BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043221w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3221 (Cy.277)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 7 Rhagfyr 2004 
  Yn dod i rym 17 Rhagfyr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu bwyd crai a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliad a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir yn fwyd i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a rheoli a rheoleiddio'r canlynol, sef: gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad neu eu symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn  - 

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn:

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.

Cyflwyno ceisiadau am gael awdurdodiad i farchnata cynhyrchion
     3. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys cenedlaethol at ddibenion Pennod III o Reoliad 1829/2003[5].

Gorfodi
     4. Rhaid i bob awdurdod gorfodi, o fewn ei ardal, orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod III o Reoliad 1829/2003.

Tramgwyddau a Chosbau
    
5.  - (1) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd ac yn agored  - 

    (2) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

    (3) Mae unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 8(2) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
    
6.  - (1) Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 a hynny'n ddarostyngedig i'r addasiad a nodir ym mharagraff (2)(a) ac fel petai  - 

    (2) Y darpariaethau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw  - 

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999
     7.  - (1) Mae darpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999[8] a restrir ym mharagraff (2) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 yn ddarostyngedig i'r addasiadau a nodir yn y paragraff hwnnw ac fel petai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at "feeding stuff" yn gyfeiriad at "feed".

    (2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw  - 

Arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir
     8.  - (1) Caiff arolygydd arolygu ar bob adeg resymol unrhyw ddeunydd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid ac sydd  - 

ac mae paragraffau (2) i (9) isod yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r arolygydd, wrth gymryd yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo i ystyriaeth, y gall y deunydd fethu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig.

    (2) Caiff yr arolygydd naill ai  - 

ac mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ofynion hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod, gan wybod hynny, yn euog o dramgwydd.

    (3) Pan fo'r arolygydd yn arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff (2)(a) uchod, mae i fod i benderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 21 diwrnod, a yw wedi'i fodloni bod y deunydd yn cydymffurfio â'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu beidio ac  - 

    (4) Pan fo'r arolygydd yn arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2)(b) neu (3)(b) uchod, mae i fod i hysbysu'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r deunydd ac  - 

    (5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail unrhyw dystiolaeth y mae'n barnu ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn yn methu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, mae i fod i gondemnio'r deunydd a gorchymyn  - 

    (6) Yn achos deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 sy'n destun awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad 1829/2003 ac sydd wedi'i gynhyrchu yn unol ag unrhyw amodau sy'n ymwneud â'r awdurdodiad hwnnw, ond nad yw'n dwyn y label priodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 25, caiff yr ynad heddwch, yn ôl ei ddisgresiwn, orchymyn  - 

    (7) Os yw hysbysiad o dan baragraff (2)(a) uchod yn cael ei dynnu'n ôl, neu os yw'r ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, neu'n gwrthod gwneud gorchymyn i'r deunydd gael ei labelu'n briodol, mae'r awdurdod gorfodi i fod i dalu iawndal i berchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan yr arolygydd.

    (8) Pan fo unrhyw ddeunydd sy'n methu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig yn rhan o swp, cyfran neu lwyth o fwyd anifeiliaid o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, dylid rhagdybio at ddibenion y rheoliad hwn, nes y profir i'r gwrthwyneb, fod yr holl fwyd anifeiliaid yn y swp hwnnw, y gyfran honno neu'r llwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig honno.

    (9) Mae unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (7) i fod i gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

    
9. O ran unrhyw hysbysiad sydd i'w roi o dan reoliad 8  - 

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
    
10. Ni ddylid cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben  - 

p'un bynnag yw'r cynharaf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Rhagfyr 2004



YR ATODLEN
Rheoliadau 2 a 5


DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG




RHAN I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 Y Pwnc
Erthygl 16.2 Gwahardd rhoi ar y farchnad, defnyddio neu brosesu cynnyrch y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 onid oes awdurdodiad ar ei gyfer a bod y cynnyrch yn bodloni amodau perthnasol yr awdurdodiad.



RHAN II

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 Y Pwnc
Erthygl 20.6 Gofyniad bod cynhyrchion y mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur mewn perthynas â hwy o dan Erthygl 20.6 yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad.
Erthygl 21.1 Gofyniad bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad a'r partïon o dan sylw gydymffurfio â'r amodau neu'r cyfyngiadau a osodir ar awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch hwnnw, a bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gydymffurfio â gofynion monitro ar ôl i'r cynnyrch fod ar y farchnad.
Erthygl 21.3 Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch, a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y bwyd anifeiliaid wrth ei ddefnyddio neu o unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid mewn trydedd wlad
Erthygl 25 Gofyniad am fynegiadau labelu penodol.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r rhan honno o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd.

Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn  - 

Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 2003/2901.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1970 p.40.back

[4] OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1.back

[5] Ei chyfeiriad yng Nghymru yw: Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.back

[6] O.S. 1999/1663; O.S. 2002/1797 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[7] O.S. 1999/1663.back

[8] O.S. 1999/1663; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2003/1677 (Cy.180) ac O.S. 2002/1797 (Cy.172).back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091046 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 14 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043221w.html