BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 Rhif 1270 (Cy.90)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051270w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1270 (Cy.90)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 4 Mai 2005 
  Yn dod i rym 6 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 38(6) a 44(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 6 Mai 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Oni ddatgenir yn wahanol, mae i eiriau neu ymadroddion yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf neu, os rhoddwyd ystyr gwahanol i'r geiriau a'r ymadroddion hynny yn y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau, yr ystyr sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

Defnyddio dull cyfathrebu electronig
     3.  - (1) Caniateir bodloni unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn am roi neu anfon hysbysiad neu ddogfen arall gan un person at berson arall drwy gyfathrebiad electronig - 

    (2) O dan baragraff (1), os defnyddir dull cyfathrebu electronig at ddibenion rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen - 

    (3) At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr "mewn pob manylyn o bwys" yw ym mhob manylyn sydd o bwys er mwyn atgynhyrchu'n union gynnwys yr wybodaeth fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig.

Ym mha ddull ac o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caniateir dwyn apêl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38(1) o'r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf sy'n ymwneud â gwaith sy'n gysylltiedig â dull mynediad) dim ond os hysbysir y Cynulliad Cenedlaethol drwy anfon neu draddodi - 

    (2) Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 36(3) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw o'i fewn.

    (3) Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'r awdurdod mynediad yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw ar ôl iddo ddod i ben.

    (4) Os yw person sy'n dymuno dwyn apêl yn anfon neu'n traddodi i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig o'r dymuniad hwnnw fel bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael cyn diwedd y cyfnod apelio, yna, ar yr amod bod y person yn anfon neu'n traddodi ffurflen apêl wedi'i llenwi i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach y gall y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei wneud yn ofynnol, rhaid ymdrin â'r ffurflen apêl honno fel pe bai wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio.

    (5) Caniateir llenwi ffurflen apêl naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ond, os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng iaith ac eithrio iaith a ddefnyddiwyd wrth lenwi'r ffurflen apêl, dylai'r ffurflen apêl gynnwys cais i'r perwyl hwnnw, neu dylai fod cais i'r perwyl hwnnw gyda'r ffurflen.

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau
    
5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dehongli) - 

     6. Dileer rheoliad 3 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law) a rhodder yn ei le - 

     7. Ar ôl rheoliad 4(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Ymateb gan atebydd i apêl), mewnosoder - 

     8. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu partïon o'r weithdrefn apêl) - 

     9.  - (1) Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r cyhoedd), ar ôl "30(3)", mewnosoder - 

    (2) Ar ddiwedd rheoliad 6(1)(ch), dileer yr atalnod llawn a rhodder - 

    (3) Yn rheoliad 6(2), - 

    (4) Yn rheoliad 6(3), dileer "paragraff (1)(c)" a rhodder "paragraff (1)(c), (ch) neu (d)" yn ei le.

    (5) Yn rheoliad 6(4), yn lle "neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch)" rhodder "o dan baragraff (a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c), (ch) neu (d)".

    
10. Yn rheoliad 9(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger - 

     11. Yn rheoliad 12(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad y gwrandawiad) - 

     12. Yn rheoliad 16(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), ychwaneger - 

     13. Yn rheoliad 22(6) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad) - 

     14. Yn rheoliad 28(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger - 

     15. Yn rheoliad 29(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Tynnu apêl yn ôl), ar ôl "rheoliad 5(1)", ychwaneger - 

     16. Yn rheoliad 36(b) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau), ar ôl "30(3)", mewnosoder - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan I (adrannau 1 i 46) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i gefn gwlad.

Mae adran 35 o'r Ddeddf yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau mynediad a pherchenogion a meddianwyr tir o ran y dull mynediad i dir y mae hawl mynediad i'r cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo ("tir mynediad").

Mae adran 36(3) o'r Ddeddf yn darparu y caiff yr awdurdod mynediad, os yw perchennog neu feddiannydd yn methu cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad mewn cytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf, roi i'r person y mae wedi ymrwymo i'r cytundeb gydag ef hysbysiad yn dweud wrtho am gyflawni gwaith i wneud iawn am dorri'r cyfyngiad.

Mae adran 37 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdod mynediad i gyflawni gwaith i ddarparu dull mynediad i dir mynediad os yw'r awdurdod wedi'i fodloni nad yw'n gallu dod i gytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf ar delerau rhesymol. Cyn cyflawni'r gwaith hwnnw, rhaid i'r awdurdod mynediad, o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, hysbysu pob perchennog a phob meddiannydd fod yr awdurdod yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad.

Mae adran 38(1) o'r Ddeddf yn rhoi i'r perchennog a'r meddiannydd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 36(3) neu 37(1) ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer camau cyntaf apêl o'r fath.

Mae rheoliad 3 yn galluogi ymdrin â chamau cyntaf apêl drwy ddulliau electronig.

Mae rheoliad 4 yn nodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio wrth ddwyn apêl o dan adran 38(1), ac yn pennu cyfnod o amser yn gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl o'i fewn.

Mae rheoliadau 5 i 16 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169) - 


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] 2000 p.7.back

[3] O.S. 2002/1794 (Cy.169), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/142 (Cy.14) ac O.S. 2005/1154 (Cy.71).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091123 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 13 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051270w.html