BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 182 (Cy.15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050182w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 182 (Cy.15)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 1 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998
    
2. Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998[4] i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6.

     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)  - 

     4. Yn y darpariaethau canlynol, rhodder y ffigur "2006" yn lle'r ffigur "2005"  - 

     5. Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn eitem 27A yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau), ar ôl y geiriau "For use only as a blowing agent" ychwaneger y geiriau "Use prohibited as from 2 August 2005".

    
6. Yn rheoliad 10 (tramgwyddau)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S.1998/1376, "Rheoliadau 1998"), sy'n rhychwantu'r cyfan o Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC sy'n ymwneud â defnyddio deilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L51, 22.2.2002, t.27) a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC mewn perthynas â defnyddio asodicarbonamid fel cyfrwng chwythu (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18).

    
2. Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy  - 

     3. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 1998/1376, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1263 (Cy.70), O.S. 2002/2834 (Cy. 272) ac O.S. 2003/302 (Cy.44).back

[5] OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.46.back

[6] OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091062 1


  © Crown copyright 2005

Prepared 8 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050182w.html