BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 Rhif 537 (Cy.47)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050537w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 537 (Cy.47)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 8 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

RHAGARWEINIOL
1. Enwi a chychwyn
2. Dehongli
3. Cymhwyso

RHAN 2

COFRESTRU CWOTA
4. Cofrestrau a hysbysiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol eu cadw a'u paratoi
5. Cymeradwyo prynwyr
6. Rhwymedigaethau cynhyrchwyr a phrynwyr o ran cofrestru a danfoniadau
7. Archwilio cofnodion yng nghofrestrau'r Cynulliad Cenedlaethol
8. Cofrestrau fel tystiolaeth

RHAN 3

TROSGLWYDDO CWOTA
9. Trosglwyddo cwota wrth drosglwyddo tir: cyffredinol
10. Trosglwyddo rhan o ddaliad
11. Dosrannu cwota yn rhagolygol
12. Achosion lle mae angen dosrannu cwota drwy gymrodeddu
13. Trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir
14. Cadw cwota ar ddiwedd tenantiaeth
15. Trosglwyddo cwota dros dro
16. Cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota
17. Canlyniadau methu â chyflwyno hysbysiad trosglwyddo yn briodol

RHAN 4

DYRANNU AC ADDASU CWOTA
18. Dyrannu cwota o'r gronfa genedlaethol
19. Ailddyrannu cwota dros dro
20. Dyrannu cwota yn arbennig
21. Addasu cwota: cyffredinol
22. Addasu cwota: cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota a addaswyd yn y flwyddyn addasu
23. Addasu cwota prynwyr
24. Cyfyngiadau ar ddefnyddio cwota yn Ardal Ynysoedd yr Alban

RHAN 5

YR ARDOLL
25. Penderfynu a oes angen lleihau'r addasiad braster menyn tuag i lawr o ran danfoniadau
26. Penderfynu a yw ardoll ar ddanfoniadau yn daladwy
27. Ailddyrannu cwota cynhyrchwyr
28. Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar ddanfoniadau
29. Hysbysu am atebolrwydd i dalu ardoll
30. Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar werthiannau uniongyrchol
31. Talu ac adennill ardoll
32. Atal osgoi talu ardoll

RHAN 6

GWYBODAETH A CHOFNODION
33. Gwybodaeth
34. Cadw cofnodion a'u dal
35. Datganiadau a chrynodebau blynyddol

RHAN 7

COSBAU A DARPARIAETHAU AMRYWIOL
36. Cosbau gweinyddol
37. Atal neu adennill iawndal
38. Atafaelu cwota
39. Adfer cwota
40. Troseddau a chosbau troseddol
41. Diddymiadau a diwygiadau

  Atodlen 1 Dosrannu cwota a Dosrannu Cwota yn Rhagolygol drwy Gymrodeddu

  Atodlen 2 Cadw Cofnodion a'u Dal

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi [
1] at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 



RHAN 1

RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir neu a gynhyrchir yn ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebu electronig a gofnodwyd ac y gellir ei hatgynhyrchu ar ôl hynny.

    (3) Bydd i ymadroddion eraill a ddefnyddir - 

yr un ystyr ag yn neddfwriaeth y Gymuned a dehonglir ymadroddion cytras yn unol â hynny.

Cymhwyso
     3. Ac eithrio fel y darperir fel arall mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol iddynt.



RHAN 2

COFRESTRU CWOTA

Cofrestrau a hysbysiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol eu cadw a'u paratoi
    
4.  - (1) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (2) mae'n rhaid i'r gofrestr o werthiannau uniongyrchol gynnwys cofnod o ran pob gwerthwr uniongyrchol yn nodi yn arbennig  - 

    (3) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

    (4) mae'n rhaid i'r gofrestr gyfanwerthol gynnwys cofnod o ran pob cynhyrchwr cyfanwerthol yn nodi yn arbennig  - 

    (5) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (6) mae'n rhaid i'r gofrestr o brynwyr gynnwys cofnod o ran pob prynwr yn nodi yn arbennig  - 

    (7) At ddibenion paragraffau (1) i (4), lle mae daliad deiliad cwota yn cynnwys mwy nag un fenter laeth, caiff deiliad y cwota hwnnw, ar ôl cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant ynghylch y daliad hwnnw, gytuno â'r Cynulliad Cenedlaethol i rannu'r cwota sydd ar gael i ddeiliad y cwota hwnnw yn ymwneud â'r daliad hwnnw rhwng cofnodion ar wahân yn y gofrestr o werthiannau uniongyrchol neu gofnodion ar wahân yn y gofrestr gyfanwerthol, yn ôl y digwydd.

    (8)

    (9) Er nad yw person yn gynhyrchwr mwyach, mae'n rhaid iddo neu iddi - 

tan ddechrau'r flwyddyn gwota yn dilyn y flwyddyn y trosglwyddwyd y cwota a oedd ar gael iddo neu iddi neu nes bod y cwota wedi'i dynnu yn ôl o dan Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor.

    (10) mae'r rhwymedigaeth o dan baragraffau (1)(b), (3)(b) ac (c) a (5)(b) yn rhwymedigaeth i anfon copi o  - 

yn ôl y digwydd, fel y daw i rym ar 1 Ebrill ym mhob blwyddyn.

Cymeradwyo prynwyr
    
5.  - (1) At ddibenion Erthygl 23 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chymeradwyo prynwyr), mae'n rhaid i brynwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

    (2) mae'n rhaid i gais o dan baragraff (1) nodi cyfeiriad masnachu'r prynwr, neu, os bydd mwy nag un o'r cyfryw gyfeiriadau, bob cyfryw gyfeiriad a'i brif neu ei phrif gyfeiriad masnachu.

    (3) At ddibenion Erthygl 23(2) Rheoliad y Comisiwn (sy'n caniatáu i Aelod-wladwriaethau bennu rheolau llymach ar gymeradwyo prynwyr), dim ond os bydd prynwr wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4) y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo/chymeradwyo.

    (4) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw bod y prynwr  - 

    (5) mae'n rhaid i bob prynwr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o  - 

    (6) mae'n rhaid i bob prynwr  - 

Rhwymedigaethau cynhyrchwyr a phrynwyr o ran cofrestru a danfoniadau
    
6.  - (1) mae'n rhaid i bob  - 

gofrestru ei gwota/chwota gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) mae'n rhaid i bob prynwr gadw, o ran yr holl gynhyrchwyr cyfanwerthol y mae eu cofnodion cofrestr yn cynnwys enw'r prynwr hwnnw ar y rhestr y cyfeirir ati yn rheoliad 4(4)(d)  - 

    (3) mae'n rhaid i bob person sy'n dal cwota cyfanwerthol cofrestredig, gan gynnwys unrhyw gynhyrchwr sydd wedi rhoi'r gorau i wneud danfoniadau dros dro neu sy'n bwriadu gwneud hynny, gofrestru ei gwota/chwota gyda phrynwr.

    (4) Dim ond i brynwr y gall cynhyrchwr cyfanwerthol gyflenwi llaeth.

    (5) mae'n rhaid i bob prynwr gynnal system a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer  - 

    (6) mae'n rhaid i bob prynwr ddiwygio'r gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) bob tro y'i hysbysir gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y gofrestr gyfatebol a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i diwygio o ran cynhyrchwyr cyfanwerthol sydd wedi'u cofrestru yng nghofrestr y prynwr hwnnw.

Archwilio cofnodion yng nghofrestrau'r Cynulliad Cenedlaethol
    
7. Os gwneir cais  - 

caiff y Cynulliad Cenedlaethol, pan delir tâl rhesymol, ddarparu i'r person sy'n gwneud y cais gopi o'r cofnod cofrestr.

Cofrestrau fel tystiolaeth
    
8. Mewn unrhyw weithrediadau, mae unrhyw gofnod mewn cofrestr y mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei chadw yn dystiolaeth o'r materion a nodir ynddo.



RHAN 3

TROSGLWYDDO CWOTA

Trosglwyddo cwota wrth drosglwyddo tir: cyffredinol
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota gyda daliad pan gaiff y daliad ei werthu, ei brydlesu, ei drosglwyddo drwy etifeddiaeth neu pan fydd yn destun achosion trosglwyddo eraill yn golygu effeithiau cyfreithiol cymaradwy i gynhyrchwyr) o ran trosglwyddo daliad neu ran o ddaliad.

