BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1393 (Cy.107)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051393w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1393 (Cy.107)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 24 Mai 2005 
  Yn dod i rym 31 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt i'w bwydo, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 31 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999
    
2. Caiff Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 ("y prif Reoliadau")[4] eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â rheoliadau 3 i 5.

     3. Yn syth ar ôl rheoliad 9 (gweithdrefn sy'n berthnasol i dynnu cymeradwyaethau yn ôl) mewnosoder y rheoliad a ganlyn  - 

     4. Yn syth ar ôl rheoliad 16 (gweithdrefn sy'n berthnasol i dynnu cymeradwyaethau yn ôl) mewnosoder y rheoliad a ganlyn  - 

     5. Yn syth ar ôl Atodlen 1 (ymadroddion y mae iddynt yr un ystyr ag yng Nghyfarwyddeb 70/524 neu Gyfarwyddeb 95/69) mewnosoder yr Atodlen a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 5


DARPARIAETHAU A FEWNOSODIR AR ÔL ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU


    






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio o ran Cymru Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'i diwygiwyd eisoes), sy'n rhychwantu'r Deyrnas Unedig yn gyfan. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Cyngor 98/728/EC sy'n ymwneud â system Gymunedol o ffioedd yn y sector bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.51).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio O.S. 1999/1872 drwy  - 

     3. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 2003/2901.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). O dan Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw mae "food law" yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt i'w bwydo.back

[4] O.S. 1999/1872, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091140 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 1 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051393w.html