BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 662 (Cy.52)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050662w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 662 (Cy.52)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 11 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio'r Prif Reoliadau  -  Terfynau Cyfalaf
     2.  - (1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Dirymir rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf) o ran Cymru.

    (3) Ar ôl rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf) mewnosoder y rheoliad canlynol - 

    (4) Dirymir rheoliad 28 (Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o ran Cymru.

    (5) Ar ôl rheoliad 28 (Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf), mewnosoder y rheoliad a ganlyn - 

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau  -  Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm nad yw'n enillion
     3.  - (1) Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau - 

    (2) Ar ôl paragraff 28J o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn - 

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau  -  Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo cyfalaf
     4. Ar ôl paragraff 26 o Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae rheoliad 2 yn codi'r terfynau cyfalaf yn y Prif Reoliadau. Mae'r terfyn cyfalaf uchaf yn gosod y swm cyfalaf pan nad yw preswylydd, os yw ei gyfalaf yn uwch na'r swm hwnnw, yn gymwys i dderbyn cymorth awdurdod lleol. Mae'r terfyn cyfalaf isaf yn pennu'r swm pan nad yw'n ofynnol i breswylydd, os yw ei gyfalaf yn is na'r swm hwnnw, gyfrannu o'i gyfalaf at ei lety.

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau sy'n nodi ffynonellau incwm penodol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu diystyru. Codir lefelau diystyriad credyd cynilion o £4.75 i £4.85 yn achos person sengl ac o £6.95 i £7.20 yn achos preswylydd sydd â phartner. Mae diystyriad newydd o ran taliadau a wneir o dan y trefniadau i gynorthwyo "gwarcheidwaid arbennig" o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau fel bod taliadau a wneir i "warcheidwaid arbennig" hefyd yn cael eu diystyru fel cyfalaf.


Notes:

[1] 1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back

[4] O.S. 2003/931.back

[5] 1989 p.41. Caiff adran 14F o Ddeddf Plant 1989 ei mewnosod gan adran 115 of Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 p.38.back

[6] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11 091088 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 17 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050662w.html