    (2) mae'n rhaid i drosglwyddai'r daliad neu'r rhan o'r daliad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol eu mynnu yn rhesymol.

    (3) mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (4) mae'n rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn y cyfryw amser ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.

    (5) mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gynnwys  - 

Trosglwyddo rhan o ddaliad
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle trosglwyddir rhan o ddaliad.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 11(4) a (5) a 12, lle cyflwynwyd hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9, mae'n rhaid dosrannu'r cwota yn ymwneud â'r daliad  - 

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliadau 11(4) a (5) a 12, mae unrhyw gynnyrch llaeth a gafodd - 

o'r daliad yn ystod y flwyddyn gwota pryd y mae deiliadaeth y daliad yn newid a chyn trosglwyddo'r rhan o'r daliad yn cael eu trin at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll fel pe baent wedi'u gwerthu, eu trosglwyddo am ddim neu eu danfon, yn ôl y digwydd, o bob rhan o'r daliad yn gymesur â'r dosraniad o dan baragraff (2)

    (4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys os bydd y partïon yn cytuno fel arall ac yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb hwnnw.

    (5) mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4)  - 

Dosrannu cwota yn rhagolygol
    
11.  - (1) Lle mae angen dosraniad cwota rhagolygol ar ddeiliad y daliad yn ymwneud â'r daliad hwnnw, mae'n rhaid iddo neu iddi wneud cais am y cyfryw ddosraniad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu, gan ofyn  - 

    (2) Gellir tynnu cais am ddosraniad rhagolygol yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y person a wnaeth y cais.

    (3) Os bydd deiliad daliad  - 

mae'n rhaid anfon hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant gyda'r cais neu'r hysbysiad mewn perthynas â'r daliad.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), lle mae deiliadaeth rhan o ddaliad yn newid ac o fewn y cyfnod o chwe mis yn dod i ben ar ddyddiad y newid hwnnw mewn deiliadaeth  - 

mae paragraff (5) yn gymwys.

    (5) mae'n rhaid dosrannu cwota yn unol ag  - 

    (6) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i newid mewn deiliadaeth y mae rheoliad 16(1) yn gymwys iddo.

Achosion lle mae'n ofynnol dosrannu cwota drwy gymrodeddu
    
12.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys - 

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad bod ganddo sail resymol dros gredu'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)  - 

    (3) Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), penderfynir ar y dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol o'r cwota drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.

Trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir
    
13.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 16(2) a (3).

    (2) mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae'r awdurdodau cymwys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu ar y cyd, yn unol â pharagraffau (1)(e) a (2) Erthygl 18 Rheoliad y Cyngor, bod trosglwyddo cwota heb drosglwyddo'r tir cyfatebol o fewn pob un o ranbarthau cwota'r Deyrnas Unedig wedi'i awdurdodi.

    (3) mae'n rhaid i drosglwyddai cwota y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol iddo/iddi gyflwyno iddo hysbysiad o unrhyw gyfryw drosglwyddiad o fewn y rhanbarth cwota cyffredinol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

    (4) mae'n rhaid i'r hysbysiad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir y cwota ac mae'n rhaid iddo gynnwys  - 

    (5) Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3), gall fynnu bod y trosglwyddwr neu'r trosglwyddai yn cyflwyno'r cyfryw wybodaeth arall yn ymwneud â'r trosglwyddiad, ac o fewn y cyfryw amser, ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.

    (6) Yn y rheoliad hwn  - 

Cadw cwota ar ddiwedd tenantiaeth
    
14.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn effeithiol o ran tenantiaethau yn dod i ben ar ôl 31 Mawrth 2005.

    (2) Lle  - 

    (3) mae'n rhaid i hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2)  - 

    (4) Lle mae tenant yn cyflwyno hysbysiad yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd ganddo neu ganddi'r hawl i gael iawndal o dan baragraff Atodlen 1 Deddf Amaethyddiaeth 1986[9] pan ddaw'r denantiaeth dan sylw i ben.

Trosglwyddo cwota dros dro
     15.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), at ddibenion Erthygl 16 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota dros dro), caiff cynhyrchwr gytuno â chynhyrchwr arall i drosglwyddo dros dro i'r cynhyrchwr arall hwnnw unrhyw gwota nas defnyddiwyd sydd wedi'i gofrestru o dan reoliad 4 fel cwota a ddelir yn barhaol gan y cynhyrchwr os bydd cwota arall (p'un a yw heb ei ddefnyddio ai peidio) yn parhau i fod wedi'i gofrestru felly.

    (2) Dim ond yn unol â pharagraff (1) am y cyfryw gyfnod ag a ddaw i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota y gellir trosglwyddo cwota dros dro.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i dâl rhesymol gael ei thalu am gofrestru unrhyw drosglwyddiad cwota dros dro os cyhoeddodd, cyn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota, ei fod yn bwriadu codi'r cyfryw dâl mewn perthynas â'r cyfryw drosglwyddiadau yn y flwyddyn honno yn y cyfryw fodd ag y cred ei fod yn debygol o ddod i sylw cynhyrchwyr.

    (4) Lle mae cytundeb i drosglwyddo cwota dros dro yn unol â pharagraff (1), mae'n rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb, ynghyd ag unrhyw dâl sy'n daladwy o dan baragraff (3), fel y bydd yr hysbysiad ac unrhyw dâl yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota.

    (5) mae'n rhaid i unrhyw hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

Cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota
    
16.  - (1) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pan roddir neu pan ddiddymir  - 

    (2) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pe bai'r trosglwyddiad yn arwain at gynyddu neu leihau cyfanswm y cwota gwerthiannau cyfanwerthol neu gyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol sydd ar gael i'w defnyddio gan fentrau llaeth a leolir o fewn ardal Ynysoedd yr Alban.

    (3) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer  - 

a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad.

Canlyniadau methu â chyflwyno hysbysiad trosglwyddo yn briodol
    
17.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys os na chyflwynir hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9 neu 13.

    (2) Ni ddylid trin unrhyw gwota nas defnyddiwyd ac a drosglwyddir fel rhan o'r cwota y mae gan y trosglwyddai hawl iddo ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol, ond rhaid ei drin fel pe bai'n dal i fod yn gwota nas defnyddiwyd ac ar gael lle y bo hynny'n briodol i'w ailddyrannu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y flwyddyn gwota honno yn unol â rheoliad 27 neu 30.

    (3) Dim ond o ddechrau'r flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo y mae'r trosglwyddiad cwota yn effeithiol.

    (4) Ni fydd y cwota, os o gwbl, a ail-ddyrannwyd i'r trosglwyddai o dan reoliadau 27 neu 30 ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol (neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny) yn cael ei amrywio i ystyried y trosglwyddiad tan y flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo.

    (5) Yn y rheoliad hwn ystyr "blwyddyn gwota berthnasol" yw  - 



RHAN 4

DYRANNU AC ADDASU CWOTA

Dyrannu cwota o'r gronfa genedlaethol
    
18. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu cwota o'r gronfa genedlaethol yn unol â deddfwriaeth y Gymuned.

Ailddyrannu cwota dros dro
    
19.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru fel ei gwota/chwota mewn perthynas â daliad sydd  - 

    (2) At ddibenion ailddyrannu cwota y cyfeirir ato yn Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud dyfarniad yn ailddyrannu dros dro i gynhyrchwr ran o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5).

    (3) Dim ond ar gyfer blwyddyn gwota pryd y mae'r hysbysiad, y datganiad neu'r gorchymyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn effeithiol neu'n parhau i fod mewn grym y gellir gwneud dyfarniad.

    (4) Maint unrhyw gyfryw ddyfarniad yw'r isaf o  - 

    (5) Nid yw dyfarniad a wneir i gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn ar gael mewn perthynas â blwyddyn gwota pryd y mae'r cynhyrchwr yn  - 

oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon i'r cytundeb i drosglwyddo, trosglwyddo dros dro neu brynu cwota, gael ei wneud cyn cyflwyno'r hysbysiad neu wneud y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu, yn ôl y digwydd, cyn i'r gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ddod i rym.

