BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif3143 (Cy.271)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Rhagfyr 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 2(4) yn Atodlen 2 iddi[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru [2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddwyd gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru.
Dehongli
2.
Yn y rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1993" ("the 1993 Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[3].
Trefniadau trosiannol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Atodlen 1 (Materion i'w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu):
(a) ar ôl paragraff 5 mewnosoder:
"
5A
(1) In addition to the statement in paragraph 5, in the financial years commencing on 1 April in 2005, 2006 and 2007 respectively a statement of any transitional valuation band applicable to the relevant dwelling.
(2) For the purposes of sub-paragraph (1) "transitional valuation band" means a transitional valuation band for a relevant dwelling, identified in accordance with regulation 4 of the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004[4].";
"
15
(1) A statement that the amount of council tax payable has been reduced as a result of the application of a transitional valuation band.
(2) A statement of the amount by which it has been reduced.
(3) A statement that the reduction in council tax collected by the billing authority by reason of that reduction will be reimbursed to the billing authority by the National Assembly for Wales.".
(3) Yn Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor):
(4) Bydd paragraffau (2) a (3) yn effeithiol yn unig mewn perthynas â'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2008.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau fel y gwêl yn dda mewn perthynas â chasglu'r symiau y mae personau yn atebol i'w talu mewn perthynas â threth gyngor ac agweddau arall ar weinyddu o ran y dreth gyngor. Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer manylion y gellir eu cynnwys yn y Rheoliadau hynny mewn perthynas â chasglu'r dreth gyngor. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1992. Maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("Rheoliadau 1993") ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 1 (Materion sydd i'w cynnwys yn yr hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu faterion penodol sy'n ymwneud â bandiau gwerthuso trosiannol a ddynodir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").
Mae rheoliad 3 hefyd yn diwygio Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys gwybodaeth benodol mewn nodiadau esboniadol i fynd gyda'r hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor. Mae'r wybodaeth yn ymwneud â dynodi'r bandiau gwerthuso trosiannol yn unol â Rheoliadau 2004 a materion cysylltiedig.
Notes:
[1]
1992 p.14.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1993/255 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/160, O.S. 1996/310, O.S. 1996/1880 ac O.S. 2004/460.back
[4]
O.S. 2004/3142 (Cy.270 ).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091049 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
16 December 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043143w.html