BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 Rhif 1354 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051354w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1354 (Cy.102)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 17 Mai 2005 
  Yn dod i rym 31 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai[
2] yng Nghymru'n unig.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad o warchodaeth
     2. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth[3] bennu (Yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (5) o adran 164 (Yswiriant nad yw gydag yswirwyr y landlord) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002)  - 

Ffurf ar hysbysiad o warchodaeth
     3. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 3


FFURF AR HYSBYSIAD O WARCHODAETH


DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad o Warchodaeth

I:     

(rhowch enw a chyfeiriad y landlord gan gynnwys ei god post) 1

     1
Fi yw opensquare
Ni yw opensquare
(ticiwch y blwch priodol) tenant(iaid) y tŷ yn:     

(mewnosoder y cyfeiriad gan gynnwys y cod post)     

Mae'r tŷ wedi'i yswirio o dan bolisi yswiriant a ddyroddwyd gan: 2

(mewnosoder enw'r yswiriwr a'i swyddfa gofrestredig neu, os nad oes gan yr yswiriwr swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa) sy'n yswiriwr awdurdodedig o fewn ystyr adran 164 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.     

Rhif y polisi yw: 3

(mewnosoder y Rhif )     

Nodir y risgiau a warchodir gan y polisi yn y tudalennau sy'n atodedig i'r hysbysiad hwn (atoder copi o'r tudalennau perthnasol yn eich dogfennau yswiriant) (os na ellir copïo'r dogfennau yswiriant, atoder rhestr o'r risgiau a warchodir) 4

Swm y warchodaeth (y swm a gaiff ei yswirio) yw: 5
     £

(mewnosoder y swm) ac fe'i darperir am y cyfnod sy'n cychwyn ar:     
     / /

(mewnosoder y dyddiad y mae'r warchodaeth yn cychwyn -rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e.26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) a sy'n gorffen ar:     
     / /

(mewnosoder y dyddiad y mae'r warchodaeth yn dod i ben  -  rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e.26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005)     

Mae'r premiymau yn daladwy 6
yn flynyddol opensquare
yn fisol opensquare
fel arall opensquare
(ticiwch y blwch priodol)     

Swm y tâl ychwanegol o dan y polisi yw: 7
     opensquare
     £

(mewnosoder y swm) (TICIWCH Y BLWCH a chwblhewch os yw'r tâl ychwanegol yn daladwy)     

Mae'n daladwy pa bryd bynnag y bydd yr yswiriwr yn gwneud taliad o dan y polisi hwn (Os oes tâl ychwanegol yn daladwy bob tro y bydd yr yswiriwr yn bodloni cais o dan y polisi, TICIWCH Y BLWCH YMA) opensquare
Mae'n daladwy yn yr amgylchiadau a nodir yn y tudalen(nau) atodedig (Os dim ond mewn amgylchiadau penodol y mae tâl ychwanegol yn daladwy, TICIWCH Y BLWCH YMA a noder yr amgylchiadau ar y tudalen(nau) atodedig. Os yw symiau gwahanol yn daladwy mewn amgylchiadu gwahanol rhowch y manylion ar y tudalen(nau) atodedig.) opensquare
Ceir isod ddwy fersiwn o baragraff 8. TICIWCH Y BLWCH sy'n cyfateb i'r UNIG FERSIWN o'r paragraff hwn sy'n ofynnol o dan yr amgylchiadau 8
Mae'r polisi wedi'i adnewyddu a gwnaed hynny ddiwethaf ar: opensquare
     / /

(rhowch y dyddiad  -  rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005)     
     NEU
Nid yw'r polisi wedi'i adnewyddu a daeth yn effeithiol ar: opensquare
     / /

(rhowch y dyddiad  -  rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagyr 2005)     

     9
Rydw i wedi fy modloni opensquare
Rydym ni wedi ein bodloni opensquare
(Ticiwch y blwch priodol) bod y polisi yn gwarchod     

fy muddiannau opensquare
ein buddiannau opensquare

     10
Nid oes gennyf opensquare
Nid oes gennym opensquare
(Ticiwch y blwch priodol) reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod eich buddiannau.     




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Os bydd les hir ar dŷ yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant yswirio'r tŷ gydag yswiriwr a enwebwyd neu a gymeradwywyd gan y landlord, caiff tenant osgoi'r gofyniad hwnnw os bydd darpariaethau adran 164(2)(a) i (d) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 sy'n ymwneud â'r yswiriwr, y buddiannau a'r risgiau a warchodir, a swm y warchodaeth, wedi'u bodloni a bod y tenant yn rhoi hysbysiad o warchodaeth i'r landlord o fewn y cyfnod a bennir yn yr adran honno. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth bennu enw'r yswiriwr, y risgiau a warchodir gan y polisi, swm a chyfnod y warchodaeth ac unrhyw wybodaeth bellach y gellir bod wedi'i rhagnodi.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o warchodaeth. Mae'r wybodaeth honno fel a ganlyn:

Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.


Notes:

[1] 2002 p.15. Gweler y diffiniadau o "prescribed" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "the appropriate national authority" o ran Cymru. (Mae'r pwerau a roddir gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o'r Ddeddf honno'n arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y diffiniad o "prescribed" ac adran 179(1).)back

[2] Yn rhinwedd adrannau 164(10) a 179(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yr un ystyr sydd i "house" yn adran 164 ag sydd iddo at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88). Yn y Ddeddf honno yn adran 2 y ceir y diffiniad o "house" .back

[3] Gweler adran 164(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[4] Gweler y diffiniad o "authorised insurer" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091134 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051354w.html