BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005 Rhif 1161 (Cy.76)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051161w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1161 (Cy.76)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 13 Ebrill 2005 
  Yn dod i rym 15 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu Rheoliadau
    
2. Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn dirymu Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd 1997 ("Rheoliadau 1997") (O.S. 1997/2441) a Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Diwygio) 1998 ("Rheoliadau 1998") (O.S. 1998/3168) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Yr oedd Rheoliadau 1997 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a oedd yn bwriadu mewnforio tatws a oedd yn tarddu o'r Iseldiroedd (ac a dyfwyd ym 1997) roi hysbysiad i arolygydd iechyd planhigion o'r bwriad hwnnw ynghyd â gwybodaeth gysylltiedig ynglyn â'u mewnforio. Darparodd Rheoliadau 1997 hefyd bwerau gorfodi penodol i arolygwyr iechyd planhigion a rhagnodi bod ffi (a oedd yn daladwy gan y rhai yr oedd yn ofynnol iddynt ddarparu hysbysiadau) i'w thalu pan fo sampl o datws had yn cael ei gymryd gan arolygydd er mwyn canfod a oeddent wedi'u heintio â "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith".

Diwygiodd Rheoliadau 1998 Reoliadau 1997 yn y fath fodd ag i gymhwyso'r olaf i datws a dyfwyd ym 1998. Diwygiasant hefyd y ffi a oedd yn daladwy am samplu'r tatws hadyd. Nid oes effaith ymarferol bellach i'r naill na'r llall o'r Rheoliadau hyn gan nad yw tatws a oedd yn tarddu o'r Iseldiroedd ac a dyfwyd ym 1997 a 1998 yn bodoli mwyach.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 1997/2441, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3168.back

[4] O.S. 1998/3168.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091114 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 29 April 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051161w.html