BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 Rhif 1313 (Cy.95)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051313w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1313 (Cy.95)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 10 Mai 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli

RHAN 2

ASIANTAETH FABWYSIADU  -  TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU
3. Sefydlu panel mabwysiadu
4. Deiliadaeth swydd aelodau'r panel mabwysiadu
5. Cyfarfodydd panel mabwysiadu
6. Talu ffioedd  -  cadeirydd neu berson annibynnol ar banel mabwysiadu awdurdod lleol
7. Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer gwaith mabwysiadu
8. Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth i'r panel mabwysiadu
9. Gofyniad i benodi cynghorydd meddygol
10. Sefydlu paneli mabwysiadu newydd ar 30 Rhagfyr 2005

RHAN 3

DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN
11. Cymhwyso rheoliadau 11 i 20
12. Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn
13. Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer y plentyn a chanfod ei ddymuniadau a'i deimladau
14. Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau
15. Gofyniad i gael gwybodaeth am y plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd)
16. Gofyniad i gael gwybodaeth am deulu'r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)
17. Gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu
18. Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran plentyn a atgyfeirir gan yr asiantaeth fabwysiadu
19. Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
20. Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS

RHAN 4

DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD
21. Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth
22. Gofyniad i ystyried cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn
23. Gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu
24. Gofyniad i hysbysu
25. Gofyniad i ddarparu paratoad ar gyfer mabwysiadu
26. Gweithdrefnau o ran gwneud asesiad
27. Swyddogaeth y panel mabwysiadu
28. Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
29. Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y panel adolygu annibynnol
30. Adolygiadau a therfynu cymeradwyaeth
31. Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83 yn dilyn cymeradwyaeth o ddarpar fabwysiadydd

RHAN 5

DYLETSWYDDAU'R ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN LLEOLIAD ARFAETHEDIG PLENTYN GYDA DARPAR FABWYSIADWYR
32. Y lleoliad arfaethedig
33. Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran lleoliad arfaethedig
34. Penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig
35. Swyddogaeth yr asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83

RHAN 6

LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU
36. Gofynion a osodir ar yr asiantaeth fabwysiadu cyn y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd
37. Adolygiadau
38. Swyddogion adolygu annibynnol
39. Tynnu cydsyniad yn ôl

RHAN 7

COFNODION
40. Storio cofnodion achos
41. Cadw cofnodion achos
42. Cyfrinachedd cofnodion achos
43. Mynediad at gofnodion achos a datgelu gwybodaeth
44. Trosglwyddo cofnodion achos
45. Cymhwyso rheoliadau 41 i 43

RHAN 8

AMRYWIOL
46. Addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu
47. Cyswllt
48. Dirymu

YR ATODLENNI

  Atodlen 1  - 
 Rhan 1  -  Gwybodaeth am y plentyn
 Rhan 2  -  Materion i'w cynnwys yn adroddiad ar iechyd y plentyn
 Rhan 3  -  Gwybodaeth am deulu'r plentyn ac eraill
 Rhan 4  -  Manylion ynghylch gwarcheidwad
 Rhan 5  -  Manylion ynghylch iechyd rhieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn

  Atodlen 2  -  Gwybodaeth a Dogfennau i'w darparu i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS

  Atodlen 3  - 
 Rhan 1  -  Tramgwyddau a bennir at ddibenion rheoliad 23(3)
 Rhan 2  -  Tramgwyddau statudol a ddiddymwyd

  Atodlen 4  - 
 Rhan 1  -  Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd
 Rhan 2  -  Gwybodaeth am iechyd y darpar fabwysiadydd

  Atodlen 5  -  Gwybodaeth am y plentyn i'w rhoi i ddarpar fabwysiadydd

  Atodlen 6  -  Cynllun lleoliad

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 26(1) i (2B), 59(4)(a) a (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[
1] ac adrannau 9(1)(a), 11(1)(b), 27(3), , 45(1) a (2), 53, 54 a 140(7) ac (8) a 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 



RHAN 2

ASIANTAETH FABWYSIADU  -  TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Sefydlu panel mabwysiadu
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu o leiaf un panel, a elwir y panel mabwysiadu, yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi person i gadeirio'r panel, sef person na fu'n aelod etholedig, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr neu'n gyflogai o'r asiantaeth o fewn y 12 mis diwethaf, sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio'r panel mabwysiadu.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid bod dim mwy na deg aelod i'r panel mabwysiadu, gan gynnwys y person a benodwyd o dan baragraff (2), a rhaid iddo gynnwys  - 

    (4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi dau o aelodau'r panel mabwysiadu y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd").

    (5) Caniateir sefydlu'r panel mabwysiadu ar y cyd gan unrhyw ddau awdurdod lleol ond dim mwy na thri awdurdod lleol ("panel mabwysiadu ar y cyd") ac os sefydlir panel mabwysiadu ar y cyd - 

    (6) Rhaid peidio â phenodi person yn berson annibynnol ar banel mabwysiadu os yw'r person hwnnw - 

    (7) At ddibenion paragraff (6)(d) mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A  - 

Deiliadaeth swydd aelodau'r panel mabwysiadu
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau y rheoliad hwn a rheoliad 10, rhaid i aelod o'r panel mabwysiadu beidio â dal swydd am gyfnod hirach na 5 mlynedd, ac ni chaiff ddal swydd ar banel mabwysiadu yr un asiantaeth fabwysiadu am fwy na dau gyfnod yn olynol heb gael bwlch yn y cyfamser am gyfnod o dair blynedd o leiaf.

    (2) Rhaid i'r aelod sy'n gynghorydd meddygol y panel mabwysiadu ddal swydd ond cyhyd â'r cyfnod y'i penodwyd o dan reoliad 9.

    (3) Caiff aelod o'r panel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth fabwysiadu.

    (4) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn bod unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu yn anaddas neu'n analluog i barhau yn y swydd, gellir terfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

    (5) Rhaid i derfyniad penodiad aelod o banel mabwysiadu ar y cyd o dan baragraff (4) gael cytundeb yr holl awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel.

Cyfarfodydd panel mabwysiadu
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chynhelir unrhyw fusnes gan y panel mabwysiadu onid yw o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

    (2) Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, ni chynhelir unrhyw fusnes ganddo onid yw o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un gweithiwr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

    (3) Rhaid i'r panel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion.