    (6) Os bydd angen dyraniad cwota dros dro ar gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo neu iddi gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

    (7) mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (6) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill ar ôl i'r flwyddyn gwota pryd roedd y daliad, neu ran o'r daliad, dan sylw  - 

    (8) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyfarnu i gynhyrchwr ailddyraniad dros dro o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr y mae'r cynhyrchwr yn danfon cynnyrch iddo neu iddi o'r ailddyraniad hwnnw.

    (9) Dim ond o gyfanswm y cwotâu y cyfeirir atynt yn rheoliad 27(3)(a) a 30(9)(a) y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu ailddyraniad cwota dros dro unwaith y penderfynir ar y cyfanswm o dan y rheoliadau hynny.

    (10) Ni fydd heffer gymwys sy'n fuwch gymwys at ddibenion blwyddyn gwota yn fuwch gymwys at ddibenion unrhyw flwyddyn gwota ar ôl hynny.

    (11) Yn y rheoliad hwn  - 

    (12) Yn y rheoliad hwn, ystyr "diwrnod bwrw llo perthnasol", o ran heffer gymwys, yw diwrnod sy'n dod  - 

    (13) Yn y rheoliad hwn, ystyr "rhif cyfnewid" yw'r cyfanrif agosaf i 20% o gyfanswm y buchod llaeth ar dir  - 

a lle mae 20% o'r cyfanswm hanner ffordd rhwng dau gyfanrif, y cyfanrif gwastad agosaf y tybir mai ef yw'r un agosaf.

Dyrannu cwota yn arbennig
     20.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys o achos camgymeriad a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol,  - 

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu i'r person hwnnw o'r gronfa genedlaethol y cyfryw gwota ag a fydd yn gwneud iawn, yn llwyr neu'n rhannol, am y camgymeriad hwnnw.

Addasu cwota: cyffredinol
    
21.  - (1) At ddibenion  - 

caiff cynhyrchwr wneud cais i addasu cwota gwerthiannau uniongyrchol yn gwota cyfanwerthol neu gwota cyfanwerthol yn gwota gwerthiannau uniongyrchol naill ai dros dro neu'n barhaol.

    (2) Os bydd cynhyrchwr am addasu cwota mewn unrhyw flwyddyn gwota, mae'n rhaid iddo neu iddi gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu  - 

    (3) mae'n rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol  - 

Addasu cwota: cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota a addaswyd yn y flwyddyn addasu
    
22.  - (1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gwota a addaswyd yn barhaol a drosglwyddir gyda daliad yn unol ag Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6), lle mae cynhyrchwr wedi addasu cwota yn barhaol mewn unrhyw flwyddyn gwota, ni ddylai drosglwyddo yn hwyrach yn y flwyddyn gwota honno gwota o'r math y mae wedi addasu iddo, p'un ai dros dro neu fel arall.

    (3) Lle mae cynhyrchwr sydd wedi addasu cwota yn barhaol mewn unrhyw flwyddyn gwota yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gael ei r(h)yddhau o'r cyfyngiad ym mharagraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n fodlon ynghylch y materion a nodir ym mharagraff (5), ryddhau'r cynhyrchwr hwnnw o'r cyfyngiad hwnnw.

    (4) Bydd rhyddhad o'r cyfyngiad ym mharagraff (2) i'r graddau y mae'n ofynnol i ganiatáu trosglwyddo'r cwota y cred y Cynulliad Cenedlaethol nad yw wedi ei ddefnyddio eto yn yr achos penodol.

    (5) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw  - 

    (6) Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (2) yn gymwys  - 

    (7) mae'r canlynol yn enghreifftiau o amgylchiadau y mae'n rhaid ystyried eu bod yn eithriadol at ddibenion paragraff (5)  - 

Addasu cwota prynwr
     23.  - (1) Lle mae cwota cyfanwerthol deiliad cwota yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â deddfwriaeth y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, mae cwota prynwr unrhyw brynwr y mae'r cwota cyfanwerthol yn gymwys iddo neu iddi yn cael ei gynyddu neu ei leihau i gyfateb â hynny.

    (2) O ran trosglwyddiad y mae Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddo (sy'n ymwneud â chynhyrchwyr yn amnewid ac yn newid prynwyr), mae'n rhaid i brynwr y cynyddwyd ei gwota/chwota drwy'r cyfryw drosglwyddiad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais am i'w gwota/chwota fel prynwr gael ei gynyddu yn ôl y maint penodol.

    (3) mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gynnwys  - 

    (4) Mae'n rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2)  - 

    (5) Ni ddylai'r maint penodol gynnwys y cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill ac eithrio i'r graddau y mae'r cynnydd a gofrestrir yn unol â pharagraff (8) yn cynnwys y cwota hwnnw.

    (6) Bydd y cwota cyfanwerthol cofrestredig sydd ar ôl yn dal i fod ar gael i'r prynwr gwreiddiol.

    (7) Os na chofrestrir digon o gwota gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad y newidiwyd y prynwr, mae'n rhaid dyrannu unrhyw gwota ychwanegol a geir gan y cynhyrchwr i'r prynwr gwreiddiol nes y darperir ar gyfer yr holl ddanfoniadau i'r prynwr gwreiddiol a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad hwnnw ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

    (8) Ar ddechrau'r flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y cafwyd y cynnydd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), mae'n rhaid cynyddu cwota prynwr y prynwr y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi yn ôl y cyfryw ran o'r cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill gan y cynhyrchwr ag a gynhwysir yn y maint penodol.

    (9) Os effeithir ar y cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed i brynwr gwreiddiol gan  - 

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud y cyfryw addasiadau yng nghwota prynwr y prynwr gwreiddiol y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi, ag sydd eu hangen i sicrhau bod digon o gwota wedi'i gofrestru gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed.

    (10) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud addasiad yn unol â pharagraff (9) ar ôl i'r flwyddyn gwota dan sylw ddod i ben.

    (11) Lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru â dau neu ragor o brynwyr, caiff y cynhyrchwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y cwota sydd wedi'i gofrestru rhyngddynt dros dro, ac eithrio i'r graddau y mae angen y cwota sydd wedi'i gofrestru â phob un ohonynt i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

    (12) mae'n rhaid i gynhyrchwr sy'n gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (11) gyflwyno gyda'i gais/chais  - 

    (13) mae'n rhaid i'r ddau ddatganiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (12)  - 

    (14) Yn y rheoliad hwn  - 

Cyfyngiadau ar ddefnyddio cwota yn Ardal Ynysoedd yr Alban
    
24.  - (1) Ni chaiff cynhyrchwyr a phrynwyr ddefnyddio cwota sydd wedi'i gofrestru o dan reoliad 4 i ddeiliaid cwota yn un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban ond yn erbyn gwerthiannau uniongyrchol a danfoniadau yn cynnwys llaeth a gynhyrchwyd o fewn yr ardal honno yn Ynysoedd yr Alban.

    (2) Os yw rhan o fenter laeth deiliad cwota y tu allan i un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban, fe'i trinnir at ddibenion y rheoliad hwn fel deiliad cwota o fewn un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban os yw 50% neu ragor o'i fenter/menter laeth o fewn yr ardal honno.

    (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys o ran ailddyrannu cwota yn unol â rheoliadau 27 a 30.



RHAN 5

YR ARDOLL

Penderfynu a oes angen lleihau'r addasiad braster menyn tuag i lawr o ran danfoniadau
    
25.  - (1) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar  - 

    (2) mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at y crynodebau y mae'n rhaid i brynwyr eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Erthygl 8(2) Rheoliadau'r Comisiwn.

    (3) Os na chyflwynodd prynwr y crynodebau sy'n ofynnol felly ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o faint y llaeth a ddanfonwyd ato neu ati yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1)  - 

    (4) Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) yn fwy na'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfrifo faint y mae angen lleihau'r holl addasiadau braster menyn tuag i lawr a wnaed cyn hynny yn gymesur er mwyn cynyddu'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) fel ei fod yn cyfateb i'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

    (5) Os bydd paragraff (4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (6) Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn cyfateb i'r un y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu os bydd yn fwy nag ef, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr nad oes angen lleihau unrhyw addasiadau braster menyn tuag i lawr fel hyn.

    (7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "addasiad braster menyn tuag i lawr", o ran danfoniadau at brynwr, yw addasiad i faint y danfoniadau ar gyfer cynnwys braster menyn sy'n arwain at y maint hwnnw yn cael ei leihau at ddibenion cyfrifo'r ardoll yn unol ag Erthygl 10(2) Rheoliad y Cyngor.

