BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1352 (Cy.100)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
17 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 167(1) a 167(5) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru a feddiennir o dan les hir[2].
Swm a chyfnod rhagnodedig
2.
- (1) £350 yw'r swm rhagnodedig at ddibenion is-adran 1(a) o adran 167 (methu â thalu swm bychan am gyfnod byr) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
(2) Tair blynedd yw'r cyfnod rhagnodedig at ddibenion is-adran (1)(b) o'r adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 167(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn atal landlord sydd o dan les hir ar annedd rhag arfer hawl ailfynediad neu fforffediad os bydd tenant yn methu â thalu swm wedi'i wneud o rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu (neu gyfuniad ohonynt) oni bai bod y swm sydd heb ei dalu yn fwy na'r swm rhagnodedig neu'n swm sydd wedi'i wneud o swm a fu'n daladwy am fwy na chyfnod rhagnodedig neu'n swm sy'n cynnwys swm o'r fath.
Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran anheddau yng Nghymru yn unig, yn rhagnodi'r swm o £350 a chyfnod o dair blynedd.
Notes:
[1]
2002 p.15. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 167(5) a'r diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 179(1).back
[2]
O ran "dwelling" a "long lease", gweler adran 167(5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091132 6
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051352w.html