Talu ffioedd  -  cadeirydd neu berson annibynnol ar banel mabwysiadu awdurdod lleol
    
6. Caiff awdurdod lleol dalu i berson a benodwyd yn gadeirydd ei banel mabwysiadu neu ei banel mabwysiadu ar y cyd neu i unrhyw berson annibynnol ar y panel, unrhyw ffi a benderfynir gan yr awdurdod lleol hwnnw, sef ffi sydd yn swm rhesymol.

Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer gwaith mabwysiadu
    
7. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â'r panel mabwysiadu ac, i'r graddau a bennir yn rheoliad 9(2), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gweithdrefnol sy'n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau'r asiantaeth a'r panel o ran mabwysiadu, a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.

Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth i'r panel mabwysiadu
    
8. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu yn achos panel mabwysiadu ar y cyd rhaid i'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel drwy gytundeb benodi uwch aelod o staff o un o'r awdurdau lleol hynny, (i'w alw'n "cynghorydd yr asiantaeth") gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y mae'r asiantaeth yn ystyried eu bod yn briodol  - 

Gofyniad i benodi cynghorydd meddygol
    
9.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.

    (2) Rhaid ymgynghori â chynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu o ran trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sydd yn ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Sefydlu paneli mabwysiadu newydd ar 30 Rhagfyr 2005
    
10.  - (1) Bydd holl aelodau panel mabwysiadu a sefydlwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel yr "hen banel mabwysiadu") yn peidio â dal swydd ar y dyddiad hwnnw.

    (2) Gydag effaith o 30 Rhagfyr 2005 ymlaen, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu panel mabwysiadu newydd yn unol â rheoliadau 3 a 4.

    (3) Pan fydd aelod o hen banel mabwysiadu yn peidio â dal swydd o dan baragraff (1) a ph'un a estynwyd cyfnod swydd yr aelod hwnnw gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 5A(1A) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[
8] neu mewn unrhyw achos arall, caniateir penodi'r aelod hwnnw yn aelod o banel mabwysiadu newydd o'r un asiantaeth fabwysiadu ac eithrio na chaiff cyfnod ei swydd ar y panel mabwysiadu newydd fod yn hirach na'r hyn a ganiateir gan reoliad 4 gan gyfrif y cyfnod y mae eisoes wedi gwasanaethu fel aelod o'r hen banel mabwysiadu.



RHAN 3

DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Cymhwysiad rheoliadau 11 i 20
     11. Mae rheoliadau 11 i 20 yn gymwys pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn.

Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn
    
12.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

    (2) Os yw'r plentyn - 

rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer y plentyn a chanfod ei ddymuniadau a'i deimladau.
    
13.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn - 

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau.
    
14.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol  - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.

    (3) Os yw paragraff (2) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r asiantaeth - 

Gofyniad i gael gwybodaeth am y plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd)
     15.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am y plentyn a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

oni chafodd yr asiantaeth gyngor gan y cynghorydd meddygol nad oes angen yr archwiliad a'r adroddiad hwnnw.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud trefniadau  - 

    (4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys os yw'r plentyn yn deall digon i wneud penderfyniad seiliedig ar wybodaeth ac yn gwrthod cael archwiliadau neu brofion eraill.

Gofyniad i gael gwybodaeth am deulu'r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)
    
16.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am deulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 3 a 4 o Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am iechyd pob un o rieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 1.

Gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu
    
17.  - (1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried yn ngoleuni'r holl wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 12 i 16 mai mabwysiadu yw'r dewis gorau er mwyn sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, rhaid i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys  - 

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.

    (3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran plentyn a atgyfeirir gan yr asiantaeth fabwysiadu
    
18.  - (1) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos pob plentyn a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

    (2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4), (5) a (6) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) a  - 

    (3) Pan fo'r panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo ystyried a chaiff ar yr un pryd roi cyngor i'r asiantaeth ynghylch  - 

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
    
19.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

    (2) Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

    (3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i - 

    (4) Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod - 

    (5) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn  - 

Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS
    
20.  - (1) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) ac, yn ôl y digwydd, yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi un o'i swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru[10] neu, pan fydd y plentyn yn arferol yn preswylio yn Lloegr, ofyn i CAFCASS benodi un o'i swyddogion er mwyn iddo gymeradwyo'r cydsyniad i'r lleoli neu i'r mabwysiadu ac, wrth ofyn, anfon hefyd yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu o ran y plentyn gadw'r canlynol yn y cofnod achos a gynhelir yn unol â rheoliad 12  - 



RHAN 4

DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth
     21. Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth  - 

Gofyniad i ystyried cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn
    
22.  - (1) Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu, yn dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21, yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth ddarpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnod achos o ran y darpar fabwysiadydd hwnnw ac ystyried addasrwydd y person hwnnw i fabwysiadu plentyn.

    (2) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yn ysgrifenedig y mae'r asiantaeth yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol.

    (3) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys o ran cwpl, ystyrir yr asesiad o'u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn ar y cyd a bydd yr asiantaeth yn dechrau cofnod achos unigol.

Gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu
    
23.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y canlynol  - 

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio ag ystyried person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd  - 

    (3) Ym mharagraff (2) ystyr "tramgwydd penodedig" yw  - 

ac mae i'r ymadrodd "tramgwydd yn erbyn plentyn" yr ystyr a roddir i "offence against a child" yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[14] ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn groes i adran 9 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (gweithgaredd rhywiol â phlentyn) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed a'r plentyn yn 13 oed neu drosodd adeg cyflawni'r tramgwydd.

    (4) Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu ystyried bod person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd  - 

er bod y tramgwyddau statudol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 wedi'u diddymu.

Gofyniad i hysbysu
     24. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol nad yw'r person yn addas, neu yn ôl y digwydd, nad yw'r person bellach yn addas, i fabwysiadu plentyn yn rhinwedd rheoliad 23(2) i (4).

Gofyniad i ddarparu paratoad ar gyfer mabwysiadu
    
25.  - (1) Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth wneud trefniadau i'r darpar fabwysiadydd gael y paratoad hwnnw ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn briodol.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni bod y gofynion a nodir yn y paragraff hwnnw wedi cael eu cyflawni o ran y darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu arall.

