BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1269 (Cy.89)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
4 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
5 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005. Deuant i rym ar 5 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
2.
Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[3] yn unol â rheoliadau 3 i 9 o'r Rheoliadau hyn.
3.
Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1) -
(a) dileer y diffiniad o "cais am gymorth arwynebedd" ("area aid application");
(b) yn y diffiniad o "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" ("claimed forage area") yn lle'r geiriau "cais am gymorth ardal" rhodder y geiriau "cais sengl";
(c) mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
ystyr "Cod Ymarfer Ffermio Da ("Code of Good Farming Practice") yw'r darpariaethau Ymarfer Ffermio Da a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 - 2006[4];
ystyr "Rheoliad y Comisiwn 796/2004" ("Commission Regulation 796/2004") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004[5] sy'n gosod rheolau manwl ar drawsgydymffurfio, modwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor 1782/2003;";
(ch) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o "Rheoliad y Comisiwn 1750/1999" ("Commission Regulation 1750/1999") -
"
"ystyr "Rheoliad y Comisiwn 817/2004" ("Commission Regulation 817/2004") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004[6] sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);";
(d) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
"ystyr "Rheoliad y Cyngor 1254/1999" ("Council Regulation 1254/1999") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999[7]1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;";
(dd) dileer y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor 3508/92" ("Council Regulation 3508/92");
(e) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
"ystyr "Rheoliad y Cyngor 1782/2003" ("Council Regulation 1782/2003") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003[8] sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;";
(f) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
"ystyr "Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel" ("Hill Livestock Compensatory Allowances") neu ("HLCA") yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);";
(ff) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o "IACS" -
"
ystyr "IACS" yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd o dan Bennod 4 o Reoliad y Cyngor 1782/2003;";
(g) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
"
mae i "cais sengl" yr ystyr a roddir i "single application" yn erthygl 2(11) o Reoliad y Comisiwn 796/2004;".
4.
Yn rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys), ym mharagraff (1) -
(1) yn is-baragraff (a), yn lle'r geiriau "cais dilys am gymorth arwynebedd" rhodder y geiriau "cais sengl dilys";
(2) yn is-baragraff (b) -
(a) o flaen y geiriau "y ceisydd" mewnosoder y geiriau "yn ddarostyngedig i is-baragraff (d) isod,";
(b) ar ôl y geiriau "wedi cyflwyno cais" mewnosoder y gair "dilys";
(c) yn lle'r geiriau "mewn perthynas â'r flwyddyn" mewnosoder y geiriau "mewn perthynas â chynllun blwyddyn 2004";
(ch) dileer y geiriau "y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd".
(3) Yn is-baragraff (c) ar ôl y geiriau "ffermio cynaliadwy" mewnosoder y geiriau "ac wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da".
(4) Ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder yr is-baragraff canlynol -
"
(d) gofyniad is-baragraff (b) uchod ynghylch cyflwyno cais dilys am gymorth ar gyfer da byw heb fod yn gymwys -
(i) os yw'r ceisydd wedi gwneud cais ac wedi derbyn Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 ac os yw wedi gwneud cais ac wedi derbyn taliad Tir Mynydd ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny; neu
(ii) os nad yw'r ceisydd cyn hynny wedi gwneud cais am daliad Tir Mynydd.".
5.
Yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ym mharagraff (1) -
(1) ar ôl y geiriau "rhaid bod" mewnosoder y geiriau "wedi bod";
(2) ar ôl y geiriau "am bob hectar" mewnosoder y geiriau "ar sail nifer y defaid a/neu fuchod sugno a oedd yn denu premiwm o dan y cynllun premiwm blynyddol defaid a/neu'r cynllun Premiwm Buchod Sugno ar gyfer cynllun blwyddyn 2004".
6.
Yn rheoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol), dileer paragraff (b).
7.
Yn rheoliad 10 (Ceisiadau) -
(1) dileer paragraff (2);
(2) ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau " Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992" rhodder y geiriau "Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwn 796/2004".
8.
Ar ôl rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) mewnosoder y rheoliad canlynol -
"
Cymhwyso cosbau
13A.
Yn unol ag Erthygl 73 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu, a chyhoeddi yn y dull y gwêl yn dda, system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion os bydd y ceiswyr yn methu cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.".
9.
Yn rheoliad 16 (Pwerau personau awdurdodedig) ym mharagraff (3) -
(1) yn is-baragraff (c), dileer y gair "ac";
(2) yn is-baragraff (ch), yn lle'r marc atalnodi "." rhodder y marc atalnodi a'r gair "; a"; a
(3) ar ôl is-baragraff (ch), mewnosoder yr is-baragraff canlynol -
"
(d) cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 5 Mai 2005, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") er mwyn:
(a) gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r polisi amaethyddol cyffredin o ran y Cynllun Taliad Sengl.
(b) darparu y gellir gwneud taliadau Tir Mynydd i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel ar gyfer Lwfansau cynllun blwyddyn 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi hawlio cymorth da byw o ran defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd (Rheoliad 4(4)).
(c) tynnu rheoliad 8(b) er mwyn osgoi'r posibiliad o gyllido dwbl (Rheoliad 6).
(ch) sicrhau bod cymhwyster ar gyfer y cynllun yn cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da a nodir yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 - 2006, a gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion pan na chydymffurfir â'r Cod. (Rheoliad 4(3) a Rheoliad 8).
(d) darparu ar gyfer mân newidiadau a newidiadau yn y diffiniadau o ganlyniad i'r diwygiadau a nodir uchod.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn").back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1154 (Cy.61) ac O.S. 2002/1806 (Cy.176).back
[4]
Paratowyd ef gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gyntaf ar 11 Hydref 2000 drwy Benderfyniad y Comisiwn C(2000) 2932 gydag addasiadau dilynol a gymeradwywyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn C(2002) 1743 a C(2003) 1432.back
[5]
OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 239/2005 (OJ Rhif L042, 12.2.2005, t.3).back
[6]
OJ Rhif L153, 30.4.2004, t.30, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L231, 30.6.2004, t.24).back
[7]
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1899/2004 (OJ Rhif L328, 30.10.2004, t.67).back
[8]
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 118/2005 (OJ Rhif L024, 27.1.2005, t.15).back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091122 9
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
10 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051269w.html