BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1392 (Cy.106)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
24 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau yn y maes milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
Diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau TSE (Cymru) 2002[4] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "the Community Transitional Measures" rhodder y diffiniad canlynol -
"
"the Community Transitional Measures" means -
(a) Commission Regulation (EC) No. 1248/2001 of 22 June 2001 amending Annexes III, X and XI to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards epidemio-surveillance and testing of transmissible spongiform encephalopathies[5];
(b) Commission Regulation (EC) No. 1326/2001 of 29 June 2001 laying down transitional measures to permit the changeover to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council for the prevention, control and eradication of certain transmissible spongiform encephalopathies, and amending Annexes VII and XI to that Regulation[6];
(c) Commission Regulation (EC) No. 270/2002 of 14 February 2002 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards specified risk material and epidemio-surveillance for transmissible spongiform encephalopathies and amending Regulation (EC) No. 1326/2001 as regards animal feeding and the placing on the market of ovine and caprine animals and products thereof[7];
(d) Commission Regulation (EC) No. 1494/2002 of 21 August 2002 amending Annexes III, VII and XI to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and the Council as regards monitoring of bovine spongiform encephalopathy, eradication of transmissible spongiform encephalopathy, removal of specified risk materials and rules for importation of live animals and products of animal origin[8];
(e) Commission Regulation (EC) No. 1139/2003 of 27 June 2003 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards monitoring programmes and specified risk material[9]; and
(f) Commission Regulation (EC) No. 1492/2004 of 23 August 2004 amending Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards eradication measures for transmissible spongiform encephalopathies in bovine, ovine and caprine animals, the trade and importation of semen and embryos of bovine and caprine animals and specified risk material[10];".
(1) Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 33 (tynnu deunydd risg penodedig o garcasau mewn lladd-dai) mewnosoder yr ymadrodd ", ileum" o flaen y gair "and" lle'r ymddengys y gair hwnnw gyntaf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1416 (Cy.142) a ddiwygiwyd eisoes).
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio O.S. 2002/1416 (Cy.142) drwy -
(a) ddiweddaru'r diffiniad o "the Community Transitional Measures" yn rheoliad 3(1) o'r offeryn hwnnw er mwyn iddo gynnwys y diwygiad o Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) gan -
(i) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1494/2002 (OJ Rhif L225, 22.8.2002, t.3),
(ii) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1139/2003 (OJ Rhif L160, 28.6.2003, t.22), a
(iii) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1492/2004 (OJ Rhif L274, 24.8.2004, t.3) (rheoliad 2(2)), a
(b) ychwanegu'r ilewm at y rhestr o feinweoedd sy'n rhaid eu tynnu o ddefaid a geifr hyn a gigyddwyd mewn lladd-dy neu a gludwyd i ladd-dy ar ôl iddynt gael eu cigydda yn rhywle arall (rheoliad 2(3)).
3.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
O.S. 2003/1246.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[4]
O.S. 2002/1416 (Cy.142) a ddiwygiwyd gan O.S.2003/2756 (Cy. 267) ac O.S. 2004/2735 (Cy.242).back
[5]
OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12.back
[6]
OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.61.back
[7]
OJ Rhif L45, 15.2.2002, t.4.back
[8]
OJ Rhif L225, 22.8.2002, t.3.back
[9]
OJ Rhif L160, 28.6.2003, t.22.back
[10]
OJ Rhif L274, 24.8.2004, t.3.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091138 5
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
1 June 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051392w.html