    (3) Pan na fydd y darpar fabwysiadydd yn barod i ymgymryd â'r paratoad ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn briodol yn ei achos ef, caniateir i'r asiantaeth wrthod mynd ymlaen â chais y darpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd.

    (4) Ym mharagraff (1) mae "paratoad ar gyfer mabwysiadu" yn cynnwys darparu gwybodaeth i ddarpar fabwysiadydd ynghylch  - 

Gweithdrefnau o ran gwneud asesiad
    
26.  - (1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu, wedi iddo ddilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 23 a 25, o'r farn y gallai'r darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi gynnal asesiad yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y manylion hynny am y darpar fabwysiadydd y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 4.

    (3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael  - 

    (4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys - 

    (5) Mewn achos adran 83 rhaid i'r adroddiad gynnwys  - 

    (6) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yr atgyfeirir ei gais at y panel mabwysiadu ac ar yr un pryd yr anfonir copi at y darpar fabwysiadydd o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (4), a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w anfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

    (7) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6) (neu'n gynharach os ceir unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon  - 

at y panel mabwysiadu.

    (8) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ei gwneud yn ofynnol ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu
    
27.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos y darpar fabwysiadydd a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

    (2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, o ran y panel mabwysiadu - 

    (3) Pan fydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff ystyried ac ar yr un pryd caiff gynghori'r asiantaeth am y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw a'u nodweddion (iechyd a chymdeithasol).

    (4) Cyn gwneud unrhyw argymhelliad, rhaid i'r panel mabwysiadu wahodd y darpar fabwysiadwyr i ddod i gyfarfod a gynhelir gan y panel.

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
    
28.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

    (2) Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

    (3) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad.

    (4) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi - 

    (5) O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os na fydd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud unrhyw sylwadau neu wedi gwneud cais i banel adolygu annibynnol, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu fynd rhagddi i wneud ei phenderfyniad a rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

    (6) O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os bydd yr asiantaeth fabwysiadu wedi cael sylwadau pellach oddi wrth y darpar fabwysiadydd, caiff atgyfeirio'r achos ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol yn ôl at eu panel mabwysiadu ar gyfer ystyriaeth bellach.

    (7) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried unrhyw achos a atgyfeirir ato o dan baragraff (6) a gwneud argymhelliad o'r newydd i'r asiantaeth fabwysiadu o ran a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

    (8) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benderfynu'r achos ond os atgyfeiriwyd yr achos at y panel mabwysiadu o dan baragraff (6) neu os yw'r darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i'r panel adolygu annibynnol am adolygiad o'r dyfarniad o gymhwyster rhaid iddo benderfynu ond dim ond ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel mabwysiadu a wnaed o dan baragraff (7) a rheoliad 27 neu, yn ôl y digwydd, gan y panel adolygu annibynnol.

    (9) Cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud ei phenderfyniad o dan baragraff (8), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad gan ddatgan ei rhesymau dros y penderfyniad hwnnw os yw o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ac o argymhelliad y panel mabwysiadu o dan baragraff (7), os yw hwn yn wahanol i benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu.

Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y panel adolygu annibynnol
    
29.  - (1) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad oddi wrth y panel adolygu annibynnol bod darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad o'r dyfarniad cymwys, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn yr hysbysiad hwnnw, anfon at y panel adolygu annibynnol yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)[15].

    (2) Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraff (1)  - 

Adolygiadau a therfynu cymeradwyaeth
     30.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu adolygu cymeradwyaeth pob darpar fabwysiadydd yn unol â'r rheoliad hwn, oni bai - 

    (2) Rhaid i adolygiad ddigwydd pryd bynnag y bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ond fel arall ddim mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyaeth ac yna ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na dwy flynedd.

    (3) Wrth ymgymryd ag adolygiad o'r fath rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

    (4) Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried - 

    (5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

    (6) Ar ddiwedd yr adolygiad, os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw'r darpar fabwysiadydd bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi baratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo gynnwys  - 

    (7) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd fod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) i gael ei atyfeirio at y panel mabwysiadu a rhoi copi i'r darpar fabwysiadydd o'r adroddiad hwnnw, a gwahodd sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

    (8) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (neu'n gynharach os daw unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd i law cyn i'r 10 niwrnod gwaith ddod i ben) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon copi o'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), ynghyd â sylwadau'r darpar fabwysiadydd a'r adroddiad a gafodd ei baratoi ar gyfer y panel o dan reoliad 26(4).

    (9) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

    (10) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried yr adroddiad ac unrhyw wybodaeth arall a roddwyd iddo gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan y rheoliad hwn a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.

    (11) Mae rheoliad 28 yn gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth fabwysiadu ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn fel y mae'n gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83 yn dilyn cymeradwyo darpar fabwysiadydd
    
31. Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu mewn achos adran 83 i gymeradwyo darpar fabwysiadydd fel person addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth anfon at y Cynulliad Cenedlaethol  - 



RHAN 5

DYLETSWYDDAU'R ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN LLEOLIAD ARFAETHEDIG PLENTYN GYDA DARPAR FABWYSIADYDD

Y lleoliad arfaethedig
    
32.  - (1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel "y lleoliad arfaethedig") rhaid i'r asiantaeth  - 

    (2) Os dilynwyd y gweithdrefnau a nodir ym mharagraff (1) ac os yw'r darpar fabwysiadydd wedi cadarnhau i'r asiantaeth yn ysgrifenedig ei fod yn barod i gytuno ar y lleoliad arfaethedig, rhaid i'r asiantaeth mewn achosion o'r fath ac os yw'n ystyried ei bod yn briodol i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn a dweud wrth y plentyn am y darpar fabwysiadwyr, eu hamgylchiadau teuluol ac awyrgylch eu cartrefi a chanfod barn y plentyn am y lleoliad arfaethedig, y trefniadau cyswllt ac unrhyw gyfyngiad ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd.

    (3) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd rhagddo, rhaid i'r asiantaeth - 

    (4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd bod y lleoliad arfaethedig i'w atyfeirio at y panel mabwysiadu ac anfon at y darpar fabwysiadydd gopi o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (3) a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

    (5) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4) (neu'n gynharach os ceir sylwadau cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon  - 

at y panel mabwysiadu.

