BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050700w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005

  Wedi'i wneud 15 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 2004[1], gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn - 

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant 2004.

Y Diwrnod Penodedig
    
2.  - (1) 16 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym.

    (2) 1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 ("y Ddeddf").

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.

Darpariaeth Dyddiad Cychwyn
Adran 10 1 Ebrill 2005
Adran 11(yn rhannol) 1 Mawrth 2005
Adran 11 (y gweddill) 1 Hydref 2005
Adran 13(yn rhannol) 1 Mawrth 2005
Adran 14 (yn rhannol) 1 Mawrth 2005
Adran 16 (yn rhannol) 1 Mawrth 2005
Adran 17 1 Mawrth 2005
Adran 18 1 Ebrill 2005
Adran 20 1 Mawrth 2005
Adran 21 1 Mawrth 2005
Adran 22 1 Mawrth 2005
Adran 23 1 Mawrth 2005
Adran 24 1 Ebrill 2005
Adran 44 (yn rhannol) 1 Ebrill 2005
Adran 44 (y gweddill) 1 Gorffennaf
Adran 48 (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 5 a 7 o Atodlen 4 1 Mawrth 2005
Adran 50 1 Mawrth 2005
Adran 51 (yn rhannol) 1 Ebrill 2005
Adran 52 1 Gorffennaf
Adran 53 1 Mawrth 2005
Adran 54 1 Mawrth 2005
Adran 55 1 Ebrill 2005
Adran 57 1 Mawrth 2005
Adran 60 o ran Cymru a Lloegr 1 Mawrth 2005
Rhan 1 o Atodlen 5 1 Mawrth 2005
Rhan 2 o Atodlen 5 (yn rhannol) 1 Mawrth 2005
Rhannau 3 a 4 o Atodlen 5 1 Ebrill 2005


Notes:

[1] 2004 p.31.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091095 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 22 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050700w.html