BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 Rhif 1227 (Cy.85)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051227w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1227 (Cy.85)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 26 Ebrill 2005 
  Yn dod i rym 1 Medi 2005 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 [1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

    (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:

    (4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

Cymhwyster Prifathrawiaeth
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, dim ond os yw'n meddu ar un o'r canlynol y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol: - 

    (2) Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.

Gofyniad bod rhaid meddu ar gymhwyster
     4. Dim ond os yw:

Gofyniad bod rhaid cofrestru
    
5. Dim ond os yw wedi cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru) [6] y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol.

Penaethiaid dros dro
     6. Nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth ysgol  - 

yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod penaethiaid tro cyntaf ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan awdurdod addysg lleol, ac a benodir yn benaethiaid ar neu ar ôl 1 Medi 2005:

Bydd yn ofynnol bod gweithwyr mudol o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir yn meddu ar gymwysterau cyfatebol.

Yn rhinwedd rheoliad 8, nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth hyd nes y penodir pennaeth, neu yn ystod absenoldeb pennaeth ('pennaeth dros dro') yn bennaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.


Notes:

[1] 2002 p.32.back

[2] O.S. 2005/18. Mae hwn yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ynghylch system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd.back

[3] Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Prifathrawon) (Lloegr) 2003, (O.S. 2003/3111), yw'r Rheoliadau cyfredol sy'n darparu ar gyfer hyn. Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr yn cael ei ddyfarnu gan y National College for School Leadership Limited.back

[4] Ar hyn o bryd, mae Safon Prifathrawiaeth yr Alban yn cael ei hennill drwy ymgymryd â Chymhwyster yr Alban ar gyfer Prifathrawiaeth.back

[5] Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei ddyfarnu gan yr Uned Hyfforddi Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon.back

[6] 1998 p.30.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091118 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 4 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051227w.html