "nursing home" a "mental nursing home". Mae erthygl 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi Dosbarth A newydd yn Rheoliadau 1992 yn lle'r Dosbarth A presennol. Mae'r Dosbarth A newydd yn cyfeirio at gartrefi gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, y mae person wedi ei gofrestru mewn perthynas ag ef yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno, at adeiladau neu rannau o adeiladau lle y darperir llety preswyl o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac at hostelau o fewn yr ystyr sydd iddynt ym mharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.

Ar gyfer cartref gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, pan fydd person wedi cofrestru mewn perthynas â'r cartref yn unol â Rhan 2 y Ddeddf honno, y perchennog ac nid y meddiannydd fydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Pan nad oes neb wedi cofrestru felly, er y dylent fod wedi gwneud, y meddianwyr ac nid y perchennog fydd yn parhau i fod yn atebol am dalu'r dreth gyngor.


Notes:

[1] 1992 p.14. Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back

[2] S.I. 1992/551.back

[3] 2000 p.14.back

[4] 1948 p.29.back

[5] Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, gweler adran 116 a pharagraff 20 Atodlen 4 o'r Ddeddf honno. I weld y diffiniad o "hostel" gweler erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 (O.S. 1992/548) fel ag y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taliadwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2921 (Cy. 260)).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091030 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042920w.html