Penderfynu a yw ardoll ar ddanfoniadau yn daladwy
    
26.  - (1) Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn fwy na pha un bynnag yw'r uchaf o - 

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll yn daladwy ar ddanfoniadau.

    (2) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr o benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

    (3) Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn llai na pha un bynnag yw'r uchaf o - 

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr bod ardoll yn daladwy ar b'un bynnag sydd fwyaf o'r danfoniadau.

Ailddyrannu cwota cynhyrchwyr
    
27.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo'r ardoll ar ddanfoniadau).

    (2) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfer pob cynhyrchwr, faint o gwota nas defnyddiwyd (os o gwbl) sydd ar gael i'r cynhyrchwr hwnnw, gan ystyried unrhyw addasiad sydd ei angen o dan reoliad 25(4) ac unrhyw gwota a addaswyd.

    (3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu yn unol â pharagraff (2) fod gan gynhyrchwr gwota nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo  - 

    (4) mae'n rhaid lleihau maint dyfarniad a wneir o dan baragraff (3)(b) yn gymesur os nad oes digon o gwota ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (3)(a) i wneud dyfarniad llawn i bob cynhyrchwr sy'n gymwys i gael dyraniad cwota dros dro o dan reoliad 19.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os nad oes angen yr holl gwota nas defnyddiwyd sydd ar gael i'w ailddyrannu i gynhyrchwr o dan baragraff (3)(c) ar y cynhyrchwr hwnnw i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailddyrannu'r cwota nas defnyddiwyd nad oes ei angen ymhlith yr holl gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu yn fwy na'u cwota yn gymesur â'u gwahanol gwotâu.

    (6) Ni chaiff unrhyw gynhyrchwr unrhyw gwota nas defnyddiwyd o dan baragraff (5) yn fwy na'r cwota y mae arno neu arni ei angen i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu sy'n fwy na'i gwota/chwota.

    (7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu" yw danfoniadau a addaswyd ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar ddanfoniadau
    
28.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar ddanfoniadau).

    (2) Ar ôl i'r flwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

Hysbysu am yr atebolrwydd i dalu ardoll
    
29. Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar werthiannau uniongyrchol
    
30.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 12 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar werthiannau uniongyrchol).

    (2) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim gan werthwyr uniongyrchol yn y flwyddyn gwota dan sylw.

    (3) mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (2) drwy gyfeirio at y datganiadau y mae'n rhaid i werthwyr uniongyrchol eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn.

    (4) Os na chyflwynodd gwerthwr uniongyrchol ddatganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota yn unol â'r Erthygl honno neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o feintiau'r cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (2)  - 

    (5) O ran blwyddyn gwota, lle mae  - 

gyda'i gilydd yn fwy na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll o ran gwerthiannau uniongyrchol yn daladwy.

    (6) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol o'i benderfyniad a wnaed o dan baragraff (5).

    (7) O ran blwyddyn gwota, lle mae  - 

gyda'i gilydd yn llai na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'r rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob gwerthwr uniongyrchol bod ardoll yn daladwy.

    (8) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu o ran pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol faint o gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd sydd ar gael i'r deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol hwnnw yn y flwyddyn gwota dan sylw, gan ystyried unrhyw gwota a addaswyd.

    (9) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan baragraff (8) fod gan ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo - 

    (10) Os, ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (9)(a), na fydd digon o gwota gwerthiannau uniongyrchol i wneud dyfarniad llawn o dan reoliad 19 i bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol sy'n gymwys i gael y cyfryw ddyfarniad, caiff maint pob dyfarniad o dan baragraff (9)(b) ei leihau yn gymesur.

    (11) O ran y flwyddyn gwota dan sylw, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ganfod wedyn  - 

    (12) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi'r gyfradd ardoll fesul litr sydd i'w thalu gan bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol drwy rannu'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(b) â'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(c).

    (13) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (14) Os na fydd gwerthwr uniongyrchol yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn ddatganiad o gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi mewn blwyddyn gwota, y gyfradd ardoll fesul litr y mae'n rhaid i'r gwerthwr uniongyrchol hwnnw ei thalu ar y cyfanswm nas hysbyswyd neu na phenderfynwyd yn ei gylch o dan baragraff (4) yw'r gyfradd a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Comisiwn.

Talu ac adennill ardoll
    
31.  - (1) O ran casglu ardoll, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion deddfwriaeth y Gymuned.

    (2) At ddibenion  - 

mae'n rhaid talu'r ardoll a'r cosbau y cyfeirir atynt yn y darpariaethau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) mae paragraff (4) yn gymwys at ddibenion Erthygl 11(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thynnu'r atebolrwydd i dalu ardoll) lle mae cynhyrchwr yn gwneud danfoniadau i brynwr yn mynd dros ei gwota/chwota cyfanwerthol.

    (4) Yn dilyn unrhyw addasiad i'r maint a ddanfonir yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn, caiff y prynwr dynnu ar unwaith o'r symiau y mae arno neu arni i'r cynhyrchwr o ran y danfoniadau swm sy'n cyfateb i'r ardoll a fyddai fel arall yn daladwy ganddo neu ganddi o ran y maint sydd dros ben.

    (5) Lle mae unrhyw ran o'r ardoll heb ei thalu ar ôl 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill yr ardoll sydd heb ei thalu ar y dyddiad hwnnw ynghyd ag unrhyw log o ran pob diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw nes bod y swm hwnnw wedi'i adennill  - 

    (6) mae llog o dan baragraff (5) yn daladwy ar y gyfradd o un pwynt canrannol uwchlaw'r gyfradd dri mis sterling a gynigir rhwng banciau Llundain.

    (7) Os  - 

yn ddarostyngedig i baragraff (8), caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynnu y telir unrhyw ardoll sy'n daladwy gan y prynwr nas talwyd ganddo neu ganddi yn y cyfryw gyfrannau ag y gall yn rhesymol eu mynnu gan unrhyw gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau i'r prynwr hwnnw wedi arwain at yr atebolrwydd i dalu ardoll.

    (8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys o ran cynhyrchwr sydd wedi talu'r prynwr dan sylw naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddidynnu'r ardoll sy'n daladwy gan y cynhyrchwr hwnnw.

Atal osgoi talu ardoll
    
32.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os  - 

ystyrir i B at ddibenion y Rheoliadau hyn wneud y gwerthiannau neu'r danfoniadau hynny fel asiant ar ran A.

    (2) Nid yw'r paragraff (1) yn gymwys os  - 

    (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os  - 



RHAN 6

GWYBODAETH A CHOFNODION

Gwybodaeth
    
33.  - (1) mae'n rhaid i bob person perthnasol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y cyfryw wybodaeth ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol ei mynnu yn rhesymol i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn a deddfwriaeth y Gymuned.

    (2) mae'n rhaid i bob prynwr ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y cyfryw wybodaeth ag y gall fod arno ei mynnu yn rhesymol yn ymwneud â danfoniadau a wnaed neu y bwriedir eu gwneud i'r prynwr gan y cyfryw berson neu'r cyfryw bersonau ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei nodi neu eu nodi at ddibenion monitro danfoniadau o ran y cyfanswm cyfeirio cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig y cyfeirir ato yn Erthygl 1(3) ac Atodiad I Rheoliad y Cyngor.

    (3) mae'n rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)  - 

ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol eu mynnu.

    (4) mae'n rhaid cyflwyno'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) fel ei bod yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod o dri diwrnod gwaith yn dechrau pan ddaw'r cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef i ben neu o fewn saith diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd gwybod am y mynnu, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

    (5) mae'n rhaid i bob prynwr ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol restr o'r deiliaid cwota hynny sydd wedi'u cofrestru â'r prynwr hwnnw ar 31 Mawrth ym mhob blwyddyn gwota (p'un a fuont wedi'u cofrestru felly am y cyfan o'r flwyddyn gwota honno neu am ran ohoni)  - 

sicrhau bod y rhestr yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na 14 Mai ar ôl i'r flwyddyn gwota honno ddod i ben.

