BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043144w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3144 (Cy.272) (C.136)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 30 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 47(5) a 52(6), o Ddeddf Addysg Uwch 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.

    
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.

    
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig
    
4. Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2004.

    
5. Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ionawr 2005.

Darpariaeth drosiannol
    
6. Er gwaethaf dwyn i rym adran 20 ac adran 46, mae gan ymwelydd sefydliad cymwys awdurdodaeth mewn perthynas â  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004



YR ATODLEN
Erthyglau 4 a 5



RHAN 1

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 11 Sefydliadau cymwys
Adran 12 Cwynion cymwys
Adran 13 Dynodiad y gweithredydd
Adran 14 Dyletswyddau gweithredydd dynodedig
Adran 15 Dyletswyddau sefydliadau cymwys
Adran 16 Terfynu dynodiad
Adran 17 Braint mewn perthynas â chyfraith difenwi
Adran 18 Y ddarpariaeth os yw dynodiad gweithredydd yn dod i ben
Adran 21 Dehongli
Atodlen 1 Amodau i'w bodloni gan weithredydd cynllun cwynion myfyrwyr
Atodlen 2 Amodau i'w bodloni gan gynllun cwynion myfyrwyr
Atodlen 3 Dyletswyddau gweithredydd dynodedig
Atodlen 4 Terfynu dynodiad gweithredydd



RHAN 2

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2005

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 20 Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas â chwynion myfyrwyr
Adran 46 Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas ag anghydfod staff
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atloden 7 isod Diddymiadau
Yn Atodlen 7 diddymiadau yn Neddf Diwygio Addysg 1988 (p.40) Diddymiadau



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2004 ac 1 Ionawr 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg Uwch 2004 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â chwynion myfyrwyr a staff a gyflwynwyd i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005.

Yn fyr, mae'r darpariaethau hyn yn Neddf Addysg Uwch 2004 yn darparu ar gyfer terfynu awdurdodaeth yr ymwelydd dros anghydfod staff a chwynion myfyrwyr. Maent hefyd yn darparu y bydd corff a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu cynllun i adolygu cwynion myfyrwyr. Mae cyfranogi yn y cynllun yn orfodol i sefydliadau cymwys.

Mae effaith pob darpariaeth o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a bennir yn yr Atodlen fel a ganlyn  - 

Mae adran 11 yn nodi'r sefydliadau cymwys a fydd yn ddarostyngedig i'r cynllun newydd i adolygu cwynion myfyrwyr. Y sefydliadau hyn yw prifysgolion, colegau cyfansoddol y prifysgolion, corfforaethau addysg uwch a sefydliadau a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn gymwys i'w cyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae adran 12 yn diffinio cwynion cymwys at ddibenion y cynllun. Mae'r rhain yn gwynion yn erbyn sefydliadau cymwys mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau'r sefydliadau hynny. Unigolion sy'n gwneud y cwynion a rhaid iddynt wneud hynny fel myfyrwyr neu gynfyfyrwyr o'r sefydliadau neu fyfyrwyr sy'n astudio am ddyfarniad o sefydliad cymwys. Ni chynhwysir cwynion ynghylch barn academaidd yn y cynllun.

Mae adran 13 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddynodi corff i weithredu'r cynllun cwynion myfyrwyr yng Nghymru ac yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi corff o'r fath ("y gweithredydd dynodedig"). Mae'r amodau'n cynnwys gofyniad bod y corff yn cydymffurfio ag Atodlen 1 a bod darpariaethau'r cynllun y mae'n eu gweithredu yn cydymffurfio ag Atodlen 2.

Mae adran 14 ac Atodlen 3 yn darparu cyhyd â bod corff yn parhau fel y gweithredydd dynodedig rhaid iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau a nodir yn Atodlen 3. Mae'r rhain yn cynnwys dyletswydd i ddarparu cynllun, dyletswydd i gyhoeddi'r cynllun, dyletswydd i gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan y cynllun a dyletswydd i lunio adroddiad blynyddol.

Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau cymwys gymryd rhan mewn cynllun a ddarperir gan y gweithredydd dynodedig. Rhaid i'r sefydliadau hynny gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir arnynt gan y cynllun, gan gynnwys unrhyw rwymedigaeth i dalu'r gweithredydd dynodedig.

Mae adran 16 ac Atodlen 4 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn amgylchiadau penodol, y pŵer i derfynu dynodiad corff fel gweithredydd dynodedig. Gall y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r terfyniad os nad yw'r gweithredydd bellach yn bodloni'r amodau ar gyfer y dynodiad a gall y gweithredydd hysbysu ei fwriad i roi pen ar weithredu'r cynllun.

Mae adran 17 yn darparu braint mewn perthynas â difenwi mewn cysylltiad ag adolygu cwynion myfyrwyr.

Mae adran 18 yn darparu pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth drosiannol amgen (gan gynnwys darpariaeth o ran taliadau) os ceir cytundeb neu hysbysiad i derfynu dynodiad gweithredydd, neu os bydd y gweithredydd wedi peidio â bodoli.

Mae adran 20 yn disodli awdurdodaeth ymwelwyr y sefydliadau cymwys dros gwynion myfyrwyr, gan gynnwys cwynion am dderbyn myfyrwyr i sefydliadau cymwys.

Mae adran 21 yn cynnwys diffiniadau.

Mae adran 46 yn disodli awdurdodaeth ymwelwyr dros anghydfod staff.

Mae adran 50 ac Atodlen 7 yn darparu ar gyfer diddymiadau.


Notes:

[1] 2004 p.8.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091039 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043144w.html