BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042921w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2921 (Cy.260)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 9 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1]a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992
    
2. Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992[2] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992
     3. Yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992[4], rhodder yn lle Dosbarth I - 

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992
     4. Yn lle erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992[6] rhodder  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, ac mae'n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 ("Gorchymyn 1992"), Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 a Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992.

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio annedd at ddibenion darpariaethau'r dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy'n cynnwys mwy nag un uned hunan gynwysedig fel pe bai wedi'i ffurfio o'r un nifer o anheddau â'r nifer o unedau hunan gynwysedig yn yr eiddo hwnnw. Diffinir eiddo sengl yng Ngorchymyn 1992 yn eiddo a fyddai, ar wahân i'r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr "one dwelling" yn adran 3 o Ddeddf 1992.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3A newydd yng Ngorchymyn 1992. Bydd hynny'n sicrhau bod cartref gofal (o fewn ystyr "care home" yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac y mae person wedi'i gofrestru ar ei gyfer yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno), yn lle cael ei drin, at ddibenion y dreth gyngor, fel pe bai wedi'i ffurfio o anheddau ar wahân o fewn annedd, yn unol â nifer yr unedau hunan gynwysedig, yn cael ei drin fel nifer yr anheddau a geir wrth ychwanegu un at nifer yr unedau hunan gynwysedig a ddarperir i letya'r person a gofrestrwyd ar gyfer y cartref gofal.

Mae adran 4 o Ddeddf 1992 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i ragnodi drwy orchymyn ddosbarthiadau ar anheddau nad yw'r dreth gyngor yn daladwy ar eu cyfer. Mae Dosbarth I yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn esemptio rhag talu'r dreth gyngor annedd sydd heb ei meddiannu ac y mae ei pherchennog neu ei thenant bellach â'i unig neu ei brif breswylfa mewn man arall "not being a hospital, residential care home, nursing home, mental nursing home or hostel within the meaning of paragraphs 6, 7 or 8 of Schedule 1" i Ddeddf 1992, at y diben o dderbyn gofal personol y mae ei angen ar y perchennog neu'r tenant am rai resymau penodedig.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi geiriad newydd ar gyfer Dosbarth I, sy'n cynnwys cyfeiriad at lety a ddarperir gan wasanaeth gofal cartref yn yr Alban.

Mae adran 11 o Ddeddf 1992 ac Atodlen 1 iddi yn darparu y caiff disgrifiadau o bobl sy'n preswylio mewn annedd eu diystyru wrth benderfynu a yw'n gymwys rhoi gostyngiad ar swm y dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas â'r annedd. Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu y caiff person ei ddiystyru os hostel yw ei unig neu ei brif breswylfa. Mae paragraff 7(2) yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiffinio hostel drwy Orchymyn. Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi erthygl 6 (sy'n diffinio "hostel") newydd yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r diffiniad bellach yn rhoi, yn lle'r cyfeiriad at adran 49(1) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973, sydd wedi'i diddymu, gyfeiriad at adran 9(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000.


Notes:

[1] 1992 (p.14). Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back

[2] O.S. 1992/549, y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn Diwygio y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) 1997 (O.S. 1997/656).back

[3] 2000 p.14.back

[4] O.S. 1992/558 y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/539).back

[5] 2001 dsa 8.back

[6] O.S. 1992/548.back

[7] 2000 p.18.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091031 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042921w.html