    (6) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu ar gyfer pob prynwr gopi o'r cyfryw wybodaeth ag y gall fod ar y prynwr ei hangen yn rhesymol at ddibenion  - 

Cadw cofnodion a'u dal
    
34.  - (1) At ddibenion Erthygl 17 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau y codir yr ardoll yn gywir), mae'n rhaid i berson perthnasol gydymffurfio â gofynion paragraff (2) yn ogystal â bodloni unrhyw ofyniad perthnasol ym mharagraffau 2 i 6 Erthygl 24 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â rhwymedigaethau cadw cofnodion prynwyr a chynhyrchwyr).

    (2) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw  - 

ag a nodir yn Atodlen 2.

    (3) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar reoliad 3 Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diogelu Trefniadau'r Gymuned) 1992[
13].

Datganiadau a chrynodebau blynyddol
     35.  - (1) Os  - 

caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill tâl rhesymol oddi wrth y cynhyrchwr hwnnw neu'r prynwr hwnnw, yn ôl y digwydd, mewn perthynas ag unrhyw ymweliad ag unrhyw safle y cred yn rhesymol y dylai swyddog awdurdodedig ymgymryd ag ef er mwyn cael y datganiad neu'r crynodeb dan sylw.

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anfon i brynwr fersiwn diwygiedig o grynodeb a gyflwynwyd ganddo neu ganddi yn unol ag Erthygl 8(2) Rheoliad y Comisiwn, mae'n rhaid i'r prynwr gyflwyno naill ai  - 

fel bod y cyfryw gadarnhad neu'r cyfryw ddiwygiadau, yn ôl y digwydd, yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod o ddeng diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad pryd yr anfonwyd y fersiwn diwygiedig i'r prynwr.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "swyddog awdurdodedig" yw person (p'un a yw'n un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol ai peidio) a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu o ran materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn a deddfwriaeth y Gymuned.



RHAN 7

COSBAU A DARPARIAETHAU AMRYWIOL

Cosbau gweinyddol
    
36.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 23(4) Rheoliad y Comisiwn (sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i beidio â gosod cosbau o dan rai amgylchiadau) a pharagraff (5), mae prynwyr yn agored i dalu'r cosbau gweinyddol a nodir ym mharagraffau (2) and (3).

    (2) Lle mae prynwr yn methu â darparu neu gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y cais, y datganiad, neu'r fersiwn diwygiedig hwnnw, neu'r wyboaeth honno ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Lle mae prynwr yn methu â chadw cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru yn unol ag Erthygl 24(2) Rheoliad y Comisiwn a rheoliad 34, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r llaeth dan sylw yn ôl cyfaint.

    (4) At ddibenion trydydd is-baragraff Erthygl 11(3) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau osod cosbau cymesur lle mae cynhyrchwyr yn cyflwyno datganiadau anghywir), ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 11(5) y Rheoliad hwnnw (sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i beidio â gosod cosbau o dan rai amgylchiadau) ac i baragraff (5), lle mae gwerthwr uniongyrchol yn cyflwyno datganiad blynyddol sy'n gorddatgan neu'n tanddatgan maint y gwerthiannau uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn gwota a gwmpesir gan y datganiad hwnnw, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

ac eithrio mewn unrhyw achos lle mae ef neu hi, ar gyfer y flwyddyn gwota a gwmpesir gan y datganiad, yn agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol ardoll sy'n fwy na'r swm hwnnw.

    (5) Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraffau (2) i (4), ni ddylai'r cosbau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny  - 

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os bydd prynwr yn methu â chyflwyno crynodeb y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan Erthygl 8(2) Rheoliad y Comisiwn cyn 1 Gorffennaf yn y flwyddyn pryd y mae'n ofynnol ei gyflwyno, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y datganiad hwnnw ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.

    (7) Nid yw prynwr yn agored i dalu cosb o dan baragraff (6) os oedd y methiant, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol,  - 

Atal neu adennill iawndal
    
37.  - (1) Lle  - 

    (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cynllun iawndal y Gymuned" yw'r cynllun a sefydlwyd yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98 yn darparu ar gyfer cynnig iawndal i rai cynhyrchwyr llaeth a chynhyrchion llaeth y cyfyngir arnynt dros dro rhag cynnal eu busnes[14] a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2647/98 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98[15].

Atafael cwota
     38.  - (1) Yn unol ag Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud ag atafael ac adfer cwota mewn achosion o anweithgarwch), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu deiliad cwota bod ei gwota/chwota wedi'i gymryd i mewn i'r gronfa genedlaethol os ymddengys yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol na wnaeth unrhyw ddanfoniadau nac unrhyw werthiannau uniongyrchol yn ystod y flwyddyn gwota flaenorol.

    (2) Yn unol ag Erthygl 11(4) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud ag atafael cwota mewn achosion lle methwyd â chyflwyno datganiadau o werthiannau uniongyrchol cyn 1 Gorffennaf), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu unrhyw ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol sy'n torri Erthygl 11 y Rheoliad hwnnw, drwy fethu â chyflwyno datganiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel bod y datganiad blynyddol yn ei gyrraedd cyn 1 Gorffennaf, y cymerir ei gwota/chwota i mewn i'r gronfa genedlaethol 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu.

    (3) mae'n rhaid gosod unrhyw gwota a dynnir yn ôl yn unol ag Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor yn y gronfa genedlaethol yn effeithiol o 1 Ebrill yn dilyn y flwyddyn gwota y mae gwybodaeth ar gael i'r Cynulliad Cenedaethol yn ei chylch yn dangos iddo na wnaed unrhyw ddanfoniadau nac unrhyw werthiannau uniongyrchol, yn ôl y digwydd.

    (4) mae'n rhaid i ddeiliad cwota cyfanwerthol neu ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol a hysbysir o'r bwriad i atafael cwota o dan baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2) hysbysu unrhyw un â buddiant yn y tir a gynhwysir yn y daliad dan sylw o gynnwys yr hysbysiad hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y'i derbyniodd.

Adfer cwota
    
39.  - (1) Yn ddarostyngedig i ail is-baragraff Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor (sy'n nodi'r terfyn amser ar gyfer adfer cwota), gall person y cymerwyd ei gwota/chwota i mewn i'r gronfa genedlaethol ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol adfer iddo neu iddi y cwota o ran y daliad y'i hatafaelwyd ohono neu mewn perthynas â rhan o'r daliad hwnnw os yw'n gynhyrchwr.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'n rhaid i gais o dan baragraff (1)  - 

    (3) Lle mae  - 

caiff y deiliad newydd gyflwyno cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo adfer iddo neu iddi y cwota yn ymwneud â'r daliad neu'r rhan-ddaliad hwnnw cyn diwedd y terfyn amser ar gyfer adfer cwota a nodir yn ail is-baragraff Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor.

    (4) mae'n rhaid i gais am adfer cwota i ran o ddaliad a wneir o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys  - 

    (5) Lle adferir cwota i ran o ddaliad yn unol â chais a wnaed o dan baragraff (1) neu (3), mae'n rhaid penderfynu ar y cwota a adferir i'r rhan honno yn unol â'r dosraniad y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(a) neu (b).

Troseddau a chosbau troseddol
    
40.  - (1) mae person yn euog o drosedd os bydd ef neu hi  - 

    (2) mae person sy'n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored  - 

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn unrhyw gollfarn o dan baragraff (1)(b) nad oes unrhyw hawl apelio nac unrhyw hawl apelio bellach yn bodoli yn ei herbyn, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'r gollfarn honno yn ymwneud â'i gwota/chwota, dynnu oddi wrtho neu oddi wrthi y cyfryw gwota ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ystyried iddo neu iddi gael drwy'r anwiredd yr oedd y gollfarn yn seiliedig arno.

    (4) Ni ellir cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (3) ar ôl i'r cyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y gellir cyflwyno'r hysbysiad ddod i ben.

    (5) Lle profir i drosedd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol gael ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw un a oedd yn honni ei fod/bod yn gweithredu mewn unrhyw gyfryw swyddogaeth, neu y gellir ei phriodoli i esgeuluster ar ran unrhyw gyfryw berson, tybir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i gael ei (h)erlyn a'i gosbi/chosbi yn unol â hynny.

