BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043092w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3092 (Cy.266)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 24 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau
    
2. Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2001[2] fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 2



Rhan 1

Diwygiadau i Atodlen 1

     1. Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:

Y Swyddogaeth Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
     67. Swyddogaethau mewn perthynas â . sefydlu Pwyllgor Trwyddedu

Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

     2. Yn Rhan I:

    (1) dileer paragraffau 18, 19; a

    (2) mewnosoder ar ôl paragraff 17:

Swyddogaethau Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
     18. Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.

Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).
     19. Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi "priod swyddogion").

Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     20. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc.

Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).
     21. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
     22. Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy.

Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).
     23. Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
     24. Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.

Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).



RHAN 2

Diwygiadau i Atodlen 2

Ar y diwedd, ychwaneger:



RHAN 3

Diwygiadau i Atodlen 3

     1. Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglyn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer "92" a mewnosoder "108".

     2. Dileer y cofnod ynglyn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.

     3. Ar y diwedd, ychwaneger:

(1) Cynlluniau a Strategaethau (2) Cyfeirnod
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu 'trefniadau amgen' h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod yn unol ag adran 31(1)(b) ac adran 32(1) o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") (fel y'u diwygiwyd) yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf y mae Rheoliadau 2001 (fel y'u diwygiwyd) yn gofyn amdani.

Pennodd Rheoliadau 2001 swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifioldeb i Fwrdd awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Yn rheoliad 2 mae'r rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i Reoliadau 2001 yn Atodlen 1 drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod, drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau yn Atodlen 2 a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) a diwygio Atodlen 3 drwy ychwanegu at y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] O.S. 2001/2284 (Cy.173) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhieni-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, O.S. 2001/3711 (Cy. 307), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S. 2002/810 (Cy. 90), a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003, O.S. 2003/155 (Cy.25).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091033 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043092w.html