BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 258 (Cy.24)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050258w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 258 (Cy.24)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 28X a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Diwygiadau i'r prif Reoliadau
     2. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (Dehongli ac addasu) mewnosoder y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o "Primary Care Act"  - 

     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 3 o'r prif Reoliadau (Rhestri Cyflawnwyr) disodler yr ymadrodd "Part 2" gan yr ymadrodd "Part 3".

    
4. Ar ôl rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (Gwneud cais am gael eu cynnwys ar restr cyflawnwyr) mewnosoder y canlynol - 

     5. Ym mharagraff (14) o reoliad 10 o'r prif Reoliadau (Tynnu pobl o restr cyflawnwyr) disodler yr ymadrodd "paragraph (6)" gan yr ymadrodd "paragraphs (3) or (6)".

    
6. Yn rheoliad 21 o'r prif Reoliadau (Dehongli)  - 

     7. Ar ôl rheoliad 23 o'r prif Reoliadau (Gwneud cais i gael eu cynnwys ar restr cyflawnwyr meddygol) mewnosoder y canlynol - 

     8. Yn rheoliad 25 o'r prif Reoliadau (gofynion y mae'n rhaid i feddyg ar restr cyflawnwyr meddygol gydymffurfio â hwy) disodler yr ymadrodd "Regulation 9(6)" gan yr ymadrodd "Regulation 9(7)".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 ("y prif Reoliadau").

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 2 o'r prif Reoliadau drwy fewnosod diffiniad o "primary care organisation".

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiad i gyfeiriad a geir yn rheoliad 3 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod rheoliad newydd 4A yn y prif Reoliadau. Mae'r rheoliad newydd hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sut y mae cyflawnwyr sydd eisoes wedi'u rhestru ar restri cyflawnwyr yng Nghymru neu Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i wneud cais i gael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr yng Nghymru ac mae'n pennu pa wybodaeth sydd i'w rhoi ynghyd â'r cais hwnnw.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiad i gyfeiriad a geir yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 21 o'r prif Reoliadau drwy fewnosod diffiniad newydd o "GP Registrar" ac estyn y diffiniad o "Vocational Training Regulations".

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd 23A yn y prif Reoliadau. Mae'r rheoliad newydd hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sut y mae Ymarferwyr Cyffredinol sydd eisoes wedi'u rhestru ar restri cyflawnwyr meddygol yng Nghymru neu Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i wneud cais i gael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol yng Nghymru ac mae'n pennu pa wybodaeth sydd i'w rhoi ynghyd â'r cais hwnnw.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad i gyfeiriad a geir yn rheoliad 25 o'r prif Reoliadau.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 28X gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003"), adran 179(1). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ("Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau"), O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5). Mae adran 197 o Ddeddf 2003 yn darparu bod unrhyw gyfeiriad yn Atodlen 1 o'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau at Ddeddf a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2003 i'w drin fel petai'n cyfeirio at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2003.back

[2] O.S.2004/1020 (Cy. 117)back

[3] O.S. 1998/5 (A.2)back

[4] Rheol Statudol 1998/13back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091064 8


  © Crown copyright 2005

Prepared 15 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050258w.html