    (6) Ni chaiff yr asiantaeth fabwysiadu ond atgyfeirio at y panel mabwysiadu ei chynnig i leoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol yn unig os ymgynghorwyd ag unrhyw asiantaeth fabwysiadu arall sydd wedi gwneud penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu, neu os yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ynghylch y lleoliad arfaethedig.

    (7) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cynnig lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnodion achos mewn unrhyw achos os nad yw eisoes wedi dechrau cofnodion o'r fath a rhoi yn y cofnod priodol unrhyw wybodaeth, adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a atgyfeiriwyd ati gan asiantaeth fabwysiadu arall ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall sydd i'w hanfon at y panel mabwysiadu yn rhinwedd y rheoliad hwn ynglyn â hwy.

    (8) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall o ran y lleoliad arfaethedig, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran lleoliad arfaethedig
    
33.  - (1) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried y lleoliad arfaethedig a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw.

    (2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4) a (5) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) ac  - 

    (3) Rhaid i'r panel mabwysiadu hefyd ystyried a chaiff, os yw'r panel yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw, ystyried rhoi cyngor ar yr un pryd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch  - 

    (4) Caiff y panel mabwysiadu wneud yr argymhelliad ym mharagraff (1) ond ddim ond  - 

ac yn y naill achos a'r llall bod yr argymhelliad i'w wneud yn yr un cyfarfod o'r panel y cafodd argymhelliad ei wneud bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn neu fod yr asiantaeth fabwysiadu, neu asiantaeth fabwysiadu arall, wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 28 fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

Penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig
    
34.  - (1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud y canlynol  - 

wrth benderfynu a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol.

    (2) Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

    (3) Cyn gynted â phosibl ar ôl iddi benderfynu rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghylch y lleoliad arfaethedig, trefniadau cyswllt a chyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson.

    (4) Cyn gynted â phosibl ar ôl iddi benderfynu, rhaid i'r asiantaeth hysbysu yn ysgrifenedig  - 

o'i phenderfyniad.

    (5) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd rhagddo, rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.

Swyddogaeth yr asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83
    
35.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn achos adran 83 os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael gwybodaeth gan yr awdurdod tramor perthnasol ynghylch plentyn sydd i'w fabwysiadu gan ddarpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn.

    (2) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu - 



RHAN 6

LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU

Gofynion a osodir ar yr asiantaeth fabwysiadu cyn y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd
    
36.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu  - 

    (2) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, o leiaf 7 niwrnod cyn lleoli'r plentyn gyda'r darpar fabwysiadydd, roi cynllun lleoli i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r plentyn sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6 ("y cynllun lleoliad").

    (3) Os yw paragraff (1) yn gymwys ac mae'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r darpar fabwysiadydd y cynllun lleoliad ynglyn â'r plentyn o fewn 7 niwrnod ar ôl iddo benderfynu lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

    (4) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn iddo leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd - 

    (5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y cynllun lleoliad.

    (6) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y darpar fabwysiadydd, drefnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw gwnsela'r darpar fabwysiadydd ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn am y lleoliad arfaethedig.

    (7) Os bydd y darpar fabwysiadydd, ar ôl dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6), yn cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn dymuno mynd rhagddo â'r lleoliad, ac os awdurdodir yr asiantaeth fabwysiadu i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os yw'r plentyn yn iau na chwe wythnos oed, caiff yr asiantaeth fabwysiadu leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

    (8) Os yw'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y lleolir y plentyn yno gan yr asiantaeth ar gyfer ei fabwysiadu.

Adolygiadau
    
37.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir asiantaeth fabwysiadu i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu ond na leolwyd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu.

    (3) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn  - 

nes lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

    (4) Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn  - 

oni chaiff y plentyn ei ddychwelyd i'r asiantaeth gan y darpar fabwysiadydd neu oni wneir gorchymyn mabwysiadu.

    (5) Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

    (6) Wrth wneud adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ymweld â'r plentyn ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ganfod barn  - 

o ran pob un o'r materion a nodir ym mharagraff (7)(a) i (dd).

    (7) Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried - 

    (8) Os yw'r plentyn yn destun gorchymyn lleoliad ond na chafodd ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ar adeg yr adolygiad chwe mis cyntaf, rhaid i'r awdurdod yn yr adolygiad hwnnw - 

    (9) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu  - 

    (10) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, hysbysu - 

o ganlyniad yr adolygiad ac o unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddi o ganlyniad i'r adolygiad.

    (11) Os dychwelir y plentyn i'r asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth gynnal adolygiad o achos y plentyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 28 niwrnod ar ôl y dyddiad y dychwelir y plentyn i'r asiantaeth.

Swyddogion adolygu annibynnol
    
38.  - (1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n awdurdod lleol neu'n gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n gorff gwirfoddol sydd yn darparu llety i blentyn, benodi person ("y swyddog adolygu annibynnol") o ran achos pob plentyn a awdurdodwyd i'w leoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth i gyflawni'r swyddogaethau a grybwyllir yn adran 26(2A) o Ddeddf 1989.

    (2) Rhaid bod gan y swyddog adolygu annibynnol brofiad arwyddocaol mewn gwaith cymdeithasol a'i fod yn dal Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Gyngor Gofal Cymru.

    (3) Os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn gyflogai i'r asiantaeth fabwysiadu rhaid sicrhau nad yw swydd y swyddog adolygu annibynnol yn yr asiantaeth honno o dan reolaeth uniongyrchol  - 

    (4) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag adolygiad achos y plentyn.

    (5) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gymryd camau i sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â rheoliad 37 ac yn benodol sicrhau - 

    (6) Os bydd y plentyn yr adolygir ei achos yn dymuno dwyn camau cyfreithiol o dan y Ddeddf ar ei ran ei hun, er enghraifft, gwneud cais i'r llys i ddirymu gorchymyn lleoliad, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw - 

    (7) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o - 

Tynnu cydsyniad yn ôl
    
39.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan dynnir cydsyniad yn ôl o dan adran 19, neu adran 19 a 20 o'r Ddeddf o ran plentyn yn unol ag adran 52(8) o'r Ddeddf.

