BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043241w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3241 (Cy.283)

TIR, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 8 Rhagfyr 2004 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 68(7)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gŵynion a wneir, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru[
2], o dan adran 68 o'r Ddeddf i awdurdod perthnasol[3] ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Uchafswm rhagnodedig
     2. Rhaid i'r ffi a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 68(1)(b) o'r Ddeddf beidio â bod yn fwy na £320.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Rhagfyr 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion ynghylch gwrychoedd neu berthi uchel sy'n effeithio'n andwyol ar y mwynhad a gaiff cymydog o'i eiddo.

Caiff perchennog neu feddiannydd eiddo domestig wneud cwyn os bod uchder gwrych neu berth a leolir ar dir y mae person arall yn berchen arno neu'n ei feddiannu yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff y perchennog neu'r meddiannydd o'r eiddo hwnnw.

Rhaid gwneud cwyn i'r awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth wedi'u lleoli arno yn ei ardal a rhaid amgáu gyda'r gŵyn ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i uchafswm a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r uchafswm hwnnw.


Notes:

[1] 2003 p.38.back

[2] Gweler adran 66 o'r Ddeddf ar gyfer ystyr "high hedge".back

[3] Mae adran 65(5) o'r Ddeddf yn diffinio'r "relevant authority" fel yr awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth uchel wedi'u lleoli arno yn ei ardal. Mae adran 82 o'r Ddeddf yn diffinio "local authority", mewn perthynas â Chymru, fel y sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091051 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043241w.html