    (6) Lle rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

    (7) Yn y rheoliad hwn nid yw "gofyniad" yn cynnwys unrhyw gyfyngiad na rhwymedigaeth yn rheoliadau 11(1) a (3), 14(3), 16, 19(6) a (7), 21(2) a (3), 22(2), 23(12) a (13) a 39(2) a (4) nac o danynt.

Diddymiadau a diwygiadau
    
41.  - (1) Diddymir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2002[16].

    (2) Yn erthygl 8(3)(b) Gorchymyn Cyngor Datblygu Llaeth 1995[17], mae'r geiriau "the Dairy Produce Quotas (Wales) Regulations 2002" wedi'u disodli gan "the Dairy Produce Quotas (Wales) Regulations 2005[18]".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998[19]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



ATODLEN 1
Rheoliadau 10(2) 11, 12(3) a 39(4)


DOSRANNU CWOTA A DOSRANNU CWOTA YN RHAGOLYGOL TRWY GYMRODEDDU


Penodi a thalu cymrodeddwr

     1.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw achos lle bwriedir dosrannu cwota drwy gymrodeddu, mae'n rhaid penodi cymrodeddwr drwy gytundeb rhwng y trosglwyddwr a'r trosglwyddai, ac mae'n rhaid i'r trosglwyddai hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o benodiad y cymrodeddwr.

    (2) Caiff y trosglwyddwr neu'r trosglwyddai wneud cais unrhyw bryd i Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel "y Llywydd") yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi o blith aelodau'r panel y cyfeirir ato ym mharagraff 7, ac mae'n rhaid i'r person sy'n gwneud y cyfryw gais hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r ffaith honno.

    (3) Os na phenodwyd cymrodeddwr drwy gytundeb rhwng y trosglwyddwr a'r trosglwyddai ac os na wnaed unrhyw gais i'r Llywydd o dan is-baragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi.

    (4) Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno hysbysiad yn unol â rheoliad 12(2), mae'n rhaid iddo wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi ac mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd rhan yn y broses gymrodeddu.

    (5) Lle bwriedir dosrannu cwota o dan reoliad 39(4)(b) drwy broses gymrodeddu, mae'n rhaid i'r cynhyrchwr naill ai benodi cymrodeddwr drwy gytundeb â phawb sydd â buddiant yn y daliad neu wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi o blith aelodau'r panel y cyfeirir ato ym mharagraff 7.

     2.  - (1) Mewn unrhyw achos lle bwriedir dosrannu cwota yn rhagolygol drwy gymrodeddu, mae'n rhaid penodi cymrodeddwr  - 

    (2) Lle mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys, mae'n rhaid i'r deiliad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o benodiad y cymrodeddwr yn unol â'r cytundeb, neu o'r cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi.

     3.  - (1) mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir yn unol â pharagraff 1(1) i (4) neu 2 gyflawni'r broses gymrodeddu yn unol â'r Atodlen hon ac mae'n rhaid iddo neu iddi seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi o ran mannau a ddefnyddiwyd at ddibenion cynhyrchu llaeth yn ystod y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn i'r ddeiliadaeth newid, neu, yn achos dosraniad rhagolygol, yn y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn penodi'r cymrodeddwr.

    (2) mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir yn unol â pharagraff 1(5) gyflawni'r broses gymrodeddu yn unol â'r Atodlen hon ac mae'n rhaid iddo neu iddi seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi o ran lleiniau a ddefnyddiwyd at ddibenion cynhyrchu llaeth yn ystod y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn penodi'r cymrodeddwr.

    (3) mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir o dan unrhyw un o baragraffau'r Atodlen hon seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi yn unol â'r gyfraith a oedd mewn grym pan ddigwyddodd y digwyddiad a arweiniodd at y cais am gymrodeddu.

     4.  - (1) Ni ellir gwneud cais i'r Llywydd am iddo neu iddi benodi cymrodeddwr o dan yr Atodlen hon onid anfonir y ffi briodol ar gyfer y cyfryw gais gyda'r cais; ond unwaith y bydd y ffi wedi'i thalu mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw gais ni fydd unrhyw ffi arall yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gais a wneir ar ôl hynny yn gofyn i'r Llywydd arfer unrhyw swyddogaeth y gall ei harfer o ran y broses gymrodeddu yn rhinwedd yr Atodlen hon (gan gynnwys cais am iddo neu iddi benodi cymrodeddwr newydd mewn achos priodol).

    (2) Yn is-baragraff (1), ystyr y "ffi briodol" yw'r cyfryw ffi resymol ag y gall y Llywydd ei nodi o ystyried y cyfryw ffi ag sy'n cael ei phennu am y tro o dan baragraff 1 (2) Atodlen 11 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[
20], a heb fod yn fwy na'r ffi honno mewn unrhyw achos.

     5. Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i'r Llywydd o dan baragraff 1(3) neu (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y ffi sy'n daladwy i'r Llywydd o ran y cais hwnnw y cyfeirir ato ym mharagraff 4 fel dyled sy'n ddyledus gan y partïon eraill yn y broses gymrodeddu ar y cyd neu'n unigol.

     6. Mae'n rhaid i unrhyw benodiad o gymrodeddwr gan y Llywydd gael ei wneud ganddo neu ganddi cyn gynted ag y bo modd ar ôl derbyn y cais.

     7. At ddibenion paragraff 1(2) y panel o gymrodeddwyr yw'r panel a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan baragraff 1(5) Atodlen 11 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

     8. Os bydd y cymrodeddwr yn marw, neu os na fydd yn gallu gweithredu, neu os bydd yn methu â gweithredu am saith diwrnod ar ôl cael hysbysiad oddi wrth unrhyw barti yn gofyn iddo neu iddi weithredu, gellir penodi cymrodeddwr newydd fel pe na fyddai unrhyw gymrodeddwr wedi'i benodi/phenodi.

     9. Ni chaiff unrhyw barti yn y broses gymrodeddu ddiddymu penodiad y cymrodeddwr heb gydsyniad unrhyw barti arall, ac ni ddiddymir ei benodiad/phenodiad gan farwolaeth unrhyw barti.

     10. Mae'n rhaid i bob penodiad, cais, hysbysiad, diddymiad a chydsyniad o dan baragraff 1, 2, 8 neu 9 fod yn ysgrifenedig.

     11.  - (1) Tâl y cymrodeddwr  - 

    (2) Gellir adennill tâl y cymrodeddwr gan y cymrodeddwr fel dyled sy'n ddyledus gan y partïon yn y broses gymrodeddu, ar y cyd neu'n unigol.

Cynnal yr achos a thystion
     12.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn unrhyw broses gymrodeddu y mae'r Atodlen hon yn ymwneud â hi, caiff y cymrodeddwr ddwyn i mewn fel parti yn y broses gymrodeddu unrhyw berson sydd â buddiant yn y daliad, p'un a yw'r cyfryw berson wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y broses gymrodeddu ai peidio, ar yr amod y bydd y cyfryw berson yn fodlon cael ei d(d)wyn i mewn felly.

    (2) Lle bwriedir dosrannu cwota yn unol â chais mewn datganiad o dan reoliad 39(4)(b) drwy gymrodeddu, mae'n rhaid i unrhyw un â buddiant yn y daliad a wrthododd lofnodi'r cyfryw ddatganiad ag y cyfeirir ato yn rheoliad 39(4)(a) gymryd rhan yn y broses gymrodeddu.

     13. O fewn 35 o ddiwrnodau i'r dyddiad y penodwyd y cymrodeddwr, neu o fewn y cyfryw gyfnod pellach ag y gall y cymrodeddwr ei nodi, mae'n rhaid i'r partïon yn y broses gymrodeddu gyflwyno iddo neu iddi ddatganiad o'u gwahanol achosion a'r holl fanylion sydd eu hangen ac  - 

     14. Mae'n rhaid i'r partïon yn y broses gymrodeddu a phawb sy'n hawlio drwyddynt, yn amodol ar unrhyw wrthwynebiad cyfreithiol, gyflwyno er mwyn iddo gael ei archwilio gan y cymrodeddwr, lw neu gadarnhad, o ran materion y ddadl ac mae'n rhaid iddynt, yn amodol ar unrhyw gyfryw wrthwynebiad, gyflwyno gerbron y cymrodeddwr yr holl samplau a dogfennau yn eu meddiant neu dan eu hawdurdod y gall fod eu hangen neu y gellir digwydd amdanynt, a gwneud y cyfryw bethau eraill ag y gall y cymrodeddwr yn rhesymol eu mynnu at ddibenion y broses gymrodeddu.

