BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051225w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)

TAI, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 26 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
    
2. Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 (Tai) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2005, o ran Cymru, weddill darpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

Mae adran 12 yn cyflwyno dyletswydd newydd ar landlordiaid cymdeithasol i baratoi a chyhoeddi polisïau a gweithdrefnau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i drefnu iddynt fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth baratoi ac adolygu'r polisïau a'r gweithdrefnau, rhaid i'r landlord roi sylw i ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adrannau 14 a 15, ac Atodlen 1, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel bresennol neu denantiaeth sicr bresennol tenant i ben ac yn rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Ar 30 Medi 2004 cychwynnwyd adran 14 ac Atodlen 1 i'r graddau yr oeddent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yr adran neu'r Atodlen Y dyddiad cychwyn Rhif O.S.
1 i 11 20 Ionawr 2004 2003/3300
18 27 Chwefror 2004 2003/3300
23 27 Chwefror 2004 2003/3300
25 i 29 27 Chwefror 2004 2003/3300
30 i 38 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(1) a (2) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (y gweddill) 30 Ebrill 2004 2003/3300
39(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
46 31 Mawrth 2004 2004/690
53 20 Ionawr 2004 2003/3300
54 31 Mawrth 2004 2004/690
57 i 59 20 Ionawr 2004 2003/3300
60 i 64 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(1), (2) a (3) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85 (4) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(4) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(5) (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(5) (y gweddill)(yn gyfyng ei gymhwysiad) 1 Hydref 2004 am gyfnod o 18 mis 2004/2168
85(6) (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(6) (y gweddill) 30 Medi 2004 2004/2168
85(7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(8) 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(9), (10) ac (11) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(1) a (2) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
86(3) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
87 20 Ionawr 2004 2003/3300
88 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
89(1), (2), (3) a (4) 20 Ionawr 2004 2003/3300
89(5) 31 Mawrth 2004 2004/690
89(6) a (7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
90 31 Gorffennaf 2004 2004/1502
92 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
92 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
92 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 2 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 3 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
Atodlen 3 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yr adran neu'r Atodlen Y dyddiad cychwyn O.S. Rhif
13 (gydag arbedion) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
14 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
16 (gydag arbedion) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
17 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
91 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
Atodlen 1 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
40 i 45 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
47 i 52 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
55 a 56 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
Rhan 8 31 Rhagfyr 2004 2004/3238 (Cy.281) (C.144)


Notes:

[1] 2003 p.38.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091121 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 6 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051225w.html