BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 259 (Cy.25)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050259w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 259 (Cy.25)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn - 

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
    
2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4] yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.

     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC", yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2002/82/EC", rhodder y geiriau a ganlyn - 

     4. Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1D), mewnosoder y paragraff a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95/EC (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/45/EC (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19), y mae'r ddau ohonynt yn diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC (OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1) sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion. Rhoddwyd Cyfarwyddeb 96/77/EC ar waith drwy ddiwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995.

    
2. Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu meini prawf o ran purdeb, fel a amlinellir yn yr Atodiadau i Gyfarwyddebau y Comisiwn 2003/95/EC a 2004/45/EC, mewn perthynas â'r ychwanegion a ganlyn:

     3. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC i gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S.1999/1133, O.S. 2001/1440 (Cy.102), O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2001/2679 (Cy.220), O.S. 2001/3909 (Cy.321), O.S. 2002/329 (Cy.42), O.S. 2002/330 (Cy.43), O.S. 2003/945 (Cy.126), O.S. 2003/3037 (Cy.285), O.S. 2003/3041 (Cy.286), O.S. 2003/3044 (Cy.288), O.S. 2003/3047 (Cy.290), O.S. 2003/3053 (Cy.291), O.S. 2004/553 (Cy.56) ac O.S. 2004/554 (Cy.57).back

[5] OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.back

[6] OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71.back

[7] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091065 6


  © Crown copyright 2005

Prepared 15 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050259w.html