     15. Mae gan unrhyw un â buddiant yn y daliad y mae'r broses gymrodeddu yn ymwneud ag ef hawl i gyflwyno sylwadau i'r cymrodeddwr.

     16. Mae'n rhaid i dystion sy'n ymddangos yn y broses gymrodeddu, os gwêl y cymrodeddwr yn dda, gael eu croesholi ar lw neu gadarnhad, a chaiff y cymrodeddwr roddi llw i'r partïon a'r tystion sy'n ymddangos, neu dderbyn eu cadarnhad.

     17. Mae darpariaethau rheolau llysoedd sirol o ran cyflwyno gwysion i dystion yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r cyfryw ddiwygiadau ag y gellir eu pennu gan y cyfryw reolau, at ddibenion cymrodeddu fel pe bai'n achos neu'n fater yn y llys sirol.

     18.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), mae unrhyw berson - 

yn fforffedu'r cyfryw ddirwy ag y gall barnwr y llys sirol ei nodi.

    (2) Ni chaiff barnwr gyfarwyddo o dan is-baragraff (1) fod person yn fforffedu dirwy o fwy na £400.

    (3) Ni fydd unrhyw berson a wysir yn unol â rheolau llysoedd sirol fel tyst yn y broses gymrodeddu yn fforffedu dirwy o dan y paragraff hwn oni thalwyd neu oni chynigiwyd iddo neu iddi pan gyflwynwyd y wps y cyfryw swm rhesymol o ran ei dreuliau/threuliau ag y gall y cymrodeddwr ei nodi (gan gynnwys, mewn achosion priodol, iawndal am golli amser), o ystyried y cyfryw symiau sy'n daladwy yn y cyfryw achosion ag y gellir eu pennu at ddibenion adran 55 Deddf Llysoedd Sirol 1984[21].

    (4) Caiff barnwr y llys sirol yn ôl ei d(d)isgresiwn gyfarwyddo y gellir defnyddio unrhyw gyfryw ddirwy yn gyfan gwbl neu unrhyw ran ohoni, ar ôl tynnu costau, i ddigolledu parti a niweidiwyd gan y gwrthodiad neu'r esgeulustod.

     19.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan wneir cais gan unrhyw barti yn y broses gymrodeddu, caiff barnwr y llys sirol, os gwêl yn dda, roi gorchymyn o dan ei l(l)aw i ddwyn gerbron y cymrodeddwr unrhyw berson (yn y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel "y carcharor") sydd mewn caethiwed mewn unrhyw le o dan unrhyw ddedfryd neu sy'n cael ei draddodi/thraddodi i sefyll ei brawf/phrawf neu fel arall, er mwyn iddo neu iddi gael ei groesholi/chroesholi fel tyst yn y broses gymrodeddu.

    (2) Ni chaniateir gwneud unrhyw gyfryw orchymyn o ran person mewn caethiwed dan orchymyn unrhyw achos neu fater sifil.

    (3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae'n rhaid dwyn y carcharor mewn unrhyw gyfryw orchymyn gerbron y cymrodeddwr o dan yr un warchodaeth, ac ymdrin ag ef neu â hi yn yr un modd ym mhob ffordd, fel carcharor y mae'n ofynnol iddo neu iddi o dan writ habeas corpus gael ei d(d)wyn gerbron yr Uchel Lys a'i groesholi/chroesholi yno fel tyst.

    (4) Nid yw'r person sy'n gwarchod y carcharor yn gorfod ufuddhau i'r gorchymyn oni chynigir iddo neu iddi swm rhesymol am gludo a chynnal swyddog neu swyddogion priodol a'r carcharor wrth fynd i'r man lle cynhelir y broses gymrodeddu, aros yno, a dychwelyd oddi yno.

     20. Caiff yr Uchel Lys orchymyn bod yn rhaid cyhoeddi gwrit habeas corpus ad testificandum i ddwyn carcharor gerbron y cymrodeddwr er mwyn iddo neu iddi gael ei groesholi/chroesholi, os yw'r carcharor hwnnw mewn caethiwed mewn unrhyw garchar dan orchymyn unrhyw achos neu fater sifil.

Y Dyfarniad
     21.  -  Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae'n rhaid i'r cymrodeddwr wneud a llofnodi ei d(d)yfarniad o fewn 56 diwrnod i'r dyddiad y'i penodwyd.(2) Caiff y Llywydd o bryd i'w gilydd estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud y dyfarniad, p'un a yw'r cyfnod hwnnw wedi dod i ben ai peidio.

    (3) mae'n rhaid i'r cymrodeddwr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o delerau ei d(d)yfarniad o fewn wyth diwrnod i'r dyddiad y gwnaed y dyfarniad hwnnw.

    (4) mae'n rhaid i'r dyfarniad bennu dyddiad heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl gwneud y dyfarniad ar gyfer talu unrhyw gostau a ddyfarnwyd o dan baragraff 25.

     22. Mae'r dyfarniad yn derfynol ac yn rhwymol ar y partïon ac unrhyw bersonau sy'n hawlio o danynt.

     23. Caiff y cymrodeddwr gywiro unrhyw wall neu gamgymeriad clercol yn y dyfarniad yn deillio o unrhyw lithriad neu hepgoriad damweiniol.

Rhesymau dros y dyfarniad
     24. Lle mae unrhyw barti yn y broses gymrodeddu yn gofyn i'r cymrodeddwr, pan wneir y dyfarniad neu cyn ei wneud, wneud datganiad, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, yn nodi'r rhesymau dros y dyfarniad, mae'n rhaid i'r cymrodeddwr ddarparu'r cyfryw ddatganiad.

Costau
     25. Mae'r cymrodeddwr yn rhydd i bennu costau'r broses gymrodeddu a'r dyfarniad a'r costau sy'n gysylltiedig â hwy a chaiff gyfarwyddo i bwy y dylid talu'r costau, neu unrhyw ran o'r costau, pwy y dylid eu talu ac ym mha ffordd. Mae'r costau at ddibenion y paragraff hwn yn cynnwys unrhyw ffi a delir i'r Llywydd o ran penodi cymrodeddwr ac unrhyw swm a delir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff 5.

     26. Ar ôl cais gan unrhyw barti, mae unrhyw gyfryw gostau yn drethadwy yn y llys sirol yn ôl y cyfryw raddfeydd ag a bennir gan reolau llysoedd sirol ar gyfer achosion yn y llys sirol ag y gellir ei nodi gan y cymrodeddwr o dan baragraff 25 neu, yn absenoldeb unrhyw gyfryw gyfarwyddyd, gan y llys sirol.

     27.  - (1) mae'n rhaid i'r cymrodeddwr, wrth ddyfarnu costau, ystyried  - 

    (2) Caiff y cymrodeddwr wrthod dyfarnu unrhyw gostau y cred i bartïon fynd iddynt yn ddiangen, gan gynnwys costau unrhyw dyst y cred iddo neu iddi gael ei (g)alw yn ddiangen.

Achos arbennig, gosod dyfarniad o'r naill du ac ailgyfeirio
     28.

unrhyw fater o gyfraith a fydd yn codi yn ystod y broses gymrodeddu ac unrhyw fater yn ymwneud ag awdurdod y cymrodeddwr ar ffurf achos arbennig er mwyn i'r llys sirol roi ei farn.

     29.  - (1) Lle mae'r cymrodeddwr wedi camymddwyn, caiff y llys sirol ei d(d)iswyddo.

    (2) Lle - 

caiff y llys sirol osod y dyfarniad o'r naill du.

     30.  - (1) Caiff y llys sirol o bryd i'w gilydd ailgyfeirio'r dyfarniad, neu ran o'r dyfarniad, i'r cymrodeddwr er mwyn iddo neu iddi ei ailystyried.

    (2) mae paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos lle ymddengys i'r llys sirol fod camgymeriad cyfreithiol o fewn y dyfarniad.

    (3) Yn lle arfer ei bŵer i ailgyfeirio dyfarniad o dan is-baragraff (1), caiff y llys amrywio'r dyfarniad drwy roi yn lle cymaint ohono ag yr effeithir arno gan y camgymeriad y cyfryw ddyfarniad ag y cred y llys y byddai wedi bod yn briodol i'r cymrodeddwr ei wneud o dan yr amgylchiadau.