    (2) Os yw paragraff (1) yn gymwys ac os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, pan dderbynnir y ffurflen neu'r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 52(8) o'r Ddeddf rhaid i'r awdurdod ar unwaith adolygu ei benderfyniad i leoli'r plentyn i'w fabwysiadu ac os bydd yr awdurdod, yn unol ag adran 22(1) neu (2) o'r Ddeddf yn penderfynu gwneud cais am orchymyn lleoliad o ran y plentyn, rhaid iddo ar unwaith hysbysu  - 

    (3) Os bydd paragraff (1) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, rhaid i'r asiantaeth ar unwaith ystyried a yw'n briodol i hysbysu'r awdurdod lleol y mae'r plentyn yn byw yn ei ardal.



RHAN 7

COFNODION

Storio cofnodion achos
    
40. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y cofnodion achos a drefnwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 o ran plentyn neu ddarpar fabwysiadydd a bod cynnwys y cofnodion achos hynny bob amser yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel ac yn benodol bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i rwystro'r cofnodion achos rhag cael eu lladrata, rhag datgelu nas awdurdodwyd, rhag colled neu ddistryw neu niwed iddynt neu i'w cynnwys.

Cadw cofnodion achos
    
41. Pan wneir gorchymyn mabwysiadu ynglyn â phlentyn rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw'r holl gofnodion achos a luniwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 am 100 mlynedd o leiaf. Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r asiantaeth gadw'r cofnodion achos am y cyfnod hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn briodol.

Cyfrinachedd cofnodion achos
    
42. Yn ddarostyngedig i reoliad 43, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drin unrhyw wybodaeth a geir, neu adroddiadau neu argymhellion neu benderfyniadau a wneir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol.

Mynediad at gofnodion achos a datgelu gwybodaeth
    
43.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw at ei chofnodion achos a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, y gallai fod ei hangen  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, fel y gwêl yn dda at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.

    (3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw fynediad a ddarperir neu ddatgeliad a roir yn rhinwedd y rheoliad hwn.

Trosglwyddo cofnodion achos
    
44.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr asiantaeth fabwysiadu drosglwyddo copi o gofnod achos (neu ran ohono) i asiantaeth fabwysiadu arall pan fydd o'r farn fod hyn er lles plentyn neu ddarpar fabwysiadydd y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef, a rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw drosglwyddiad o'r fath.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bod yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig drosglwyddo ar unwaith naill ai ei chofnodion achos i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl cael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath neu drosglwyddo ei chofnodion achos  - 

    (3) Os yw cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn bwriadu peidio â darparu ar gyfer mabwysiadu plant ond ei bod wedi'i chofrestru i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu caiff gadw ei holl gofnodion achos ar ôl cael yn gyntaf gymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ar gyfer eu cadw.

    (4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion achos iddi yn rhinwedd paragraff (2)(a) neu (b) hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r cyfryw drosglwyddiad.

Cymhwyso rheoliadau 41 i 43
    
45. Nid yw rheoliadau 41 i 43 yn gymwys i gofnodion achos sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau a wneir o dan adrannau 56 i 68 o'r Ddeddf.



RHAN 8

AMRYWIOL

Addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu
    
46.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys  - 

    (2) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir cymdeithas fabwysiadu gofrestredig i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan gymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn llai na 6 wythnos oed.

    (4) Pan fydd paragraff (3) yn gymwys  - 

Cyswllt
    
47.  - (1) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu o dan adran 27(2) o'r Ddeddf i wrthod caniatáu'r cyswllt a fyddai fel arall yn ofynnol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth, cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

    (2) Gellir peidio â dilyn telerau gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf drwy gytundeb rhwng yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw berson y mae'r gorchymyn yn darparu cyswllt iddo â'r plentyn yn yr amgylchiadau canlynol ac yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol  - 

    (3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn amrywio neu'n atal unrhyw drefniadau a wnaed (heblaw o dan orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf) er mwyn caniatáu cyswllt i unrhyw berson â'r plentyn, rhaid i'r asiantaeth hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

    (4) Mae'r personau canlynol yn rhai a bennir at ddibenion paragraffau (1) a (2)  - 

    (5) Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraffau 1, 2 a 3  - 

Dirymu
    
48. Drwy hyn dirymir Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001[16], Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003[17] a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003[18].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2005



ATODLEN 1


RHAN 1

Rheoliad 15(1)

GWYBODAETH AM Y PLENTYN

     1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

     2. Llun a disgrifiad corfforol.

     3. Cenedl[
20].

     4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

     5. Cred grefyddol, os oes un, (gan gynnwys manylion bedydd, gwasanaeth derbyn neu seremonïau cyfatebol).

     6. A yw'r plentyn yn derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989.

     7. Manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglŷn â'r plentyn o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

     8. A oes gan y plentyn unrhyw hawl i eiddo neu unrhyw fuddiant ynddynt neu unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu fel arall y gall eu cadw neu eu colli os mabwysiadir ef.

     9. Cronoleg o ofal y plentyn ers ei enedigaeth.

     10. Asesiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a'i ddatblygiad emosiynol a datblygiad ei ymddygiad.

     11. A oes gan y plentyn unrhyw anawsterau gyda gweithgareddau megis bwydo, ymolchi ac ymwisgo.

     12. Hanes addysgol y plentyn gan gynnwys - 

     13. Gwybodaeth am - 

     14. Y trefniadau ar hyn o bryd a'r math o gyswllt rhwng rhiant y plentyn neu ei warcheidwad neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant amdano ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad, ac unrhyw berthynas, cyfaill neu berson arall.

     15. Disgrifiad o ddiddordebau'r plentyn, ei hoff bethau a'i gas bethau.

     16. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.



RHAN 2

Rheoliad 15(2)

MATERION I'W CYNNWYS YN ADRODDIAD IECHYD Y PLENTYN

     1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.

     2. Adroddiad newyddenedigol ar y plentyn, gan gynnwys - 

     3. Hanes iechyd y plentyn yn llawn, gan gynnwys - 

     4. Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.



