BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 Rhif 1355 (Cy.103)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051355w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1355 (Cy.103)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 17 Mai 2005 
  Yn dod i rym 31 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau[
2] yng Nghymru yn unig.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Cynnwys ychwanegol a ffurf hysbysiad o rent sy'n ddyledus
    
3.  - (1) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno)  - 

    (2) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 3


FFURF AR HYSBYSIAD SY'N GALW AM DALU RHENT


DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002, ADRAN 166

HYSBYSIAD I DDEILIAID LESOEDD HIR O RENT SY'N DDYLEDUS

At:     

(rhowch enw'r lesddeilia(i)d)) (nodyn 1)     
Rhoddir yr hysbysiad hwn ynglyn â:     

(rhowch gyfeiriad y fangre, gan gynnwys y cod post, y mae'r les hir yn ymwneud â hi)     
Mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi dalu rhent o:     
     £

(rhowch y swm) ar:     
     / /

(rhowch y dyddiad  -  rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) (Nodyn 2)     
Mae'r rhent yn daladwy am y cyfnod canlynol:     
fesul wythnos opensquare
fesul mis calendr opensquare
fesul chwarter opensquare
fesul unrhyw gyfnod arall opensquare
(TICIWCH y blwch priodol)     
Yn unol â thelerau eich les mae/yr oedd y swm o:     
     £

(rhowch y swm) yn ddyledus ar:  
     / /

(rhowch y dyddiad y mae/yr oedd rhent yn ddyledus yn unol â'r les  -  rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau  -  e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) (Nodyn 3)     
Dylid talu:     

(rhowch enw'r landlord(iaid) neu, os yw taliad i'w wneud i asiant, enw'r asiant) yn:     

(rhowch y cyfeiriad gan gynnwys y cod post)     
Mae'r hysbysiad hwn yn cael ei roi gan:     

(rhowch enw'r landlord(iaid) ac, os nad yw wedi'i roi uchod, ei gyfeiriad gan cynnwys y cod post)     


NODIADAU AR GYFER LESDDEILIAID

Darllenwch yr hysbysiad hwn yn ofalus. Mae'n nodi swm y rhent sy'n ddyledus gennych a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i chi ei dalu. Fe'ch cynghorir i ofyn am gymorth ar unwaith, os na allwch dalu, neu os ydych yn herio'r swm. Mae'r rhai sy'n gallu'ch helpu yn cynnwys canolfan cyngor ar bopeth, canolfan cynghori ar dai, canol fan gyfraith a chyfreithiwr. Dangoswch yr hysbysiad hwn a chopi o'ch les i bwy bynnag a fydd yn eich helpu.

Mae'n bosibl y gall y landlord hawlio symiau ychwanegol oddi wrthych os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwn. Mae gennych hawl i herio rhesymoldeb unrhyw symiau ychwanegol mewn tribiwnlys prisio lesddaliadau.

Mae Adran 167 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 a'r rheoliadau a wnaed odani yn atal eich landlord rhag peri i chi fforffedu'ch les am beidio â thalu rhent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu (neu gyfuniad ohonynt) os yw'r swm sy'n ddyledus yn £350 neu lai, neu os nad oes dim o'r swm sydd heb ei dalu wedi aros heb ei glirio am fwy na thair blynedd.

NODIADAU AR GYFER LANDLORDIAID

     1. Os anfonwch yr hysbysiad hwn drwy'r post, cyfeiriwch ef at y lesddeiliad yn yr annedd y mae'r taliad yn ddyledus ar ei chyfer, oni bai bod y lesddeiliad wedi'ch hysbysu'n ysgrifenedig o gyfeiriad gwahanol yng Nghymru a Lloegr lle mae'n dymuno bod hysbysiadau o dan adran 166 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn cael eu rhoi iddo.

     2. Rhaid i'r dyddiad hwn beidio â bod naill ai'n llai na 30 niwrnod nac yn fwy na 60 niwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad hwn yn cael ei roi na bod cyn y diwrnod y byddai'r lesddeiliad wedi bod yn atebol i wneud y taliad yn unol â'r les..

     1. Ticiwch y bocs a cynhwyswch y datganiad hwn ddim ond os nad yw'r dyddiad ar gyfer talu yr un fath â'r dyddiad a benderfynwyd yn unol â'r les.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â ffurf a chynnwys hysbysiadau sy'n gofyn bod rhent tir yn cael ei dalu.

Mae Rheoliad 3 yn ychwanegu at adran 166(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o dan adran 166(1) o'r Ddeddf honno, ynglyn â thalu rhent tir, bennu'r swm sy'n ddyledus, y dyddiad y mae'r tenant yn atebol i'w dalu, ac, os yw'n wahanol, y dyddiad y byddai'r tenant wedi bod yn atebol i'w dalu yn unol â'r les. Mae'r gofynion ychwanegol a bennir yn rheoliad 3 yn cynnwys darparu nodiadau ar gyfer lesddeiliaid a landlordiaid. Mae cynnwys y nodiadau wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau, fel rhan o'r ffurf ragnodedig ar hysbysiad o dan adran 166(1).


Notes:

[1] 2002 p.15. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 166(9) o Ddeddf 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "appropriate national authority" o ran Cymru.back

[2] Gweler adran 166(9) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, y diffiniad o "the 1985 Act" yn adran 179(2) o'r Ddeddf honno, ac adran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091135 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051355w.html