BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 Rhif 118 (Cy.10)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050118w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 118 (Cy.10)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 25 Ionawr 2005 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 104 o Ddeddf Plant 1989[1], a pharagraff 1(1) o Atodlen 9A iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Y rheidrwydd i gofrestru gofal dydd mewn ysgolion o dan Ran XA
    
3. Yn ddarostyngedig i reoliad 5, mae'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 yn amgylchiadau a ragnodir at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (esemptio ysgolion penodol).

    
4. Yr amgylchiadau a ragnodir yw pan fydd edrych ar ôl plant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt, yn brif bwrpas darparu'r gofal dydd.

Darpariaethau Trosiannol
    
5. Os cafodd y gofal dydd y mae rheoliad 4 yn gymwys iddo ei ddarparu am y tro cyntaf yn yr ysgol sydd o dan sylw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac os bydd yn parhau i gael ei ddarparu felly, ni fydd rheoliadau 3 a 4 yn gymwys i'r gofal dydd hwnnw (ac felly ni fydd darparu'r gofal dydd hwnnw, a hynny heb gofrestru, wedi'i wahardd gan adran 79D(5) o'r Ddeddf): - 

pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Ionawr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'n rhaid i bob person sy'n rhoi gofal dydd i blant sy'n iau nag wyth mlwydd oed gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989. Effaith y Rheoliadau hyn fydd ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a oedd gynt yn esempt o'r rheidrwydd cofrestru hwn i wneud felly os prif bwrpas y gofal dydd yw gofalu am blant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt.

Rhaid i ysgolion sydd yn rhoi gofal dydd am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2005 neu ar ôl hynny fod wedi'u cofrestru'n ddarparwyr gofal dydd cyn iddynt agor ar gyfer busnes.

O ran ysgolion a oedd yn darparu gofal dydd cyn 31 Ionawr 2005 ac a fydd yn parhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw, mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau trosiannol hyn, caiff ysgolion felly barhau i ddarparu gofal o'r fath hyd at 1 Ebrill 2005 ac, os ydynt yn gwneud cais i gofrestru cyn y dyddiad hwnnw, cânt barhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw hyd nes y bydd y cais wedi ei benderfynu, neu, os gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei benderfynu neu wedi ei ollwng. Bydd ysgolion sy'n methu â gwneud cais o'r fath cyn 1 Ebrill 2005 yn cyflawni tramgwydd o dan adran 79D(5) o'r Ddeddf os byddant yn parhau i ddarparu gofal dydd ar ôl y dyddiad hwnnw.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys y Ddeddf yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)). Mewnosodwyd Atodlen 9A i'r Ddeddf gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), adran 79 ac Atodlen 3.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091061 3


  © Crown copyright 2005

Prepared 2 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050118w.html