RHAN 3

Rheoliad 16(1)

GWYBODAETH AM DEULU'R PLENTYN AC ERAILL

Gwybodaeth am bob rhiant i'r plentyn (gan gynnwys y rhieni naturiol a mabwysiadol) gan gynnwys tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn
     1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

     2. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

     3. Cenedl[
21].

     4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

     5. Cred grefyddol, os oes un.

     6. Disgrifiad o'u personoliaeth a'u diddordebau.

Gwybodaeth am frodyr a chwiorydd y plentyn
     7. Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

     8. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

     9. Cenedl[22].

     10. Cyfeiriad, os yw'n briodol.

     11. Os unrhyw frawd neu chwaer o dan 18 oed - 

Gwybodaeth am berthnasau eraill y plentyn ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol
     12. Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

     13. Cenedl[23].

     14. Cyfeiriad, os yw'n briodol.

Hanes y teulu a pherthnasau
     15. A oedd mam a thad y plentyn yn briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn (neu a ydynt wedi priodi ar ôl hynny) ac os felly, dyddiad a man y briodas ac a yw'r rhieni wedi ysgaru neu wedi gwahanu.

     16. Os nad oedd rhieni'r plentyn yn briod a'i gilydd ar adeg geni'r plentyn, a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly sut y cafwyd ef.

     17. Os na wyddys pwy yw tad y plentyn na ble y mae, yr wybodaeth amdano sy'n hysbys a phwy a'i rhoes, a'r camau a gymrwyd i ddarganfod tadolaeth.

     18. Os bu rhieni'r plentyn yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad y briodas neu yn ôl y digwydd, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth sifil.

     19. I'r graddau y mae'n bosibl, coeden deulu a manylion teidiau a neiniau'r plentyn, ei fodrybedd a'i ewythredd a'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

     20. Os yw'n rhesymol ymarferol, cronoleg dau riant y plentyn ers eu genedigaeth.

     21. Sylwadau rhieni'r plentyn am eu profiadau hwy am y rhiant a gawsant yn eu plentyndod a sut y dylanwadodd hyn arnynt.

     22. Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol rhwng rhieni'r plentyn.

     23. Manylion am y teulu ehangach a'u rôl a'u pwysigrwydd  - 

Gwybodaeth arall am ddau riant y plentyn ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, y tad
     24. Gwybodaeth am eu cartref a'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi.

     25. Manylion hanes eu haddysg.

     26. Manylion hanes eu cyflogaeth.

     27. Gwybodaeth am gynneddf rianta mam a thad y plentyn, yn enwedig eu gallu a'u parodrwydd i rianta'r plentyn.

     28. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.



RHAN 4

Rheoliad 16(1)

MANYLION YNGHYLCH GWARCHEIDWAD

     1.

     2. Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol â'r plentyn.

     3. Crefydd.

     4. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.



RHAN 5

Rheoliad 16(2)

MANYLION YNGHYLCH IECHYD RHIENI A BRODYR A CHWIORYDD NATURIOL Y PLENTYN

     1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra'r ddau riant naturiol.

     2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â dau riant naturiol y plentyn, brodyr a chwiorydd y plentyn (os oes rhai) a'r plant arall (os oes rhai) gan bob rhiant gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.

     3. Hanes iechyd dau riant naturiol y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, anabledd, damwain neu dderbyn i ysbyty, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a gafwyd y mae'r asiantaeth o'r farn ei bod yn berthnasol.

     4. Crynodeb o hanes obstetrig y fam, gan gynnwys unrhyw broblemau yn y cyfnod cyn geni, esgor ac ar ôl geni, gyda chanlyniadau unrhyw brofion a wnaed yn ystod neu'n syth ar ôl beichiogrwydd.

     5. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.

     6. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.

     7. Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig a roddodd unrhyw wybodaeth sydd yn y Rhan hon ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.



ATODLEN 2
Rheoliad 20(1)


GWYBODAETH A DOGFENNAU I'W DARPARU I SWYDDOG ACHOSION TEULUOL AR GYFER CYMRU NEU SWYDDOG O CAFCASS


     1. Copi o dystysgrif geni'r plentyn.

     2. Enw a chyfeiriad rhiant neu warcheidwad y plentyn.

     3. Cronoleg o'r camau a'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr asiantaeth o ran y plentyn.

     4 . Cadarnhad gan yr asiantaeth ei bod wedi cwnsela, ac wedi esbonio i'r rhiant neu'r gwarcheidwad oblygiadau cyfreithiol y cydsyniad i leoli o dan adran 19 o'r Ddeddf a hefyd, yn ôl y digwydd, o ran gwneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, a'i bod wedi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r rhiant neu'r gwarcheidwad ynghylch y mater hwn ynghyd â chopi o'r wybodaeth a roddwyd i'r rhiant neu'r gwarcheidwad.

     5. Unrhyw wybodaeth am y rhiant neu'r gwarcheidwad neu wybodaeth arall y mae'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y gall y swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog CAFCASS fod angen ei gwybod.



ATODLEN 3
Rheoliad 23(3)(b)



RHAN 1

TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 23(3)(b)

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr
     1. Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003  - 

Tramgwyddau yn yr Alban
     2. Tramgwydd trais.

     3. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf y Weithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995[26] ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adran 5 o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (yr Alban) 1995 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed)[27], tramgwydd o anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

     4. Tramgwydd plagiwm (lladrata plentyn o dan oed blaenaeddfedrwydd).

     5. Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Sifil (yr Alban) 1982 (lluniau anweddus o blant)[28].

     6. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth)[29].

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon
     7. Tramgwydd trais.

     8. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968[30], ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885 (cyfathrach gnawdol anghyfreithlon â merch o dan 17 oed ac anwedduster garw rhwng gwrywod)[31], neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau Corfforol 1861 (sodomiaeth).

     9. Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (lluniau anweddus)[32].

     10. Tramgwydd o dan Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)[33].

     11. Tramgwydd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar lun anweddus o blant)[34].

     12. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).



RHAN 2

Rheoliad 23(4)

TRAMGWYDDAU STATUDOL A DDIDDYMWYD

     1.  - (1) Tramgwydd o dan unrhyw un o adrannau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 - 

    (2) Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

    (3) Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

    (4) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

     2. Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad  - 

     3. Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad.

     4. Nid yw paragraffau 1(c) a 3(d) a (dd) yn cynnwys tramgwyddau mewn achos os oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed pan gyflawnwyd y tramgwydd.



