BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005 Rhif 663 (Cy.53)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050663w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 663 (Cy.53)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 11 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y swm y mae ei angen at anghenion personol
    
2. Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £19.10 yr wythnos.

Dirymu
    
3. Drwy hyn, dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, pan nad oes amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 at eu hanghenion personol.

0 11 Ebrill 2005 ymlaen, rhagdybir y bydd angen £19.10 yr wythnos ar bob preswylydd o'r fath at eu hanghenion personol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 sy'n cael eu dirymu ac a oedd yn rhagnodi swm wythnosol o £18.40.


Notes:

[1] 1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o "the Minister" a "prescribed" yn ôl eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2004/1024 (Cy.121)back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091089 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 17 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050663w.html