    (4) mae dyfarniad a amrywiwyd yn unol â pharagraff (3) yn effeithiol fel y'i hamrywiwyd felly.

    (5) Lle gorchmynnir ailgyfeirio'r dyfarniad o dan is-baragraff (1), mae'n rhaid i'r cymrodeddwr, oni fydd y gorchymyn yn cyfarwyddo fel arall, wneud a llofnodi ei d(d)yfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y gorchymyn.

    (6) Os bydd y llys sirol yn fodlon bod y cyfnod o amser ar gyfer gwneud y dyfarniad am unrhyw reswm da yn annigonol, caiff y llys estyn yr amser hwnnw neu ei estyn ymhellach am y cyfryw gyfnod ag y cred ei fod yn briodol.

Amrywiol
     31. Gellir adennill unrhyw swm a delir, o ran tâl y cymrodeddwr oddi wrth unrhyw barti yn y broses gymrodeddu sy'n fwy na'r swm, os o gwbl, y cyfarwyddodd y dyfarniad y dylai ei dalu o ran costau'r dyfarniad, gan y parti arall neu ar y cyd gan y partïon eraill.

     32. At ddibenion yr Atodlen hon, mae'n rhaid ystyried bod cymrodeddwr a benodwyd gan y Llywydd wedi'i benodi pan gyflawnodd y Llywydd yr offeryn penodi, yn unol â'r gyfraith a oedd mewn grym pan y'i cyflawnwyd ac yn achos unrhyw gyfryw gymrodeddwr mae'r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 13 ac 21 yn cychwyn felly o'r amser hwnnw.

     33. Dylid ystyried bod unrhyw offeryn penodi neu unrhyw ddogfen arall yr honnir iddo neu iddi gael ei (g)wneud wrth arfer unrhyw swyddogaeth y gall y Llywydd ei harfer o dan baragraff 1, 2, 6, 11 neu 21 a chael ei (l)lofnodi gan y Llywydd neu ar ei r(h)an yn gyfryw offeryn neu ddogfen oni ddangosir fel arall.

     34. Nid yw Deddf Cymrodeddu 1996[22] yn gymwys o ran cymrodeddu a benderfynir yn unol â'r Atodlen hon.



ATODLEN 2
Rheoliad 34(2)


CADW COFNODION A'U DAL


Cofnodion y mae angen i brynwyr eu cadw
     1. O ran pob blwyddyn gwota, mae'n rhaid i brynwr gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys  - 

Cofnodion y mae angen i gynhyrchwyr eu cadw
     2.  - (1) O ran pob blwyddyn gwota, mae'n rhaid i werthwr uniongyrchol gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys  - 

    (2) Lle mae gwerthwr uniongyrchol hefyd yn danfon llaeth neu gynhyrchion llaeth at brynwr, mae'n rhaid iddo neu iddi hefyd, o ran pob blwyddyn gwota, gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys  - 

     3. Mae'n rhaid i ddeiliad cwota cyfanwerthol sy'n gwneud danfoniadau i brynwr, o ran pob blwyddyn gwota, gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys  - 

Cofnodion y mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cynnal profion braster menyn mewn labordy eu cadw
     4. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cynnal profion braster menyn dros brynwr mewn labordy gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys manylion yr holl samplau llaeth a ddadansoddir, yn nodi  - 

Cofnodion y mae'n rhaid i gludwyr eu cadw
     5. Mae'n rhaid i unrhyw gludwr sy'n casglu llaeth neu gynhyrchion llaeth ar ran prynwr gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys manylion yr holl feintiau o laeth a chynhyrchion llaeth a gesglir felly, yn nodi  - 

Cofnodion y mae'n rhaid i broseswyr eu cadw
     6. Mae'n rhaid i unrhyw broseswr sy'n derbyn llaeth neu gynhyrchion llaeth gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys manylion yr holl feintiau o laeth neu gynhyrchion llaeth a dderbynnir, yn nodi - 

Cofnodion y mae'n rhaid i bobl sy'n prynu, yn gwerthu neu'n cyflenwi llaeth neu gynhyrchion llaeth a gafwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwr neu brynwr eu cadw
     7. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n prynu, yn gwerthu neu'n cyflenwi llaeth neu gynhyrchion llaeth a gafwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwr neu brynwr tra'n rhedeg busnes gadw cofnodion, a'u dal am y cyfnod perthnasol, yn cynnwys manylion yr holl feintiau o laeth a chynhyrchion llaeth a dderbynnir, yn nodi  - 

     8. Yn yr Atodlen hon, o ran unrhyw gofnodion  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2005, yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2002 (O.S. 2002/897 (Cy.103)) ("Rheoliadau 2002") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/911 (Cy.94)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 (OJ Rhif L279, 21.10.2003 t.123) sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth ("Rheoliad y Cyngor") a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t.22) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth ("Rheoliad y Comisiwn"). Mae Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn diddymu ac yn disodli deddfwriaeth gynharach yn ymwneud â'r ardoll.

O dan ddeddfwriaeth y Gymuned, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1), mae ardoll yn parhau i fod yn daladwy ar gynhyrchion llaeth a werthir drwy werthiant uniongyrchol gan gynhyrchwr neu a ddanfonir ganddo neu ganddi ar gyfanwerth i fusnes llaeth, oni fydd y gwerthiannau neu'r danfoniadau o fewn maint cyfeirio a ddisgrifir yn y ddeddfwriaeth honno. Mae deddfwriaeth y Gymuned yn sefydlu system yr hyn a elwir fel arfer yn "gwotâu llaeth" ac yn y Rheoliadau hyn defnyddir y term "cwota", a ddiffinnir yn rheoliad 2(1), i gyfeirio at y maint cyfeirio a ddisgrifir yn neddfwriaeth y Gymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran personau perthnasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a phrynwyr, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn awdurdod cymwys perthnasol iddynt o dan Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002 (O.S. 2002/458). Diffinnir y termau "person perthnasol", "cynhyrchwr" a "phrynwr" yn rheoliad 2(1). Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys o ran y personau perthnasol hynny y mae eu cyfeiriad masnachu yng Nghymru. Gall daliadau cynhyrchwyr y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt gynnwys tir mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru. Daw Diwygiadau i Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002 i rym ar 31 Mawrth 2005 hefyd; gweler O.S. 2005/466.

Ar wahân i newidiadau drafftio a diddymu darpariaethau darfodedig, mae'r darpariaethau newydd a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn:

Mae copi o'r map y cyfeirir ato yn y diffiniad o "ardal Ynysoedd yr Alban" ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Paratowyd arfarnaid rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau yma ar gostau busnes a cheir copïau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] OS 1999/2788back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1971 p. 80.back

[4] 2000 p.7.back

[5] OJ Rhif L94, 31.3.2004, tud.22.back

[6] OJ Rhif.L161, 2.7.1993, tud.48, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 569/1999 (OJ Rhif L70, 17.3.1999, tud.12).back

[7] OJ Rhif L270, 21.10.03, tud.123, fel y'i cywirwyd gan gywiriad OJ Rhif L94, 31.3.2004, tud. 71.back

[8] O.S. 2002/458, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/466.back

[9] 1986 p. 49.back

[10] 1981 p.22.back

[11] 1985 p.48; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diogelu Bwyd 1991 (p.16), adran 51(2), gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), adran 40(1) ac Atodlen 5, paragraff 6(1) a (3), gan O.S. 1999/1756 a chan O.S. 2000/2040.back

[12] 1986 p. 5; diwygiwyd Rhan I Atodlen 3 gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol (Diwygio) 1990 (p.15) adran 1.back

[13] O.S. 1992/314; yr offeryn diwygiol perthnasol yw O.S. 2001/3686.back

[14] OJ Rhif L291, 30.10.98, t.4.back

[15] OJ Rhif L335, 10.12.98, t.33.back

[16] O.S. 2002/897.back

[17] O.S. 1995/356; yr offeryn diwygiol perthnasol yw O.S. 2004/964.back

[18] O.S. 2005/537.back

[19] 1998 p.38.back

[20] 1986 p.5.back

[21] 1984 p. 28back

[22] 1996 p.23.back



English version



ISBN 0 11 091092 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 18 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050537w.html