ATODLEN 4


RHAN 1

Rheoliad 26(2)

GWYBODAETH AM Y DARPAR FABWYSIADYDD

Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd
     1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2. Llun a disgrifiad corfforol.

     3. A yw domisil neu gartref arferol y darpar fabwysiadydd mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os yw cartref arferol y darpar fabwysiadydd yno, ers pa bryd.

     4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

     5. Cred grefyddol, os oes un.

     6. Y berthynas â'r plentyn (os oes un).

     7. Asesiad o bersonoliaeth a diddordebau'r darpar fabwysiadydd.

     8. Os yw'r darpar fabwysiadydd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac os yw'n gwneud y cais ar ei ben ei hun, asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd ar gyfer mabwysiadu a'r rhesymau dros hynny.

     9. Manylion o unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y bu'r darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.

     10. Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.

     11. Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd, os oes un.

     12. O ran y darpar fabwysiadydd  - 

     13. Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.

     14. Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, ei blant ac unrhyw frodyr a chwiorydd, gyda'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

     15. Cronoleg o'r darpar fabwysiadydd ers ei eni.

     16. Sylwadau darpar fabwysiadydd am ei brofiad am y rhianta a gafodd yn ei blentyndod a sut y dylanwadodd hyn arno.

     17. Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o'i allu yn y cyswllt hwnnw.

     18. Unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos sut y mae'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall sy'n byw ar ei aelwyd yn debygol o ymwneud â'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Y teulu ehangach
     19. Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd i'r darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd tebygol i'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth am gartref y darpar fabwysiadydd etc.
     20. Asesiad o gartref a chymdogaeth y darpar fabwysiadydd.

     21. Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant i'r darpar fabwysiadydd p'un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).

     22. Cymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau yr integreiddiodd y teulu, grwpiau o gymheiriaid, cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol y teulu.

Addysg a chyflogaeth
     23. Manylion hanes addysg a chyraeddiadau'r darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

     24. Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

     25. Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a'i farn am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.

Incwm
     26. Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth arall
     27. Gallu'r darpar fabwysiadydd  - 

     28. O ran y darpar fabwysiadydd  - 

     29. Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd a'r teulu ehangach o ran mabwysiadu.

     30. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.



RHAN 2

Rheoliad 26(3)(a)

GWYBODAETH AM IECHYD Y DARPAR FABWYSIADYDD

     1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.

     2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â'r rhieni, brodyr a chwiorydd (os oes rhai) a phlant (os oes rhai) y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.

     3. Anffrwythlondeb neu resymau dros beidio â chael plant (os yw'n gymwys).

     4. Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos y driniaeth a gafwyd.

     5. Hanes obstetrig (os yw'n gymwys).

     6. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.

     7. Archwiliad meddygol llawn.

     8. Manylion o unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a yw'r darpar fabwysiadydd yn ysmygu neu'n defnyddio cyffuriau sy'n creu caethiwed.

     9. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.

     10. Llofnod, enw, cyfeiriad, a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.



ATODLEN 5
Rheoliad 32(1)


GWYBODAETH AM Y PLENTYN I'W RHOI I DDARPAR FABWYSIADYDD


     1. Manylion am y plentyn.

     2. Llun a disgrifiad corfforol.

     3. Manylion am amgylchiadau teuluol y plentyn ac amgylchedd y cartref, gan gynnwys manylion am deulu'r plentyn (rhieni, brodyr a chwiorydd ac eraill sy'n arwyddocaol).

     4. Cronoleg o ofal y plentyn.

     5. Ymddygiad y plentyn, sut y mae'r plentyn yn rhyngweithio â phlant eraill ac yn dod ymlaen gydag oedolion.

     6. A yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac, os felly, y rheswm pam y mae'r plentyn i'w leoli ar gyfer mabwysiadu.

     7. Manylion hanes lleoli'r plentyn gan gynnwys y rhesymau pam os na lwyddodd unrhyw leoliad.

     8. Manylion cyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol.

     9. Manylion hanes addysgol y plentyn, a chrynodeb o gynnydd y plentyn hyd yn hyn ac os cafodd ei asesu neu os yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.

     10. Dymuniadau a theimladau'r plentyn hyd y gellir eu canfod mewn perthynas â mabwysiadu, a chyswllt â rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol.

     11. Dymuniadau a theimladau rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol o ran mabwysiadu a chyswllt.

     12. Sylwadau'r person y mae'r plentyn yn byw gydag ef ynghylch mabwysiadu.

     13. Asesiad o anghenion y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chynigion yr asiantaeth i ddiwallu'r anghenion hynny.

     14. Cynigion yr asiantaeth i ganiatáu cyswllt rhwng unrhyw berson â'r plentyn.

     15. Yr amserlen arfaethedig ar gyfer lleoli.

     16. Unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.



ATODLEN 6
Rheoliad 36(2)


CYNLLUN LLEOLIAD


     1. Statws y plentyn a ph'un a leolwyd ef o dan orchymyn lleoliad neu gyda chydsyniad ei rieni gwaed.

     2. Y trefniadau ar gyfer paratoi'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd ar gyfer y lleoliad.

     3. Y dyddiad y bwriedir lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

     4. Y trefniadau ar gyfer adolygu'r lleoliad.

     5. A fwriedir cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd ac os felly i ba raddau y bydd y cyfyngu.

     6. Y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a'r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw'n gymwys).

     7. Y trefniadau a wnaeth yr asiantaeth fabwysiadu er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson, ffurf y cyswllt a'r trefniadau ar gyfer cefnogi cyswllt ac enw a manylion cyswllt y person sy'n gyfrifol am hwyluso'r trefniadau cyswllt (os yw'n gymwys).

     8. Y dyddiad pan roddir llyfr stori bywyd a llythyr am fywyd yn nes ymlaen i'r darpar fabwysiadydd neu i'r plentyn.

     9. Manylion unrhyw drefniadau y mae angen eu gwneud.

     10. Manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadydd a chysylltiadau y tu allan i oriau.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) sy'n arfer eu swyddogaethau o ran mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Ddeddf").

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu y mae'n rhaid i asiantaethau eu sefydlu. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau ffurfio paneli mabwysiadu ac mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth o ran deiliadaeth swydd aelodau panel a gweithdrefnau panel mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau benodi cynghorydd mabwysiadu i'r panel mabwysiadu.

