BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1309 (Cy.91)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
10 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
20 Mai 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru yn unig a deuant i rym ar 20 Mai 2006.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2.
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 94/54", mewnosoder ar y diwedd y geiriau "and Commission Directive 2004/77/EC[5]".
4.
Yn rheoliad 23(2A) (bwyd nad yw wedi ei ragbecynnu a bwyd tebyg, a chynhyrchion cyffaith ffansi) mewnosoder ar y diwedd yr ymadrodd "or regulation 34C".
5.
Yn rheoliad 26 (pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy), ym mharagraffau (1)(a)(ii) a (3A) yn lle'r geiriau "regulations 33 and 34" rhodder y geiriau "regulations 33, 34 and 34C".
6.
Yn rheoliad 27(1) (bwydydd penodol a werthir mewn sefydliadau arlwyo), yn lle'r geiriau "regulations 32, 33, 34 and 34B" rhodder y geiriau "regulations 32, 33, 34, 34B and 34C".
7.
Ar ôl rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig) mewnosoder y rheoliad canlynol -
"
Confectionery and drinks containing glycyrrhizinic acid or its ammonium salt
34C.
- (1) This regulation applies to any confectionery or drink which contains glycyrrhizinic acid or its ammonium salt as a result of the addition of that acid or salt as such or of the liquorice plant Glycyrrhiza glabra, and references in this regulation to "relevant concentration" are to the concentration of that acid or salt in the food -
(a) manufactured as ready for consumption or,
(b) if it is not so manufactured, as reconstituted according to its manufacturer's instructions.
(2) In the case of -
(a) any confectionery which contains a relevant concentration of at least 100mg/kg but less than 4 g/kg,
(b) any drink which contains more than 1.2 per cent by volume of alcohol and a relevant concentration of at least 10 mg/l but less than 300 mg/l, and
(c) any drink which does not contain more than 1.2 per cent by volume of alcohol and which contains a relevant concentration of at least 10 mg/l but less than 50 mg/l,
that food shall be marked or labelled with the indication "contains liquorice", unless the term "liquorice" appears in the list of ingredients or in the name of the food.
(3) In the case of -
(a) any confectionery which contains a relevant concentration of at least 4g/kg,
(b) any drink which contains more than 1.2 per cent by volume of alcohol and a relevant concentration of at least 300 mg/l, and
(c) any drink which does not contain more than 1.2 per cent by volume of alcohol and which contains a relevant concentration of at least 50 mg/l,
that food shall be marked or labelled with the indication "contains liquorice - people suffering from hypertension should avoid excessive consumption".
(4) The indications required by paragraphs (2) and (3) of this regulation shall appear immediately after the list of ingredients or, in the absence of such a list, near the name of the food.".
8.
Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol -
"
(13) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a), it shall be a defence to prove that -
(a) the food concerned was marked or labelled before 20 May 2006; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendment made by regulation 7 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) Regulations 2005 had not been in operation when the food was sold.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae Rheoliadau 1996 yn rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/77/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/54/EC o ran labelu bwydydd penodol sy'n cynnwys asid glysirhisinig a'i halwyn amoniwm (OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.76).
2.
Mae asid glysirhisinig yn digwydd yn naturiol yn y planhigyn perwraidd, a gweithgynhyrchir ei halwyn amoniwm o echdynion dyfrllyd y planhigyn hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyffaith a diodydd sy'n cynnwys lefelau penodol o'r asid neu'r halwyn hwnnw gael eu labelu â'r dangosiad "contains liquorice" a bod rhybudd yn cael ei ychwanegu mewn rhai achosion (rheoliad 7). Ceir esemptiadau rhag y gofynion labelu hyn yn achos bwyd nad yw wedi'i ragbecynnu, bwyd sydd wedi'i ragbecynnu i'w werthu'n uniongyrchol, cynhyrchion cyffaith ffansi, pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy (rheoliadau 4 i 6). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 8) ac yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 94/54" (rheoliad 3).
3.
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/120/EC wedi'u trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
O.S. 1996/1499; O.S. 1998/1398, 1999/747, 1483, 2000/2254, 2004/1396 , 249 a 3022 yw'r offerynnau diwygio perthnasol o ran Cymru.back
[5]
OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.76.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091124 5
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
17 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051309w.html