BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043157w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3157 (Cy.274)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004

  Wedi'i wneud 30 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2005 

GAN FOD Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ystyried y ffaith bod natur ei awdurdodiad drwy'r Gorchymyn hwn ar gyfer defnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn golygu na fyddai'r graddau y byddai cofnodion o bethau sydd wedi'u gwneud i'r diben hwnnw ar gael, os o gwbl, yn llai boddhaol yn yr achosion hynny pan ddefnyddir cyfryngau cyfathrebu electronig nag y byddent mewn achosion eraill

     YN AWR FELLY, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[1], a gyda chydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Ionawr 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dir yng Nghymru.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud ag apelau cynllunio
    
2. Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003[3] yn unol ag Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud â hysbysiadau gorfodi ac apelau
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003[4] yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

    (2) Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003[5] yn unol ag Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6])


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004



ATODLEN 1
Erthygl 2

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
     1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac, yn y diffiniad a geir ynddo o "holiadur", ar ôl y geiriau "Rheoliadau hyn", mewnosoder - 

     2. Ar ôl rheoliad 2(1), ychwaneger - 

     3. Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau), ychwaneger ar ôl paragraff (2) - 

     4. Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd - 

     5. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder - 

     6. Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder - 



ATODLEN 2
Erthygl 3(1)

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003
     1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) a, chyn y diffiniad o "hysbysiad gorfodi" a geir yno, mewnosoder y diffiniad a ganlyn - 

     2. Yn rheoliad 4 (nodyn esboniadol i'w anfon gyda chopi o'r hysbysiad gorfodi), ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), mewnosoder - 

     3. Ar ôl rheoliad 9 (hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd), mewnosoder - 

     4. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder - 

     5. Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder - 



ATODLEN 3
Erthygl 3(2)

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
     1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac - 

     2. Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder - 

     3. Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau hyn), ar ôl paragraff (2), rhodder - 

     4. Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd - 

     5. Yn lle rheoliad 11 (trosglwyddo dogfennau), rhodder - 

     6. Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 8 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 ("Deddf 2000") yn rhoi pŵer i'r Gweinidog priodol (fel y'i diffinir yn adran 9 o'r Ddeddf honno), drwy Orchymyn, addasu is-ddeddfwriaeth at ddibenion awdurdodi neu hwyluso'r defnydd o gyfathrebu electronig.

At ddibenion adran 8 o Ddeddf 2000, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), yn rhinwedd adran 10(2) o Ddeddf 2000, arfer y pŵer i wneud Gorchmynion i'r graddau bod y pŵer hwnnw yn cael ei arfer at un o'r dibenion a geir yn adran 10(3) o Ddeddf 2000.

Mae adran 10(5) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol pan fydd yn arfer y pŵer hwn i wneud Gorchmynion. Mae cydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'i sicrhau.

Mae swyddogaethau y mae adran 10(3) o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt, ac sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn, i'w cael mewn rheoliadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy arfer ei bwerau o dan - 

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, ac Atodlen 1 iddo, yn addasu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/390) (Cy.52).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ac Atodlenni 2 a 3 iddo, yn addasu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/394) (Cy.53) a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/395) (Cy.54).

Mae diwygiadau tebyg i'r rhai a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cael eu gwneud, drwy orchymyn, gan - 


Notes:

[1] 2000 p.7. At ddibenion y Gorchymyn hwn, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5), mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y swyddogaethau perthnasol yn, neu o dan, Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).back

[2] Gweler adran 10(5) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p.7).back

[3] O.S. 2003/390 (Cy.52).back

[4] O.S. 2003/394 (Cy.53).back

[5] O.S. 2003/395 (Cy.54).back

[6] 1998 p.38.back

[7] 2000 p.7.back

[8] 2000 p.7.back



English version



ISBN 0 11091044 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 9 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043157w.html