BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 Rhif 1229 (Cy.87) (C.56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051229w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1229 (Cy.87) (C.56)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 26 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005.

Y diwrnod penodedig
    
2. 30 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, ddod i rym  - 

Darpariaethau canlyniadol
    
3. Ar y diwrnod a bennwyd gan erthygl 2, daw effaith darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990")[2] i ben o ran Cymru  - 

Darpariaethau trosiannol
     4. Mewn perthynas â'r awdurdodau cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a'u hardaloedd  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Ebrill 2005



YR ATODLEN
Erthygl 4

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir Gwynedd

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Ynys Môn



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau pellach Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf"), sef adrannau 62 a 63 (i'r graddau nad ydynt eisoes wedi'u dwyn i rym), 72 a 73, i rym ar 30 Ebrill 2005.

Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys i Gymru'n unig ac yn sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol ("cynlluniau") yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I Rhan II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990").

Effaith y Gorchymyn fydd galluogi'r awdurdodau cynllunio lleol hynny sydd wedi mynegi dymuniad i ddechrau gwaith ar baratoi eu cynlluniau i wneud hynny. Yr awdurdodau o dan sylw yw  - 

O ran yr awdurdodau cynllunio lleol eraill yng Nghymru (h.y. y rhai a ragnodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) bydd darpariaethau presennol Deddf 1990 yn parhau mewn grym am y tro.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 sy'n cael eu rhestru yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran(nau) Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
60 14 Gorffennaf 2004 2004/1814 (Cy.199) (C.74)
62(4) a (5)(g) 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)
63(3)(a) a (7) 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)
75 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)
76(2) (yn rhannol) a (3) (yn rhannol) 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)
77 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)
78 1 Awst 2004 2004/1813 (Cy.198) (C.73)


Notes:

[1] 2004 p.5.back

[2] 1990 p.8.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091120 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 4 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051229w.html