BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1357 (Cy.105)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori ) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
17 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 20(4) a (5) a 20ZA(3) i (6) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau
2.
Diwygir rheoliad 4 (Cymhwyso adran 20 i gytundebau hir-dymor cymwys) o Reoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004[2] -
(a) ym mharagraff (3), drwy roi yn lle "Yn" y geiriau "Yn ddarostyngedig i baragraff (3A), yn"; a
(b) drwy fewnosod, ar ôl paragraff (3), y paragraff canlynol -
"
(3A) Os yw landlord -
(a) yn bwriadu ymrwymo i gytundeb hir-dymor cymwys ar neu ar ôl 31 Mai 2005; a
(b) ar unrhyw bryd rhwng 31 Hydref 2003 a 31 Mai 2005, heb gwblhau cyfrifon sy'n berthnasol i daliadau gwasanaeth sy'n cyfeirio at gytundeb hir-dymor cymwys ac sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r anheddau y mae'r cytundeb arfaethedig yn berthnasol iddynt,
y dyddiad perthnasol yw dyddiad cychwyn y cyfnod cyntaf y mae'r taliadau gwasanaeth sy'n cyfeirio at y cytundeb arfaethedig yn daladwy o dan delerau lesoedd yr anheddau hynny.".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 4 ("Rheoliad 4") o Reoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori ) (Cymru) 2004. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer cymhwyso adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 ("Deddf 1985") at gytundebau arbennig yr ymrwymwyd iddynt, gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, am gyfnod o fwy na deuddeng mis ("cytundebau hir-dymor cymwys"), os yw costau perthnasol (a ddiffinnir yn adran 18(2) o Ddeddf 1985) a dynnir o dan y cytundeb mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda yn fwy na swm sy'n peri bod cyfraniad perthnasol unrhyw denant, o ran y cyfnod hwnnw, yn fwy na £100. Mae adran 20 o Ddeddf 1985 yn gosod terfynau ar y swm y mae tenantiaid yn ei gyfrannu at daliadau gwasanaeth o ran cytundebau hir-dymor cymwys oni chydymffurfiwyd â'r gofynion ymgynghori yn Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 neu oni hepgorwyd y gofynion ymgynghori gan dribiwnlys prisio lesddaliad.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau'n effeithio ar unrhyw landlord sy'n bwriadu ymrwymo i gytundeb hir-dymor cymwys ar neu ar ôl 31 Mai 2005 ond dim ond os nad yw'r person hwnnw eisoes wedi cwblhau cyfrifon taliadau gwasanaeth sy'n cyfeirio at gytundeb hir-dymor cymwys o ran yr anheddau y mae'r cytundeb arfaethedig i fod yn berthnasol iddynt.
Mae'r Rheoliadau'n addasu'r modd y gweithredir paragraff (3) o Reoliad 4, sy'n ymwneud â'r diffiniad o'r term "cyfnod cyfrifydda" a ddefnyddir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwnnw. Bydd adran 20 o Ddeddf 1985 yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir uchod os bydd cyfraniad perthnasol unrhyw denant at gostau perthnasol i'w tynnu o dan y cytundeb yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn cychwyn ar y dyddiad perthnasol yn fwy na £100. At y diben hwn, y dyddiad perthnasol yw dyddiad cychwyn y cyfnod cyntaf y mae taliadau gwasanaeth yn daladwy ar ei gyfer gan denant o dan les ar annedd y mae'r cytundeb arfaethedig yn berthnasol iddi. Effaith paragraffau (2) a (4) o Reoliad 4 yw y bydd pob cyfnod cyfrifydda dilynol yn gyfnod o ddeuddeng mis yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y cyfnod cyfrifydda blaenorol wedi dod i ben.
Notes:
[1]
1985 p.70. Cafodd adran 20 ei hamnewid, ac adran 20ZA ei mewnosod, gan adran 151 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15). Gweler hefyd baragraff 4 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno ar gyfer addasiadau sy'n berthnasol i adrannau 20 ac 20ZA sy'n ymwneud â'r hawl i reoli o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf honno. Trosglwyddir swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 20 a 20ZA, i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Landlord a Thenant 1985. Gweler hefyd adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[2]
O.S. 2004/684 (Cy.72).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091137 7
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051357w.html