Mae Rhan 3 yn gymwys pan fydd asiantaeth yn ystyried mabwysiadu ar gyfer y plentyn. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth agor cofnod achos o ran y plentyn a rhoi yn y cofnod hwnnw unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan y rheoliadau am y plentyn ac am deulu'r plentyn. Mae rheoliadau 13 a 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth i'r plentyn a rhiant neu warcheidwad y plentyn. Mae rheoliad 14(2) a (3) yn ymdrin â sefyllfa tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Mae rheoliadau 15 a 16 yn gosod dyletswyddau ar asiantaeth i gael gwybodaeth am y plentyn, teulu'r plentyn ac eraill a bennir yn Atodlen 1. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig i'r panel mabwysiadu am y plentyn a theulu'r plentyn, i gynnwys dadansoddiad sy'n dangos pam mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r hoff ddewis o ran sefydlogrwydd. Mae rheoliad 18 yn darparu bod yn rhaid i'r panel mabwysiadu wneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu (rheoliad 19). Mae rheoliad 20 yn darparu y gall yr asiantaeth ofyn am swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru i gael ei benodi i dystio i gydsyniad ar gyfer lleoliad o dan adran 19 o'r Ddeddf ac, yn ôl y digwydd, i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf. Pennir yr wybodaeth sydd i'w darparu i'r swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru yn Atodlen 2.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu darpar fabwysiadwyr. Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer darpar fabwysiadydd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gyflawni gwiriadau heddlu ac mae'n darparu na chaiff asiantaeth ystyried person yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol os yw'r person neu unrhyw aelod o'i aelwyd 18 oed neu drosodd wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd benodedig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 23(3)) neu os cafodd rybudd yn ei chylch. Mae rheoliad 26 yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer gwneud asesiad o'r darpar fabwysiadydd. Nodir yr wybodaeth sydd i'w chael o ran darpar fabwysiadydd yn Atodlen 4. Rhaid paratoi adroddiad a rhaid cyflwyno'r papurau i'r panel mabwysiadu a fydd yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth p'un a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol. Rhaid i'r asiantaeth ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol (rheoliadau 27 a 28). Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth o ran dyletswyddau'r asiantaeth fabwysiadu o ran lleoli plentyn gyda darpar fabwysiadydd. Rhaid i'r asiantaeth roi i'r darpar fabwysiadydd adroddiad am y plentyn a rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol (rheoliad 32). Cyfeirir y papurau at y panel mabwysiadu a rhaid iddo ystyried y lleoliad arfaethedig a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a fyddai'r darpar fabwysiadydd penodol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn penodol hwnnw a rhaid i'r asiantaeth gymryd yr argymhelliad hwnnw i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad (rheoliadau 33 a 34).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth o ran lleoliadau ac adolygiadau. Mae rheoliad 36 yn darparu bod yn rhaid i'r asiantaeth roi cynllun lleoliad i'r darpar fabwysiadydd (a rhaid iddo ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6) a chyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer mabwysiadu rhaid anfon gwybodaeth benodol at y personau a bennir yn rheoliad 36(4) a threfnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw rhaid i'r asiantaeth gwnsela'r darpar fabwysiadydd a (phan fydd yn ymarferol) y plentyn (rheoliad 36(6)). Mae rheoliad 37 yn gosod dyletswydd ar yr asiantaeth i gyflawni adolygiadau ar achosion plant. Mae rheoliad 39 yn gosod dyletswydd ar asiantaeth i adolygu ei phenderfyniad ar unwaith ar leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu os bydd rhiant yn tynnu ei gydsyniad yn ôl o dan adran 19 neu adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth o ran cofnodion.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaethau amrywiol gan gynnwys addasiadau i ddarpariaethau yn y Ddeddf Plant yn achos plant yr awdurdodir asiantaethau mabwysiadu eu lleoli ar gyfer eu mabwysiadu ac o ran y camau sydd i'w cymryd pan fydd asiantaeth yn penderfynu gwrthod caniatáu cyswllt o dan adran 27(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaethau amrywiol.


Notes:

[1] 1989 p.41.back

[2] 2002 p.38.back

[3] Gweler adran 5 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back

[4] Gweler adran 11 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43.back

[5] 1971 p.80.back

[6] 2000 p.14.back

[7] 2004 p.31.back

[8] O.S.1983/1964. Mewnosodwyd rheoliad 5A(1A) gan Reoliadau Mabwysiadu (Asiantaethau) 2003 (O.S. 2003/3223).back

[9] Diwygiwyd adran 4 gan adran 111 o'r Ddeddf.back

[10] Gweler adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004 p.31.back

[11] 1997 p.50. Diwygiwyd adran 115 gan adran 328 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 19 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, adrannau 90, 103, 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 152 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni 21 a 22 iddi, adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, adran 135 o'r Ddeddf, adran 2 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 ac Atodlen 2 iddi ac adran 115 o Ddeddf Trwyddedu 2003.back

[12] 1979 p.2.back

[13] 1876 p.36.back

[14] 2000 p.43. Diwygiwyd Atodlen 4 i Ddeddf 2000 gan Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 c.42.back

[15] Rhagnodir gweithrediad a gweithdrefn y panel adolygu annibynnol mewn rheoliadau pellach a wneir o dan adran 9 o'r Ddeddf.back

[16] OS 2001/1272 (Cy.71)back

[17] OS 2003/1634 (Cy.176)back

[18] OS 2003/3223 (Cy.306)back

[19] 1998 p.38.back

[20] Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.back

[21] Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.back

[22] Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.back

[23] Gweler (1) uchod.back

[24] Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.back

[25] 2003 p.42.back

[26] 1995 p.46.back

[27] 1995 p.39.back

[28] 1982 p.45, mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 p.33.back

[29] 2000 p.44.back

[30] 1968 p.34 (G.I.)back

[31] 1985 p.69.back

[32] O.S. 1978/1047 (G.I.17).back

[33] O.S. 1980/704 (G.I.6).back

[34] O.S. 1988/1847 (G.I.17).back



English version



ISBN 0 11 091129 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 18 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051313w.html