BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005 Rhif 423 (Cy.41) (C.19)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050423w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 423 (Cy.41) (C.19)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 1 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") [1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf a'r Atodlenni iddi.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod penodedig
    
2. 28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddarpariaethau penodol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.

Ar wahân i fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, mae'n rhoi grym i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ar 28 Mai 2005 - 

O ran Cymru, gan amlaf ystyr "tir mynediad" (diffinir "access land" yn adran 1(1) o'r Ddeddf) yw tir - 

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi llunio mapiau ar gyfer pob ardal yng Nghymru sy'n dangos yr ardaloedd lle bydd hawliau mynediad yn gymwys. Gellir edrych ar y fersiwn electronig o'r mapiau hynny yn eu ffurf derfynol yn swyddfa leol berthnasol CCGC y mae ei chyfeiriad i'w chael ar wefan CCGC yn www.ccw.gov.uk. Hefyd, gellir edrych ar y mapiau ar raddfa lai ar y wefan honno.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Rhoddwyd grym i ddarpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yng Nghymru drwy orchymynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn - 

Adran(nau) neu Atodlen(ni) Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
18, 20 a 46(1)(a) 21 Mehefin 2004 2004/1489 (Cy.154) (C.59)
46(1)(b) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
60 a 61 1 Tachwedd 2002 2002/2615 (Cy.253) (C.82)
63 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
68 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(1) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(3) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(4) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
72 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
96 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
99 30 Ionawr 2001 2001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) 21 Mehefin 2004 2004/1489 (Cy.154) (C.59)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan III i VI 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mewn perthynas â Lloegr - 


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] 1967 p.10.back

[3] 1967 p.22.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091077 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050423w.html