BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 Rhif 364 (Cy.31) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050364w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 22 Chwefror 2005 | ||
Yn dod i rym | 1 Mawrth 2005 |
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
Tramgwyddau a chosbau
3.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 10 ac 11, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw -
Gorfodi
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd fydd gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le sydd heb ei leoli yn rhanbarth awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd sy'n gweithredu dros yr ardal lle mae'r lle hwnnw.
Addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (caffael samplau) a dadansoddi'r samplau
5.
- (1) Wrth ei chymhwyso i samplu unrhyw fwyd a bennir yn adrannau 1 i 6 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, addasir adran 29 o'r Ddeddf i'w gwneud yn ofynnol i weithredu'r pŵer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno yn unol â'r dulliau samplu a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt -
(2) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd -
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno -
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC;
(ch) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cydymffurfio ag is-baragraff cyntaf ac ail is-baragraff paragraff 3.4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC ac, yn achos yr ail is-baragraff, fel y'i darllenir ar y cyd â'r nodyn i'r is-baragraff hwnnw; a
(d) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno -
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno -
(5) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(c) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl yn unol â pharagraff 8 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC.
(6) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl honno -
(7) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw, a'i fod wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau -
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC a'r adran honno o baragraff 4.6 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC sy'n dwyn y pennawd "Internal Quality Control"; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno -
Amddiffyniad o ran allforion
6.
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o fynd yn groes i reoliad 3, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir i brofi bod y bwyd yr honnir y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas ag ef wedi ei fwriadu i gael ei allforio i wlad (heblaw am Aelod-wladwriaeth) sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn, a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.
Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
7.
- (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn -
and subsections (2) to (7) below apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food contravenes regulation 3(a) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2005.
(2) The authorised officer may either -
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, he or she, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, is to determine whether or not he or she is satisfied that the food complies with the requirements of regulation 3(a) of the above Regulations, as appropriate and -
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and -
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with the requirements of regulation 3(a) of the above Regulations he or she is to condemn the food and order -
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority or, as the case may be, port health authority, is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) of subsection (2) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.".
(3) "Bydd yr ymadroddion "authorised officer", "food authority", "port health authority", "human consumption", "placing on the market", "Directive 98/53/EC", "Directive 2001/22/EC", "Directive 2002/26/EC", "Directive 2002/69/EC", "Directive 2003/78/EC", a "Directive 2004/16/EC" a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn."
Ailallforio neu ddinistrio bwyd a fewnforiwyd i Gymru nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
8.
- (1) Os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig o awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, fod unrhyw fwyd yn mynd yn groes i reoliad 3(a) a'i fod wedi'i fewnforio i Gymru, ar ôl ymgynghori yn briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod yn mewnforio'r bwyd, caiff gyflwyno hysbysiad ar y person hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol -
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan -
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio at lys ynadon, a fydd yn penderfynu pa un a ddylai'r hysbysiad sefyll neu a ddylid ei ddileu.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a gwyliau cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3), bydd y weithdrefn ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980[33] yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu apêl a ddygir o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y bwyd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (6), o ran yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri amodau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau.
(9) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 9.
Triniaeth eilaidd bwyd a fewnforiwyd i Gymru nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
9.
- (1) Mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol gyda pherson y mae'n ymddangos iddo ei fod yn mewnforio bwyd, gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo -
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan -
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio at lys ynadon, a fydd yn penderfynu pa un a ddylai'r hysbysiad sefyll neu a ddylid ei ddileu.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3), bydd y weithdrefn ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu dwyn apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y bwyd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (6), o ran yr hawl i gael iawndal, neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau.
Darpariaethau trosiannol
10.
Ni fydd rheoliad 3(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
11.
Ni fydd rheoliad 3(b) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw achos o fynd yn groes i Erthygl 2.3 o Reoliad y Comisiwn, a hynny i'r graddau ei fod oherwydd defnyddio'r canlynol fel cynhwysyn bwyd wrth gynhyrchu bwyd cyfansawdd -
Diwygiadau canlyniadol
12.
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[34] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, rhodder y cofnod a ganlyn -
Dirymu
13.
Dirymir Rheoliadau Tun mewn Bwyd 1992[35], i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, a'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003[36].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[37].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Chwefror 2005
2.
Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
(c) yn rhagnodi gofynion o ran dadansoddi samplau bwydydd sy'n ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn, ac, wrth wneud hynny, yn addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i gymryd samplau o'r bwydydd dan sylw (rheoliad 5);
(ch) yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion wrth weithredu Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 6);
(d) yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at y dibenion hynny (rheoliad 7);
(dd) yn ddarostyngedig i reoliad 9, yn darparu ar gyfer ailallforio bwydydd a fewnforiwyd yn groes i ofynion penodol rheoliad 3 i wladwriaethau nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau, neu, mewn achosion penodol, yn darparu ar gyfer dinistrio'r bwydydd hynny (rheoliad 8);
(e) yn sefydlu prosesu fel bod modd rhoi bwyd ar y farchnad er y byddai fel arall wedi'i ailallforio neu wedi'i ddinistrio o dan reoliad 8 (rheoliad 9);
(f) yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliadau 10 ac 11); ac
(ff) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 12).
3.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Tun mewn Bwyd 1992 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 13).
4.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 1 uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.50.back
[5] OJ Rhif L290, 24.11.1993, t.14.back
[6] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 93/1999 (OJ Rhif L296 23.11.2000, t.58)back
[7] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002.back
[8] OJ Rhif L332, 19.12.2003, t.38.back
[9] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14.back
[10] OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34.back
[11] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38.back
[12] OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5.back
[13] OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40.back
[14] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.17.back
[15] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.40.back
[16] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16.back
[17] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002 (OJ Rhif L266, 3.10.2002, t.30 AEE atodiad Rhif 49, 3.10.2002).back
[18] OJ Rhif L313, 30.11.2001, t.60, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002.back
[19] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002.back
[20] OJ Rhif L37, 7.2.2002, t.4, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 139/2002 (OJ Rhif 19, 23.1.2003, t.3 ac atodiad AEE Rhif 5, 23.1.2003).back
[21] OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.12, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 100/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.13 ac atodiad AEE Rhif 54, 31.10.2002, t.11).back
[22] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002 (OJ Rhif L38, 13.2.2003, t.16 ac atodiad AEE Rhif 9, 13.2.2003, t.13).back
[23] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back
[24] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002.back
[25] OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002.back
[26] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.back
[27] OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.back
[28] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3back
[29] OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.back
[30] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t. 6.back
[31] Y gofyniad yw mai 10 yw isafswm nifer yr unedau y mae eu hangen ar gyfer sampl labordy mewn amgylchiadau o'r fath.back
[32] OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30.back
[34] O.S.1990/2463; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603, O.S. 2002/1886 (Cy.195) ac O.S. 2003/1721 (Cy.188).back