BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 1157 (Cy.74)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051157w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1157 (Cy.74)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 12 Ebrill 2005 
  Yn dod i rym 30 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], ac yntau wedi'i ddynodi[3] at ddibenion yr is-adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniad
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002[4].

Diwygiadau i Reoliadau 2002: cyfranogiad y cyhoedd
     3.  - (1) Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002, mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:

    (2) Yn rheoliad 10 o Reoliadau 2002, mewnosoder ar ôl paragraff (11) - 

    (3) Yn rheoliad 12 o Reoliadau 2002, hepgorer paragraff (9).

Diwygio Rheoliadau 2002: dull asesu
    
4. Yn rheoliad 8(6) o Reoliadau 2002, ar ôl "canlyniadau cyfwerth" mewnosoder "neu, o ran samplu a mesur PM10, y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn arddangos perthynas gyson â'r dull cyfeirio".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3183 (Cy.299)) ("Rheoliadau 2002"), sy'n gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol[
5], Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm[6] a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol[7].

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2002 at ddibenion gweithredu Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd[8].

Mae rheoliad 4 yn ychwanegu dull amgen ar gyfer samplu a mesur PM10 er mwyn iddo gydymffurfio â'r dulliau y darparwyd ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] 1972 p.68.back

[3] Gweler Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000, O.S. 2000/2812.back

[4] O.S. 2002/3183 (Cy.299).back

[5] OJ L296, 21.11.1996, t.55, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ L284, 31.10.2003, t.1.back

[6] OJ L163, 29.6.1999, t.41, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/774/EC, OJ L 278, 23.10.2001, t.35.back

[7] OJ L313, 13.12.2000, t.12.back

[8] OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17.back



English version



ISBN 0 11 091106 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 April 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051157w.html